Teithiwch o Birmingham i Amwythig gyda ni am daith gyflym, ddibynadwy a chyfforddus. Gyda gwasanaethau aml a hyd cyfartalog y daith ychydig dros awr, nid yw cyrraedd Amwythig erioed wedi bod yn haws.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Birmingham i Amwythig?

Mae'n cymryd ychydig llai nag awr ar y gwasanaethau cyflymaf ac ychydig dros awr ar eraill.

 

Pa mor aml mae trenau'n rhedeg o Birmingham i Amwythig?

Mae trenau'n rhedeg yn rheolaidd trwy gydol y dydd, gan ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i wasanaeth sy'n gweddu i'ch cynlluniau. P'un a ydych chi'n cymudo, yn ymweld am resymau hamdden neu'n mynd adref, mae ein gwasanaethau aml yn sicrhau taith esmwyth.

 

Pam teithio o Birmingham i Amwythig ar y trên?

Mae Amwythig yn dref hanesyddol sy'n llawn swyn a chymeriad. O strydoedd canoloesol i fannau gwyrdd syfrdanol, mae digon i'w archwilio:

  • Castell Amwythig - Darganfyddwch y gaer hanesyddol hon ger yr orsaf.

  • Parc y Chwarel - Mwynhewch deithiau cerdded glan yr afon a gerddi hardd.

  • Siopau a chaffis annibynnol - Porwch drwy siopau unigryw a bwytai lleol.

Gweler ein canllaw i ymweld ag Amwythig am fwy o syniadau.

 

Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu eich tocynnau trên o Birmingham i Amwythig

Arbedwch arian a theithiwch mewn ffordd sy'n addas i chi gyda'r opsiynau canlynol:

  • Tocynnau Advance*: Prynwch yn gynnar er mwyn bachu’r prisiau gwerth gorau. Mae nifer cyfyngedig o’r tocynnau hyn ar gael a gallant werthu allan yn gyflym.

  • Cardiau rheilffordd: Manteisiwch ar ostyngiadau cerdyn rheilffordd er mwyn arbed hyd at draean ar eich taith nesaf.

  • Tocynnau Unrhyw Bryd: Mae ein tocynnau mwyaf hyblyg yn caniatáu ichi deithio unrhyw adeg o'r dydd, unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.

Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio sy'n dda i’r boced, mewn un lle hawdd eu cyrraedd.

* Tocynnau Advance yw ein prisiau gwerth gorau a gellir defnyddio gostyngiadau cerdyn rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance gan fod nifer cyfyngedig ohonynt ar gael ac maent ond ar werth hyd at 18:00 cyn y diwrnod y byddwch chi'n teithio. Byddwn yn argymell prynu'n gynnar er mwyn osgoi siom.