Ewch i'r tabl cynnwys

Terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig | Adroddiad monitro cenedlaethol (Gorffennaf 2025)

Submitted by Content Publisher on

Terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF

Amseroedd teithio cerbydau Ebrill 2023 i Tachwedd 2024

Ordnance Survey cyflymderau cymedrig

Adroddiad monitro cenedlaethol

 


Diwygiad Terfynol


Dyddiad Cyhoeddi 15 Gorffennaf 2025


 

Crynodeb gweithredol

Mae'r adroddiad hwn yn adolygu data ar effeithiau'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya dros gyfnod o 18 mis ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno ym mis Medi 2023.

Nod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yw hybu diogelwch a llesiant pobl yng Nghymru drwy leihau tebygolrwydd a difrifoldeb gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ogystal ag annog pobl i gerdded, olwyno a beicio wrth wneud teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig. Disgwylir y bydd hefyd yn helpu i greu cymunedau cryfach ac i wella iechyd meddwl a chorfforol.

Mae’r adroddiad hwn yn asesu newidiadau mewn dangosyddion perfformiad allweddol (DPAau) a nodir yn y Fframwaith Monitro Cenedlaethol ar gyfer y terfyn cyflymder o 20mya.¹ Mae’n cynnwys DPAau ar gyflymder cerbydau, amseroedd teithio a dibynadwyedd amseroedd teithio, y rhyngweithio rhwng cerddwyr a cherbydau wrth groesfannau cerddwyr, ac ansawdd yr aer. Mae'r adroddiad yn ystyried y data diweddaraf ar gyfer y DPAau hyn, a gasglwyd hyd at fis Mawrth 2025.

Cyflwynir hefyd grynodeb o'r data sydd ar gael am nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y rhwydwaith ffyrdd er mwyn rhoi syniad cychwynnol o effeithiau'r polisi, gan ddefnyddio data ar gyfer y 12 mis cyn ac ar ôl i'r terfyn cyflymder gael ei gyflwyno.²

Bydd ymchwil ar agweddau'r cyhoedd at y terfyn 20mya yn cael ei chynnal drwy werthusiad polisi ar wahân a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, felly nid oes data ar gyfer y DPAau cysylltiedig ar gael ar gyfer yr adroddiad hwn. Nid oes data ar gyfer y DPA ar allyriadau carbon ar gael ar hyn o bryd, ac mae methodolegau i ddarparu hynny wrthi’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd.

Mae tabl 1 yn crynhoi’r canlyniadau ar gyfer pob un o’r DPAau a adolygwyd. Dyma rai o'r prif ganfyddiadau:

  • Mae cyflymder cerbydau ar brif ffyrdd trwodd 20mya wedi gostwng 3.8mya ar gyfartaledd.
  • Mae 54.0% o gerbydau bellach yn cael eu gyrru ar neu o dan 24mya, mewn cymhariaeth ag 20.8% cyn i’r polisi gael ei gyflwyno. Disgwylir i’r gostyngiadau hyn leihau’r risg o wrthdrawiadau a difrifoldeb yr anafiadau sy’n deillio o hynny.
  • Yng nghyd-destun gostyngiad cyffredinol amlwg, roedd y cyflymder cyfartalog wedi cynyddu ychydig rhwng gaeaf 2023/24 (y cyfnod yn syth ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno) a gaeaf 2024/25 (y cyfnod diweddaraf y mae gennym ddata cyflymder ar ei gyfer).
  • Mae amseroedd teithio cyfartalog wedi cael eu hasesu ar hyd 15 llwybr, yn y bore a gyda'r nos ac i bob cyfeiriad (cyfanswm o 60 o amseroedd teithio). Roedd yr amser teithio cyfartalog wedi cynyddu mewn 57 o achosion o blith 60, ond dim mwy na dau funud yn y rhan fwyaf o achosion (44 o blith 57). Mae amrywioldeb amseroedd teithio wedi lleihau mewn 45 o achosion o blith 60, sy’n rhoi mwy o sicrwydd ynghylch pa mor hir y bydd taith benodol yn ei chymryd.
  • Nid yw’r gwaith o fonitro'r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr ar groesfannau i gerddwyr wedi arwain at ganlyniadau pendant hyd yma, o ran dangos effaith y terfyn cyflymder newydd.
  • Dim ond ar gyfer ardaloedd cam 1 lle cafodd y terfyn 20mya ei dreialu i ddechrau y mae data monitro ansawdd yr aer ar gael ar hyn o bryd, gyda data ar gael hyd at fis Ebrill 2024. Ni ddangosodd y data hwnnw unrhyw wahaniaeth sylweddol mewn crynodiadau nitrogen deuocsid rhwng ardaloedd o fewn y terfyn 20mya a’r tu allan iddo.
  • Er ei bod yn cael ei hystyried yn rhy gynnar i gael asesiad ystyrlon o’r tueddiadau o ran nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu, bu gostyngiad yng nghyfanswm nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd, a oedd wedi lleihau 11.8% yn y pedwar chwarter ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno.

¹ Trafnidiaeth Cymru, Terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig: Dogfen Fframwaith Monitro, 2023

² Mae'n ddoeth defnyddio gwerth o leiaf dair blynedd o ddata am wrthdrawiadau ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno er mwyn gallu cymharu'n ystyrlon â chyfnod o dair blynedd o leiaf cyn i’r polisi gael ei gyflwyno, yn ôl argymhellion y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA (2002) - Road Safety Engineering Manual, RoSPA: Llundain).


Tabl 1: Crynodeb o'r asesiadau DPA

 DPADisgrifiad o’r DPAAsesiadY cyfnod sylfaenY cyfnod diweddaraf
1.1Y ganran sy’n teithio ar neu o dan 24mya (fel procsi ar gyfer cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya)Roedd y nifer a oedd yn teithio ar neu o dan 24mya wedi cynyddu o 20.8% (cyn i’r polisi gael ei gyflwyno) i 54.0%Haf 2023Gaeaf 2024/25
1.2Newid yng nghyflymder yr 85ed ganraddY cyflymder wedi gostwng 3.4myaHaf 2023Gaeaf 2024/25
1.3Newid yn y cyflymder cymedrigY cyflymder wedi gostwng 3.8myaHaf 2023Gaeaf 2024/25

1.4

 

Amseroedd teithio mewn cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio, ar sail y gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio’r 5ed a’r 95ed ganradd fel procsi ar gyfer dibynadwyedd amseroedd teithio, ar brif lwybrau trwodd

 

Cynnydd mewn amseroedd teithio cyfartalog

Gostyngiad yn amrywioldeb yr amseroedd teithio (hynny yw, mae amseroedd teithio yn fwy dibynadwy)

Gwanwyn 2023

 

Hydref 2024

 

2.1,
2.2,
2.3

 

Lleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd³

 

Yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno, bu 11.8% o ostyngiad yng nghyfanswm nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu.

Roedd nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd 20 a 30mya wedi gostwng 26.2%, a’r nifer ar ffyrdd >40mya wedi cynyddu 4.2%.

Nid oes digon o ddata ar gael ar hyn o bryd i allu asesu tueddiadau o ran nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu.

Ch4 2022 - Ch3 2023

 

Ch4 2023 - Ch3 2024

 

3.2Newid mewn ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyrNid oes canlyniadau pendant ar hyn o bryd, gan fod y newidiadau mewn ymddygiad ildio yn amrywio rhwng y safleoedd a aseswyd2023 (Chwefror -Mawrth)2025 (Chwefror -Mawrth)
4.1Newid yn ansawdd yr aer yn lleol - NO2Dim effaith sylweddol wedi’i chanfodMai 2022Ebrill 2024

³ Ar hyn o bryd does dim modd asesu’n ystyrlon y data ar wrthdrawiadau sy’n ymwneud â cherddwyr a beicwyr, gan fod angen gwerth tair blynedd o ddata ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno, yn ôl argymhellion y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA: RoSPA (2002) Road Safety Engineering Manual, RoSPA: Llundain). Yn hytrach na hynny, cyflwynir data ar gyfanswm nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd.


 

1. Cyflwyniad

1.1. Cefndir

Yn dilyn treial cam 1 cychwynnol y terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd penodol, ehangodd Llywodraeth Cymru y terfyn i gynnwys pob ffordd gyfyngedig yng Nghymru ar 17 Medi 2023. Dyma’r polisi cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y DU, a bu diddordeb brwd ymysg y cyhoedd yn ei effeithiau.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau priffyrdd i asesu’r effeithiau hyn drwy fonitro newidiadau mewn rhestr o ddangosyddion perfformiad allweddol (DPAau) a bennwyd ymlaen llaw. Mae’r DPAau hyn wedi’u nodi yn y fframwaith cenedlaethol ar gyfer monitro'r terfyn o 20mya, ac yn cael eu crynhoi yn adran 2 yr adroddiad hwn.⁴

Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar y ddogfen fonitro flaenorol a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024, a dyma'r asesiad cyntaf lle mae gwerth o leiaf blwyddyn lawn o ddata ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno ar gael ar gyfer rhai DPAau. Casglwyd y data mewn amrywiaeth o leoliadau, ac mae'n cynnwys:

  • Data monitro cyflymder cerbydau
  • Data ar amseroedd teithio a dibynadwyedd amseroedd teithio
  • Dadansoddiad o ymddygiad ildio i asesu’r rhyngweithio rhwng cerddwyr a cherbydau wrth groesfannau i gerddwyr mewn ardaloedd 20mya
  • Data monitro ansawdd yr aer o gam 1⁵
  • Data ar nifer y bobl sydd wedi cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd.⁶

 

1.2. Y rhesymeg dros ymyrryd

Bwriad gostwng cyflymder traffig yw bod o fudd i gymunedau a hyrwyddo diogelwch a llesiant pobl yng Nghymru. Disgwylir y bydd cyflwyno terfyn cyflymder is yn lleihau tebygolrwydd a difrifoldeb gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, gyda llai o gerddwyr a beicwyr yn cael eu hanafu’n ddifrifol neu’n angheuol. Nod y terfyn cyflymder is hefyd yw cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru mai cerdded, olwyno a beicio fydd y dewis naturiol ar gyfer teithiau byr bob dydd.⁷

Drwy leihau nifer yr anafiadau a’r marwolaethau ar y ffyrdd, a lleihau effeithiau negyddol defnyddio ceir ar yr amgylchedd ehangach, rhagwelir y bydd y newid i 20mya yn arwain at ragor o fanteision pellgyrhaeddol. Mae’r manteision hyn yn cynnwys:

  • Mwy o bobl yn dewis cerdded, olwyno neu feicio (er enghraifft, yn defnyddio dulliau teithio llesol), gan leihau nifer y teithiau byr a wneir mewn ceir mewn ardaloedd adeiledig
  • Mwy o ryngweithio cymdeithasol mewn cymunedau a rhwng cymunedau, o ganlyniad i strydoedd mwy diogel sy'n ei gwneud yn haws i gerdded a chroesi’r ffordd, gan feithrin cydlyniant cymdeithasol
  • Canlyniadau gwell o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl, yn sgil mwy o weithgarwch corfforol a mwy o ryngweithio cymdeithasol
  • Lleihau costau i’r GIG a threthdalwyr, a lleihau llwyth gwaith y GIG yn sgil llai o wrthdrawiadau ar y ffyrdd (a thrawma ac anafiadau llai difrifol)
  • Lleihau costau i’r GIG wrth i fwy o deithio llesol arwain at well iechyd corfforol a gwell iechyd meddwl
  • Economïau lleol cryfach mewn ardaloedd lle bu problemau oherwydd cyflymder traffig yn y gorffennol, o ganlyniad i fwy o ymwelwyr a mwy o weithgarwch ym maes manwerthu a lletygarwch
  • Cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig i alluogi lleoedd i gynorthwyo iechyd a llesiant pobl a chymunedau.

Er y rhagwelir y manteision pellgyrhaeddol hyn, nid yw’n hawdd eu mesur a’u priodoli i un ymyriad polisi gan fod ystod eang o ffactorau dylanwadol eraill, gan gynnwys ymyriadau eraill Llywodraeth Cymru sy’n ceisio sicrhau manteision tebyg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad polisi ar wahân i gael gwybod beth yw effaith benodol y polisi 20mya o'i gymharu â ffactorau eraill. Yn y cyfamser, mae'r DPAau yn y fframwaith ar gyfer monitro’r terfyn 20mya yn rhoi syniad o'i effeithiau.


⁴ Trafnidiaeth Cymru, Terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig: Dogfen Fframwaith Monitro, 2023

⁵ Cyhoeddir adroddiadau cryno a llawn ar ansawdd aer yn https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/cyhoeddiadau/terfyn-cyflymder-20mya-diofyn

⁶ StatsCymru, Anafusion yn ôl terfyn cyflymder a difrifoldeb, 2025

⁷   Mae’r weledigaeth hon wedi'i nodi yng Nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol (Gorffennaf 2021).


 

2. Amcanion a dangosyddion perfformiad allweddol

2.1. Trosolwg o’r fframwaith monitro

Mae’r fframwaith cenedlaethol i fonitro’r terfyn cyflymder o 20mya (Medi 2023) yn nodi tri amcan craidd ar gyfer gweithredu 20mya fel y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig:

  1. Lleihau nifer yr anafiadau a'r marwolaethau
  2. Annog newid mewn ymddygiad teithio
  3. Lleihau’r effaith negyddol y mae defnyddio cerbydau yn ei chael ar yr amgylchedd ehangach.

Mae’r tri amcan craidd yn gysylltiedig â phum amcan mesuradwy penodol ar gyfer gweithredu’r terfyn cyflymder o 20mya (gweler ffigur 1). Dyma’r amcanion:

  • Lleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd
  • Annog pobl i gerdded a beicio i wneud teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig yn hytrach na defnyddio ceir preifat
  • Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur wrth i gerbydau a cherddwyr ryngweithio â’i gilydd
  • Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth yn sgil newid i gerdded, olwyno a beicio i wneud teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig yn hytrach na defnyddio ceir preifat
  • Cynnal neu wella ansawdd yr aer yn lleol o ganlyniad i gyflymder traffig mwy llyfn a llai o gyflymu ac arafu.

Ffigur 1: Amcanion y terfyn cyflymder diofyn o 20mya

Mesur polisi: Gostwng y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya

Gwella llesiant pobl yng Nghymru

(canlyniadau iechyd, rhyngweithio cymdeithasol, costau’r GIG, economïau lleol)

Lleihau nifer yr anafiadau a'r marwolaethauLleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd
Annog newid mewn ymddygiad teithioAnnog pobl i gerdded a beicio i wneud teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig yn hytrach na defnyddio ceir preifat
Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur wrth i gerbydau a cherddwyr ryngweithio â’i gilydd
Lleihau’r effaith negyddol y mae defnyddio cerbydau yn ei chael ar yr amgylchedd ehangachLleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth
Cynnal neu wella ansawdd yr aer yn lleol

Mae’r cynnydd a wneir i gyflawni’r amcanion hyn yn cael ei fonitro drwy asesu 12 DPA, fel y nodir yn ffigur 2.

Ffigur 2: DPAau ar gyfer asesu effeithiau gweithredu’r terfyn cyflymder diofyn 20mya

AmcanionDangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAau)
 1.1: Cydymffurfiaeth traffig â’r terfyn cyflymder o 20mya1.2: Newid yng nghyflymder yr 85ed ganradd1.3: Newid yn y cyflymder cymedrig
1.4: Amseroedd teithio mewn cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio ar y prif lwybrau trwodd (gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio’r 5ed a’r 95ed ganradd)
Lleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd2.1: Cyfradd y plant (rhwng 5 ac 11 oed) sy’n cael eu lladd neu eu hanafu wrth gerdded, yn ôl rhyw a phumed amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig2.3: Cyfradd y bobl hŷn (dros 75 oed) sy’n cael eu lladd neu eu hanafu wrth gerdded neu feicio, yn ôl rhyw a phumed amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig
2.2: Cyfradd y bobl 12-74 oed sy’n cael eu lladd neu eu hanafu wrth gerdded neu feicio, yn ôl rhyw a phumed amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig
Annog i gerdded a beicio yn hytrach na defnyddio car preifat3.1: Newid mewn agweddau at ddefnyddio dulliau teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig3.2: Newid mewn ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr
Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur wrth i gerbydau a cherddwyr ryngweithio â’i gilydd
Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth
Cynnal neu wella ansawdd yr aer yn lleol
4.1: Newid yn ansawdd yr aer yn lleol - NO24.2: Newid mewn allyriadau CO2
 5.1: Newid yn agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya

 

2.2. Monitro’r broses o gyflwyno’r terfyn cyflymder yn genedlaethol

Asesir y chwe DPA canlynol yn yr adroddiad hwn:

  • DPA 1.1 - Y traffig sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya. Mae hyn yn defnyddio canran y cerbydau sy’n teithio ar neu o dan 24mya fel procsi ar gyfer cydymffurfio⁸
  • DPA 1.2 - Newid yng nghyflymder yr 85ed ganradd⁹
  • DPA 1.3 - Newid mewn cyflymder cyfartalog (cymedrig)
  • DPA 1.4 - Amseroedd teithio mewn cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio ar y prif lwybrau trwodd. Mae’n defnyddio’r gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio'r 5ed a’r 95ed ganradd fel arwydd o ddibynadwyedd amseroedd teithio¹⁰
  • DPA 3.2 - Newid mewn ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr
  • DPA 4.1 - Newid yn ansawdd yr aer yn lleol ar sail crynodiadau nitrogen deuocsid (NO2)

Nid ydym yn adrodd yma ar y chwe DPA sydd ar ôl, am y rhesymau canlynol:

  • DPAau 2.1, 2.2, 2.3 - Cyfraddau cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu. Argymhellir y bydd angen gwerth o leiaf dair blynedd o ddata am wrthdrawiadau ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno er mwyn gallu cymharu’n ystyrlon â chyfnod o dair blynedd o leiaf cyn i’r polisi gael ei gyflwyno.¹¹ Felly, mae’n rhy gynnar i adrodd ar y dangosyddion hyn. Yn hytrach na hynny, mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno data ar gyfanswm nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu y rhoddwyd gwybod i'r heddlu amdanynt yn 2023 a 2024.
  • DPA 3.1 - Newid mewn agweddau tuag at ddefnyddio dulliau teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig. Cafodd y DPA hwn ei asesu i ddechrau yn 2022 drwy ymchwil Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio dulliau teithio llesol i deithio i ysgolion cynradd. Mae crynodeb o'r canfyddiadau blaenorol ar gael yn yr adroddiad hwn er gwybodaeth. Er nad oes data mwy diweddar ar gael ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad llawn o'r polisi 20mya, a fydd yn cynnwys ymchwil newydd ar y DPA hwn.
  • DPA 5.1 - Newid yn agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya. Bydd y DPA hwn yn ystyried canfyddiadau o gyflymderau traffig, sŵn traffig ac effeithiau ar gymunedau, a bydd hefyd yn cael ei asesu drwy werthusiad Llywodraeth Cymru.
  • DPA 4.2 - Newid mewn allyriadau carbon deuocsid (CO2). Nid oes data ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y DPA hwn. Fodd bynnag, mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n adolygu methodolegau posibl i asesu effeithiau'r polisi 20mya ar allyriadau CO2.

⁸ Ar hyn o bryd, ystyrir fel arfer bod cerbydau sy'n teithio o dan 26mya yn cydymffurfio â'r terfyn cyflymder yng Nghymru at ddibenion gorfodi. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd angen i gerbydau deithio o dan 24mya yn y dyfodol i gael eu hystyried yn rhai sy'n cydymffurfio, sy'n gyson â gweddill y DU.

⁹ Y cyflymder y mae 85% o yrwyr yn gyrru arno neu'n is mewn amodau llifo’n rhwydd.

¹⁰ Mae amser teithio'r 5ed ganran yn cynrychioli 5% o’r holl amseroedd teithio a gofnodwyd dros bellter penodol. Mae amser teithio’r 95ed ganran yn cynrychioli amser teithio 95% o deithiau. Mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn fesur o amrywioldeb amseroedd teithio.

¹¹ RoSPA (2002) Road Safety Engineering Manual, RoSPA: Llundain.


 

3. Canlyniadau monitro

3.1. Cyflymderau traffig

Lleoliadau a dulliau

Gosodwyd dyfeisiau monitro cyflymder traffig mewn 43 lleoliad ar draws 10 ardal. Cafwyd data ganddynt ar gyfer y DPAau canlynol:

  • Traffig sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya (DPA 1.1)
  • Newid yng nghyflymder yr 85ed ganradd (DPA 1.2)¹²
  • Newid mewn cyflymder cymedrig (DPA 1.3)

Mae tabl 2 yn rhestru’r lleoliadau lle mae’r cyflymder yn cael ei fonitro. Mae mapiau ar gael yn Atodiad A - sydd ar gael fel dogfen ar wahân ar wefan TrC.

Casglwyd y data gan ddefnyddio dyfeisiau monitro a osodwyd ar draws y gerbytffordd ar y prif ffyrdd trwodd ym mhob ardal. Roedd gan bob ffordd a gafodd ei monitro derfyn cyflymder o 30mya cyn 17 Medi 2023 a therfyn cyflymder o 20mya ar ôl hynny. Adeg y gwaith monitro, doedd dim gwaith ffordd na chyfyngiadau ffisegol eraill (fel mesurau gostegu traffig) ar y ffyrdd, a allai leihau cyflymder traffig.

Cafodd data ar y cyflymder cyn i’r polisi gael ei gyflwyno ei gasglu dros bedair wythnos yn ystod mis Gorffennaf a dechrau mis Medi 2023 (cyfeirir at y cyfnod hwn fel haf 2023). Yn ardal Torfaen (Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon), casglwyd data am gyfnod byrrach dros wythnos ar ddechrau 2023.¹³

Mae'r data ar y cyflymder ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno wedi cael ei gasglu mewn tri cham rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2025, fel a ganlyn:

  • Gaeaf 2023/24: pedair wythnos o ddata a gasglwyd rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2024, ac eithrio cyfnod gwyliau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd
  • Haf 2024: pedair wythnos o ddata a gasglwyd yn ystod mis Gorffennaf 2024 a mis Medi 2024
  • Gaeaf 2024/25: pedair wythnos o ddata a gasglwyd rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Ionawr 2025, ac eithrio cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Mae newidiadau yn y cyflymderau cymedrig ac yng nghyflymderau'r 85ed ganradd ym mhob ardal yn cael eu pwysoli yn ôl llif y traffig ar bob ffordd.


¹² Y cyflymder y mae 85% o yrwyr yn gyrru arno neu'n is mewn amodau llifo’n rhwydd.

¹³ Cafodd y gwaith o gasglu data yn Nhorfaen yn ystod haf 2023 ei gomisiynu’n uniongyrchol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.


Tabl 2: Nifer y dyfeisiau monitro cyflymder, a’u lleoliad

ArdalNifer y lleoliadau monitro cyflymder
Llanbedr Pont Steffan4
Bae Penrhyn¹⁴3
Llanrug3
Allt-yr-ynn (Casnewydd)3
Doc Penfro3
Y Drenewydd4
Tylorstown a Phontygwaith4
Torfaen (Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon)8
Wrecsam10
Peniel1

¹⁴ Ar gyfer yr adroddiad monitro cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024, roedd pedwar safle ym Mae Penrhyn. Ers hynny mae un o'r safleoedd hyn wedi cael ei eithrio o setiau data a gyhoeddir, gan fod terfyn cyflymder o 30mya wedi cael ei ailgyflwyno ar y ffordd ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno. O ganlyniad, ar gyfer pob DPA cyflymder, gall ffigurau haf 2023 amrywio ychydig rhwng yr adroddiad monitro hwn a'r adroddiad blaenorol.


 

Y prif asesiad

Mae tabl 3 yn cyflwyno asesiadau DPA ar gyflymder y traffig ar sail data a gasglwyd rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Ionawr 2025.

Mae unrhyw ostyngiad mewn cyflymder yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau llesiant ehangach, wrth ystyried ei fod yn lleihau’r tebygolrwydd o wrthdrawiadau a difrifoldeb yr anafiadau sy’n deillio o hynny.¹⁵

 

Tabl 3: DPAau ar gyflymder y traffig, cyn ac ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno

DPAHaf 2023 (cyn)Gaeaf 2023/24 (ar ôl)Haf 2024 (ar ôl)Gaeaf 2024/25 (ar ôl)Newid rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25
1.1 Y ganran sy’n teithio ar neu o dan 24mya (fel procsi ar gyfer cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya)20.8%58.7%52.7%54.0%Wedi cynyddu 33.2 pwynt canran
1.2 Newid yng nghyflymder yr 85ed ganradd32.9 mya29.1 mya29.8 mya29.5 myaWedi gostwng 3.4mya
1.3 Newid mewn cyflymder cymedrig28.7 mya24.4 mya25.1 mya24.9 myaWedi gostwng 3.8mya

¹⁵ Canfu astudiaeth yn 2000 fod pob gostyngiad o 1mya mewn cyflymderau cymedrig mewn ardaloedd trefol yn gysylltiedig â 2%-7% o ostyngiad o ran amlder gwrthdrawiadau. Ffynhonnell: Taylor, M., Lynam, D., Baruya, A. (2000) The effects of drivers’ speed on the frequency of road accidents, Crowthorne, TRL


 

Cydymffurfio â therfynau cyflymder (DPA 1.1)

Ar gyfer DPA 1.1, mae unrhyw un sy’n gyrru ar neu o dan 24mya yn cael ei ystyried fel rhywun sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder newydd, at ddibenion yr adroddiad hwn. Mae ffigur 3 yn dangos y newid yng nghyfran y cerbydau sy’n teithio ar neu o dan 24mya ym mhob ardal. Mae'r cymedr pwysedig cyffredinol yn cael ei bwysoli yn ôl llif y traffig ym mhob ardal. Cynyddodd y gyfran hon o 20.8% yn ystod haf 2023 (cyn i’r polisi gael ei gyflwyno) i 54.0% yn ystod gaeaf 2024/25.

Gwelwyd amrywiadau dros amser (58.7% yn ystod gaeaf 2023/24, 52.7% yn ystod haf 2024, ac yna 54.0% yn ystod gaeaf 2024/25), ond yn gyffredinol mae nifer y cerbydau sy'n cael eu gyrru ar neu o dan 24mya wedi cynyddu’n sylweddol.¹⁶

 

Ffigur 3: Canran y cerbydau oedd yn teithio ar neu o dan 24mya, rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25

Ffigur 3: Canran y cerbydau oedd yn teithio ar neu o dan 24mya, rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25

Ym Mheniel y gwelwyd y newid mwyaf, lle’r oedd canran y cerbydau a oedd yn teithio ar neu o dan 24mya wedi cynyddu 50.6 pwynt canran - o 9.9% i 60.5% (rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25). Yn Tylorstown y gwelwyd y newid lleiaf - wedi cynyddu 21.0 pwynt canran.


¹⁶ Yn ffigur 3 dim ond y gwerthoedd gwirioneddol ar gyfer y cymedr pwysedig cyffredinol sy’n ymddangos, yn hytrach na’r gwerthoedd ar gyfer pob ardal unigol, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn rhesymol eglur yn weledol.


 

Dosbarthu cyflymder

Mae ffigur 4 yn dangos sut mae canran y gyrwyr mewn gwahanol gategorïau cyflymder wedi newid ers i’r polisi gael ei gyflwyno. Rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25, roedd cyfran y cerbydau a oedd yn gyrru ar 20-24mya wedi cynyddu o 15.8% i 38.6%, a chyfran y cerbydau a oedd yn gyrru dros 24mya wedi gostwng o 79.3% i 46.0%.

Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod cyflymder y traffig yn arafu'n gyffredinol. Mae hyn yn wir hyd yn oed ymysg y gyrwyr hynny sy'n gyrru'n llawer cyflymach na'r terfyn cyflymder, a welir wrth i ganran y cerbydau sy'n teithio ar 35mya neu uwch ostwng o 10.4% i 3.9%.

 

Ffigur 4: Cyfran y cerbydau oedd yn teithio mewn gwahanol gategorïau cyflymder, rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25

Ffigur 4: Cyfran y cerbydau oedd yn teithio mewn gwahanol gategorïau cyflymder, rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25

 

Cyflymder yr 85ed ganradd (DPA 1.2)

cerbydau a arsylwyd yn teithio, ac mae'n fesur safonol a ddefnyddir i werthuso cyfyngiadau cyflymder. Yn wahanol i'r mesur cyflymder cymedrig, nid yw'r gyfran fach o yrwyr sy'n teithio’n gyflym iawn ac ymhell uwchlaw'r terfyn cyflymder yn effeithio ar y mesur hwn.

Wrth gymharu'r cyfnod diweddaraf (gaeaf 2024/25) â'r cyfnod cyn i’r polisi gael ei gyflwyno (haf 2023), roedd cyflymderau’r 85ed ganradd wedi lleihau ym mhob ardal, fel y gwelir yn ffigur 5. Dangosodd y canlyniadau:

  • bod cyflymderau'r 85ed ganradd wedi gostwng 3.4mya ar gyfartaledd, o 32.9mya i 29.5mya
  • mai ym Mheniel (-5.2mya), Doc Penfro (-4.9mya) a Llanbedr Pont Steffan (-4.7mya) y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yng nghyflymderau’r 85ed ganradd¹⁷
  • mai yn Allt-yr-ynn (Casnewydd) y gwelwyd y gostyngiad lleiaf (-2.3mya).

 

Figure 5: 85th percentile speeds, summer 2023 to winter 2024/25

Ffigur 5: Cyflymderau’r 85 ganradd, rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25

¹⁷ Cafodd data Peniel ei ddiwygio yng nghyhoeddiad Rhagfyr 2024 i gywiro gwall bach yn y ffordd y cafodd yr 85ed ganradd ei chyfrifo ar gyfer y safle.


 

Cyflymderau cymedrig (DPA 1.3)

Mae ffigur 6 yn cymharu cyflymderau cymedrig dros amser ers i’r polisi terfyn cyflymder diofyn gael ei gyflwyno ym mis Medi 2023. Y cyflymder cymedrig pwysedig cyffredinol yn y cyfnod diweddaraf (gaeaf 2024/25) oedd 24.9mya, sy’n 3.8mya o ostyngiad wrth gymharu â haf 2023 (cyn i’r polisi gael ei gyflwyno). Ym Mheniel (-6.0mya), Bae Penrhyn (-5.1mya) a Doc Penfro (-4.7mya) y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf.

Mae’r cyflymderau cymedrig wedi amrywio dros amser (24.4mya yn ystod gaeaf 2023/24, 25.1mya yn ystod haf 2024, ac wedyn 24.9mya yn ystod gaeaf 2024/25). Ond yn gyffredinol, bu gostyngiad sylweddol a pharhaus mewn cyflymderau cymedrig wrth gymharu â'r cyfnod cyn i’r polisi gael ei gyflwyno.

 

Ffigur 6: Cyflymderau cymedrig, rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25

Ffigur 6: Cyflymderau cymedrig, rhwng haf 2023 a gaeaf 2024/25

 

Tueddiadau cyflymder traffig

Mae tabl 4 yn cyflwyno'r cyflymderau cymedrig a gofnodwyd ym mhob un o'r deg ardal fonitro yn syth ar ôl i'r terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya gael ei gyflwyno ym mis Medi 2023, ac mewn cyfnodau monitro dilynol hyd at fis Ionawr 2025. Mae’r cyflymder cymedrig pwysedig cyffredinol i’w weld yn ffigur 7. Mae hyn yn dangos bod y cyflymder cymedrig pwysedig wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i'r terfyn cyflymder gael ei gyflwyno, ac wedi aros yn gymharol sefydlog.

 

Tabl 4: Tueddiadau mewn cyflymderau cymedrig (mya), rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Ionawr 2024

ArdalGorff. 2023 (Cyn)Medi 2023 (Cyn)Tach 2023 (Ar ôl)Ionawr 2024 (Ar ôl)Gorff. 2024 (Ar ôl)Medi 2024 (Ar ôl)Tach 2024 (Ar ôl)Ionawr 2025 (Ar ôl)
Llanbedr Pont Steffan30.228.724.124.425.325.724.825.2
Bae Penrhyn30.029.623.823.524.525.324.824.6
Llanrug30..330.426.625.725.826.127.126.6
Allt-yr-ynn (Casnewydd)27.125.423.123.324.624.224.123.0
Doc Penfro28.129.024.123.524.625.123.823.9
Y Drenewydd29.230.425.725.625.825.925.526.2
Tylorstown29.927.225.725.523.925.525.125.7
Torfaen30.1*26.226.427.026.426.426.4
Wrecsam28.427.523.223.524.224.124.323.9
Peniel31.529.723.223.724.824.924.624.6
Cymedr pwysedig cyffredinol29.228.224.424.425.025.225.024.9

 * Ni chasglwyd data yn Nhorfaen yn ystod y cyfnod hwn.

 

Ffigur 7: Tueddiadau cyflymder cymedrig, rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Ionawr 2025, cymedr pwysedig (pob ardal)

Ffigur 7: Tueddiadau cyflymder cymedrig, rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Ionawr 2025, cymedr pwysedig (pob ardal)

(a) Newidiodd y terfyn cyflymder ar ffyrdd sy'n cael eu monitro o 30mya i 20mya ar 17 Medi 2023. Felly, mae'r data o fis Tachwedd 2023 ymlaen yn ymwneud â ffyrdd sydd â therfyn cyflymder diofyn o 20mya.

 

Data ychwanegol - cyflymderau cyfartalog ar ffyrdd A a B yn ôl amser o'r dydd

Mae data o set ddata Cyflymder Dangosol a Chyfartalog Cronfa Ddata Ddaearyddol Genedlaethol yr Arolwg Ordnans (OS)¹⁸ yn ffynhonnell ychwanegol o ddata ar gyfer asesu newidiadau mewn cyflymderau cymedrig. Daw set ddata'r Arolwg Ordnans o delemateg mewn cerbydau o sampl gymharol fach o gerbydau, sy'n golygu ei bod yn debygol o fod yn fwy dibynadwy ar gyfer ffyrdd dosbarthiadol A a B prysurach.

Er bod ffynhonnell ddata'r Arolwg Ordnans yn darparu data cenedlaethol, sampl fach sydd ar gael ar bob ffordd, felly does dim modd defnyddio'r data hwnnw i fesur y set gyflawn o ddangosyddion perfformiad allweddol sy'n gysylltiedig â chyflymder yn yr adroddiad hwn. Hefyd, gan fod data'r Arolwg Ordnans yn darparu'r cyflymder cyfartalog ar gyfer cysylltiadau ffyrdd ar eu hyd, mae cerbydau sy'n teithio ar gyflymder is wrth agosáu at gyffyrdd yn effeithio ar y data.

Felly, mae data'r Arolwg Ordnans yn ychwanegol at y data a gafwyd o'r 43 o safleoedd monitro.

Rydym wedi cael y cyflymderau cyfartalog o ddata'r Arolwg Ordnans ar gyfer pob ffordd A a B oedd â therfyn cyflymder o 30mya ym mis Ebrill 2023 ac 20mya ym mis Ebrill 2025, sy’n dod i gyfanswm o 1,065 km o ffordd¹⁹. Daw'r data o gyfnod o chwe mis hyd at fis Ebrill 2023, felly cyn i’r polisi gael ei gyflwyno, a chyfnod o chwe mis hyd at fis Ebrill 2025, felly ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno.

Mae ffigur 8 a thabl 5 yn dangos bod y cyflymder cymedrig, yn ôl data’r Arolwg Ordnans, wedi gostwng rhwng 2.2mya a 4.5mya ym mhob cyfnod ar ôl i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno ar ffyrdd cyfyngedig. Mae'n newid ar raddfa debyg i'r 3.8mya o ostyngiad mewn cyflymderau cyfartalog a gofnodwyd yn y 43 safle monitro.

Ffigur 8: Cyflymderau cymedrig yn ôl amser o'r dydd, cyn ac ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno (data'r Arolwg Ordnans)

Ffigur 8: Cyflymderau cymedrig yn ôl amser o'r dydd, cyn ac ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno (data'r Arolwg Ordnans)

¹⁸ Average And Indicative Speed | OS National Geographic Database

¹⁹  Yn y cyd-destun hwn, mae pob km o ffordd yn golygu 1km o lôn ddwyffordd.


 

Tabl 5: Cyflymderau cymedrig yn ôl amser o'r dydd, cyn ac ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno (data’r Arolwg Ordnans)

CyfnodEbr-23Ebr-25Gwahaniaeth mewn cyflymder cymedrig (mya)Newid cymharol mewn cyflymder cymedrig
Cyfnod Tawelach, rhwng 0400 a 0700 yn ystod yr wythnos27.823.3-4.5-16.2%
Cyfnod Prysuraf y Bore, rhwng 0700 a 0900 yn ystod yr wythnos24.420.5-3.9-16.0%
Rhwng Cyfnodau Prysur, rhwng 0900 a 1200 yn ystod yr wythnos24.020.3-3.7-15.4%
Rhwng Cyfnodau Prysur, rhwng 1200 a 1400 yn ystod yr wythnos24.120.4-3.7-15.4%
Rhwng Cyfnodau Prysur, rhwng 1400 a 1600 yn ystod yr wythnos23.920.4-3.5-14.6%
Cyfnod Prysuraf y Prynhawn, rhwng 1600 a 1900 yn ystod yr wythnos24.921.3-3.6-14.5%
Cyfnod Tawelach, rhwng 1900 a 2200 yn ystod yr wythnos27.023.6-3.5-12.6%
Cyfnod Tawelach, rhwng 2200 a 0400 yn ystod yr wythnos28.525.7-2.8-9.8%
Cyfnod Tawelach, rhwng 0400 a 0700 ar benwythnos30.026.0-4.0-13.3%
Cyfnod Tawelach, rhwng 0700 a 1000 ar benwythnos26.723.0-3.7-13.9%
Cyfnod Tawelach, rhwng 1000 a 1400 ar benwythnos25.221.7-3.5-13.9%
Cyfnod Tawelach, rhwng 1400 a 1900 ar benwythnos26.022.4-3.6-13.8%
Cyfnod Tawelach, rhwng 1900 a 2200 ar benwythnos27.924.5-3.4-12.2%
Cyfnod Tawelach, rhwng 2200 a 0400 ar benwythnos28.226.1-2.2-7.4%

Yn ystod y cyfnod rhwng 0400 a 0700 AM yn ystod yr wythnos y gwelwyd y gostyngiad mwyaf, sef 4.5 mya, a rhwng 2200 PM a 0400 AM ar benwythnosau y gwelwyd y gostyngiad lleiaf, sef 2.2 mya. Mae’n drawiadol i ba raddau mae gyrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder newydd rhwng 0700 a 1900 yn ystod yr wythnos, gyda chyflymderau cymedrig yn is na 22mya.

 

3.2. Dibynadwyedd amseroedd teithio

Y prif asesiad

Tabl 6: Asesiad o’r DPA amseroedd teithio ac amrywioldeb amseroedd teithio

DPADisgrifiad o’r DPAAsesiad
1.4Amseroedd teithio mewn cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio ar y prif lwybrau trwoddYn gyffredinol, mae’r amseroedd teithio cyfartalog wedi cynyddu, ac mae amrywioldeb yr amseroedd teithio wedi lleihau (hynny yw, mae amseroedd teithio yn fwy dibynadwy)

Lleoliadau a dulliau

Mae data wedi’i anonymeiddio o delemateg cerbydau (a gasglwyd gan INRIX) wedi cael ei ddefnyddio i asesu amseroedd teithio a dibynadwyedd amseroedd teithio ar 15 o lwybrau, a nodwyd yn nhabl 7. Mae’r holl fanylion i’w gweld yn Atodiad B, a gyflwynir fel dogfen ar wahân ar wefan TrC.

Dewiswyd y llwybrau i gynrychioli ystod eang o wahanol fathau o lwybrau a hyd llwybrau gan gynnwys llwybrau gwledig rhyng-drefol, llwybrau trefol byr, llwybrau i gyrchfannau y tu allan i drefi, llwybrau cymudo a llwybrau ysgol.

Ar gyfer pob un o'r 15 llwybr, cyflwynir pedwar amser teithio cyfartalog, i bob cyfeiriad ac ar gyfer pob cyfnod prysur (AM a PM), felly mae cyfanswm o 60 o amseroedd teithio cyfartalog. Mae’r rhain i'w gweld yn llawn yn nhabl 17 yn Atodiad C.

Cafwyd data ar gyfer y cyfnod cyn i’r polisi gael ei gyflwyno, rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2023 (gwanwyn 2023), data ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno, rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2024 (gwanwyn 2024) ac eto rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2024 (hydref 2024). Cafwyd data ar gyfer dyddiau Mawrth, Mercher ac Iau, gan osgoi hefyd y gwyliau cyhoeddus o amgylch y Pasg i sicrhau cymariaethau tebyg am debyg.

Tabl 7: Llwybrau a ddefnyddiwyd i asesu amseroedd teithio

LlwybrCyfeiriadDisgrifiad o’r llwybrPellter (km)
1AAberystwyth i Aberteifi61
1BAberteifi i Aberystwyth61
2ALlandudno i Fetws-y-coed29
2BBetws-y-coed i Landudno29
3ACaerfyrddin i Goleg Sir Gâr27
3BColeg Sir Gâr i Gaerfyrddin27
4APorthmadog i Gaernarfon32
4BCaernarfon i Borthmadog32
5ACaerffili i Gasnewydd18
5BCasnewydd i Gaerffili18
6AWrecsam i Lannau Dyfrdwy (Shotton)20
6BGlannau Dyfrdwy (Shotton) i Wrecsam20
7ATyddewi i Hwlffordd25
7BHwlffordd i Dyddewi25
8AYstrad Mynach i Crosskeys12
8BCrosskeys i Ystrad Mynach12
9ASgeti i Dreforys9
9BTreforys i Sgeti9
10APont-y-pŵl i Flaenafon11
10BBlaenafon i Bont-y-pŵl11
11ABangor Is-coed i Ysbyty Maelor Wrecsam10
11BYsbyty Maelor Wrecsam i Fangor Is-coed10
12AYsbyty’r Barri i Ddinas Powys8
12BDinas Powys i Ysbyty’r Barri8
13ALlanelwy i Ddinbych9
13BDinbych i Lanelwy9
14ATrefforest i Nantgarw7
14BNantgarw i Drefforest7
15ACoed-poeth i Ysbyty Maelor Wrecsam5
15BYsbyty Maelor Wrecsam i Goed-poeth5

 

Newidiadau mewn amseroedd teithio wrth gymharu â 2023 (cyn i’r polisi gael ei gyflwyno)

Mae ffigur 9 yn cyflwyno amseroedd teithio cyfartalog ar gyfer y cyfnod diweddaraf (hydref 2024). Mae ffigurau 10 ac 11 yn dangos y newid absoliwt a chymharol mewn amseroedd teithio ar gyfer y cyfnod diweddaraf (hydref 2024) wrth gymharu â'r cyfnod cyn i’r polisi gael ei gyflwyno (gwanwyn 2023). Dyma rai o'r prif ganfyddiadau:

  • Yn y rhan fwyaf o achosion (57 o blith 60), mae amseroedd teithio cyfartalog wedi cynyddu rhwng gwanwyn 2023 (cyn i’r polisi gael ei gyflwyno) a hydref 2024. Mae'r cynnydd ym mhob un o'r 57 o achosion yn llai na phedwar munud.²⁰ Yn y mwyafrif helaeth o achosion (44 o blith 57), mae'r cynnydd yn llai na dau funud.
  • Y cynnydd mwyaf yn yr amseroedd teithio cyfartalog oedd ychydig llai na phedwar munud - ar y llwybr o Aberystwyth i Aberteifi (llwybr rhif 1) yn ystod cyfnod prysuraf y bore. Fodd bynnag, dim ond 5.9% o gynnydd yn hyd yr amser teithio yw hyn, sy’n adlewyrchu’r ffaith bod y llwybr hwn, sy’n 61km, yn hirach o lawer na’r lleill.
  • Y newid canrannol mwyaf oedd 15.4% o gynnydd ar lwybr Coedpoeth i Ysbyty Maelor Wrecsam (rhif llwybr 15A) yn ystod cyfnod y bore.

Ffigur 9: Amseroedd teithio cyfartalog hydref 2024 yn ôl llwybr²¹

Ffigur 9: Amseroedd teithio cyfartalog hydref 2024 yn ôl llwybr

²⁰ Cyfrifwyd yr amseroedd teithio cyfartalog ar hyd pob un o’r 15 llwybr, i bob cyfeiriad ac ym mhob cyfnod prysur (bore a phrynhawn), felly mae 60 o amseroedd teithio cyfartalog i gyd.

²¹ Edrychwch ar dabl 7 i weld enwau’r llwybrau, sydd wedi’u rhifo o 1 i 15 ar echelin x. Mae Atodiad B (a ddarperir fel dogfen ar wahân ar wefan TrC) yn cynnwys map sy'n dangos ble mae'r llwybrau.


 

Ffigur 10: Newid mewn amseroedd teithio cyfartalog, rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024

Ffigur 10: Newid mewn amseroedd teithio cyfartalog, rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024

 

Ffigur 11: Newid canrannol mewn amseroedd teithio cyfartalog, rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024

Ffigur 11: Newid canrannol mewn amseroedd teithio cyfartalog, rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024

 

Newidiadau mewn amseroedd teithio yn ystod 2024

Wrth gymharu'r cyfnod diweddaraf (hydref 2024) â'r cyfnod cyntaf ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno (gwanwyn 2024), cynyddodd amseroedd teithio ychydig yn ystod y flwyddyn, ond o lai na munud yn y rhan fwyaf o achosion.

  • Y cynnydd absoliwt mwyaf oedd dau funud a 12 eiliad ar y llwybr o Landudno i Fetws-y-coed (2A) yn y prynhawn
  • Y cynnydd cymharol mwyaf oedd 8.5%, a welwyd ar y llwybr o Goedpoeth i Ysbyty Maelor Wrecsam (15A) yn y bore.

Newidiadau yn nibynadwyedd amseroedd teithio

Mae dibynadwyedd amseroedd teithio yn fesur o ba mor rhagweladwy yw unrhyw amrywioldeb mewn amseroedd teithio i'r unigolyn sy'n teithio. Mae amseroedd teithio annisgwyl fel arfer yn adlewyrchu tagfeydd traffig. Mae amseroedd teithio annisgwyl neu annibynadwy yn golygu bod hyd yr un daith a wneir ar yr un amser, ond ar ddiwrnodau gwahanol, yn gallu amrywio.

Mae amrywioldeb amseroedd teithio wedi cael ei gynnwys fel rhan o fel DPA 1.4 yn y fframwaith monitro cenedlaethol, i asesu a yw’r terfyn cyflymder diofyn newydd ar ffyrdd cyfyngedig wedi newid dibynadwyedd amseroedd teithio o gwbl. Ar gyfer y DPA hwn, mae dibynadwyedd wedi cael ei ddiffinio fel yr ystod amser teithio ar lwybr penodol rhwng y 5% gyflymaf (y 5ed ganradd) a’r 5% arafaf (y 95ed ganradd) o bob taith.

Mae dibynadwyedd amseroedd teithio cyfartalog wedi cael ei fesur ar hyd pob un o’r 15 llwybr, i bob cyfeiriad ac ym mhob cyfnod prysur (bore a phrynhawn), felly mae 60 o ganlyniadau ar amrywioldeb amseroedd teithio wedi’u cyflwyno i gyd.

Yn ffigur 12, gwelir ar y chwith yr amrywioldeb mewn amseroedd teithio cyfartalog ar gyfer y cyfnod cyn i’r polisi gael ei gyflwyno (gwanwyn 2023), ac ar y dde gwelir yr amrywioldeb ar gyfer y cyfnod diweddaraf ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno (hydref 2024). Mae gwaelod pob bar yn cynrychioli amser teithio’r 5ed ganradd ac mae’r top yn cynrychioli amser teithio’r 95ed ganradd. Felly, mae hyd pob bar yn cynrychioli amrywioldeb amseroedd teithio ar gyfer y llwybr hwnnw.

Mewn llawer o achosion, mae'r bar cyfan wedi symud i fyny, sy'n dangos bod yr amser teithio cyfartalog wedi cynyddu rhywfaint. Ar yr un pryd, mae hyd y bar wedi lleihau, sy'n golygu llai o amrywioldeb o ran amseroedd teithio. Mae hyn yn golygu bod amseroedd teithio ychydig yn hirach ond yn fwy dibynadwy ar y rhan fwyaf o lwybrau, felly mae’n haws rhagweld pa mor hir y bydd y daith yn ei chymryd.

Yn gyffredinol, mae amrywioldeb amseroedd teithio wedi lleihau, ac felly mae amseroedd teithio yn fwy dibynadwy. Rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024:

  • Yn nhri chwarter yr achosion (45 o blith 60), roedd amrywioldeb amseroedd teithio wedi lleihau.²²
  • Mewn cwta hanner yr achosion (29 o blith 60), mae amrywioldeb amseroedd teithio wedi lleihau dros 20%.
  • Mewn chwarter o achosion (15 o blith 60), roedd amrywioldeb amseroedd teithio wedi cynyddu, ond dim ond mewn dau achos yr oedd wedi cynyddu fwy na munud. Roedd y ddau achos ar y llwybr o Goleg Sir Gâr i Gaerfyrddin (3B), a welodd y cynnydd mwyaf mewn amrywioldeb, sef +1:42 munud (63.0%) yn y prynhawn.

²² Mesurwyd dibynadwyedd yr amseroedd teithio cyfartalog ar hyd pob un o’r 15 llwybr, i bob cyfeiriad ac ym mhob cyfnod prysur (bore a phrynhawn), felly mae cyfanswm o 60 o gyfrifiadau.


 

Ffigur 12: Amrywioldeb amseroedd teithio cyfartalog yn ôl llwybr i’r ddau gyfeiriad a chyfnod amser (AM a PM)²³

Ffigur 12: Amrywioldeb amseroedd teithio cyfartalog yn ôl llwybr i’r ddau gyfeiriad a chyfnod amser (AM a PM)
Ffigur 12: Amrywioldeb amseroedd teithio cyfartalog yn ôl llwybr i’r ddau gyfeiriad a chyfnod amser (AM a PM)

²³ Edrychwch ar dabl 7 i weld enwau’r llwybrau, sydd wedi’u rhifo o 1 i 15 ar echelin x. Mae map sy’n dangos ble mae’r llwybrau i’w weld yn Atodiad B, a gyflwynir fel dogfen ar wahân ar wefan TrC.


 

Mae ffigurau 13 ac 14 yn dangos y newidiadau yn amrywioldeb yr amseroedd teithio cyfartalog mewn termau absoliwt (munudau) a thermau cymharol (canrannau).²⁴

Ffigur 13: Newid absoliwt mewn amrywioldeb amseroedd teithio, rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024

Ffigur 13: Newid absoliwt mewn amrywioldeb amseroedd teithio, rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024

Ffigur 14: Newid cymharol mewn amrywioldeb amseroedd teithio, rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024

Ffigur 14: Newid cymharol mewn amrywioldeb amseroedd teithio, rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024

²⁴ Edrychwch ar dabl 7 i weld enwau’r llwybrau, sydd wedi’u rhifo o 1 i 15 ar echelin x. Mae Atodiad B (a gyflwynir fel dogfen ar wahân ar wefan TrC) yn dangos ble mae’r llwybrau.


 

3.3. Newid mewn agweddau at ddefnyddio dulliau teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig

Y prif asesiad

Nid oes data newydd ar gael i gadw golwg ar y DPA ar agweddau at deithio llesol. Fodd bynnag, mae canlyniadau ymchwil cam 1 yn 2022 wedi’u cynnwys yma er gwybodaeth.

Tabl 8: Asesiad o’r DPA ar deithio llesol

DPADisgrifiad o’r DPAAsesiad (Tachwedd 2022)
3.1Newid mewn agweddau at ddefnyddio dulliau teithio llesol mewn ardaloedd adeiledigMae'r defnydd o ddulliau teithio llesol i deithio i’r ysgol mewn ardaloedd 20mya cam 1 wedi cynyddu 25 pwynt canran, o'i gymharu â 18 pwynt canran mewn lleoliadau rheoli 30mya

Roedd yr ymchwil hon²⁵ , a gynhaliwyd gan Living Streets ar ran Llywodraeth Cymru, yn asesu ymddygiadau teithio ac agweddau at deithio llesol (cerdded, olwyno a beicio). Cynhaliwyd arolygon gyda 3,036 o blant mewn dau grŵp o ysgolion cynradd mewn:

  • Ardaloedd Cam 1, lle'r oedd y terfyn cyflymder wedi cael ei ostwng i 20mya
  • Ardaloedd rheoli ar wahân, lle'r oedd y terfyn cyflymder wedi aros ar 30mya.

Dangosodd arolygon llinell sylfaen yn rhan gyntaf blwyddyn academaidd 2021/22 fod 49% o blant ar draws yr ardaloedd cam 1 a’r ardaloedd rheoli naill ai wedi cerdded neu feicio i’r ysgol.

Dangosodd arolygon a gynhaliwyd yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn academaidd fod teithio llesol wedi cynyddu ymhlith plant ysgol yn yr ardaloedd cam 1 yn ogystal â’r ardaloedd rheoli.

Fodd bynnag, mewn ysgolion yn yr ardaloedd cam 1, cynyddodd teithio llesol o 49% i 74% (25 pwynt canran o gynnydd), o’i gymharu â chynnydd o 49% i 67% (18 pwynt canran o gynnydd) yn yr ardaloedd rheoli.


²⁵ Wales 20mph pilot support: end-of-project-report-20mph.pdf


 

3.4. Rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

Y prif asesiad

Mae tabl 9 yn cyflwyno’r prif asesiad o’r DPA ar y rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr ar sail data a gasglwyd mewn tair ardal cyn ac ar ôl i’r terfyn cyflymder o 20mya gael ei gyflwyno.

Tabl 9: Asesiad o’r DPA ar y rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

DPADisgrifiad o’r DPAAsesiad
3.2Newid mewn ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyrNid yw’r canlyniadau’n bendant ar hyn o bryd, gan fod y newidiadau mewn ymddygiad ildio yn amrywio rhwng y safleoedd a aseswyd.

Lleoliadau a dulliau

Cafodd VivaCity ei gomisiynu gan Trafnidiaeth Cymru i fonitro'r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr gan ddefnyddio camerâu arbenigol, i asesu sut mae gyrwyr yn ymateb i gerddwyr sy'n bwriadu croesi neu sydd eisoes yn croesi'r ffordd.

Mae data wedi cael ei ddadansoddi ar gyfer y cyfnod cyn i’r polisi gael ei gyflwyno, pan oedd y terfyn cyflymder yn 30mya (28 Chwefror - 31 Mawrth 2023), a dau gyfnod ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno, pan oedd y terfyn cyflymder yn 20mya (19 Chwefror - 18 Mawrth 2024, a 1 - 28 Chwefror 2025). Gwnaed hyn ar dair croesfan i gerddwyr:

  1. Gilwern, Crickhowell Road (Safle 1)
  2. Queensferry, Station Road (Safle 2)
  3. Y Ddraenen Caerdydd, croesfan sebra Excalibur Drive (Safle 3).

Roedd meddalwedd a oedd wedi’i chysylltu â’r camerâu yn neilltuo’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr i un o bum categori ar wahân:

  • Cerbyd wedi arafu neu stopio, er mwyn gadael i gerddwr groesi
  • Cerbyd wedi cynnal y cyflymder, gyda cherddwr yn aros wrth y groesfan
  • Cerbyd wedi cynnal y cyflymder, gyda cherddwr eisoes yn croesi’r ffordd
  • Cerbyd wedi cyflymu, er bod cerddwr yn aros wrth y groesfan
  • Cerbyd wedi cyflymu, er bod cerddwr eisoes yn croesi’r ffordd.

Nid yw achosion lle’r oedd cerbydau ‘wedi cynnal y cyflymder gyda cherddwr eisoes yn croesi’r ffordd’ o reidrwydd yn arwydd o ymddygiad peryglus, gan y byddai hyn yn dibynnu ar gyflymder y cerbyd, a’r pellter oddi wrth y groesfan ac union leoliad y cerddwr.

Canlyniadau monitro - y rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

Dangosir y canlyniadau monitro yn nhabl 10.

Tabl 10: Y rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr, rhwng 2023 a 2025

Y rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyrWedi arafu neu stopioWedi cynnal y cyflymder: Yn gyffredinolWedi cynnal y cyflymder: cerddwr yn arosWedi cynnal y cyflymder: cerddwr yn croesiWedi cyflymu: Yn gyffredinolWedi cyflymu: cerddwr yn arosWedi cyflymu: cerddwr yn croesi

Safle 1: 2023

Safle 1: 2024

Safle 1: 2025

70.5%

73.7%

76.5%

24.4%

18.0%

15.6%

20.9%

13.2%

14.8%

3.5%

4.8%

0.8%

5.1%

8.4%

8.6%

4.9%

7.5%

8.4%

0.2%

0.9%

0.2%

Safle 1: Newid ar ffurf pwynt canran (rhwng 2023 a 2025)+6.0-8.8-6.1-2.7+3.5+3.5+0.1

Safle 2: 2023

Safle 2: 2024

Safle 2: 2025

11.0%

8.9%

7.4%

55.3%

56.1%

54.7%

46.1%

48.9%

41.3%

9.2%

7.3%

13.4%

33.7%

35.0%

37.9%

28.9%

32.4%

28.5%

4.7%

2.6%

9.4%

Safle 2: Newid ar ffurf pwynt canran (rhwng 2023 a 2025)-3.6-0.6-4.8+4.2+4.2-0.4+4.6

Safle 3: 2023

Safle 3: 2024

Safle 3: 2025

16.6%

15.0%

13.6%

82.3%

83.8%

85.5%

31.3%

32.9%

34.0%

51.1%

50.9%

51.4%

1.1%

1.3%

0.9%

0.5%

0.6%

0.3%

0.5%

0.6%

0.6%

Safle 3: Newid ar ffurf pwynt canran (rhwng 2023 a 2025)-3.0+3.1+2.8+0.4-0.1-0.2+0.1

Roedd y newidiadau'n fach, ac nid oeddent yn gyson ar draws pob safle (na rhwng safleoedd). Er enghraifft:

  • Gwelwyd cynnydd bach rhwng 2023 a 2025 yn nifer y gyrwyr a oedd yn arafu neu'n stopio yn safle 1, ond gostyngiad bach yn safleoedd 2 a 3.
  • Gwelwyd cynnydd bach hefyd yn nifer y cerbydau a oedd yn cyflymu wrth nesáu at groesfan lle'r oedd cerddwr yn aros yn safleoedd 1 a 2, ond doedd fawr ddim newid yn safle 3.

Mae'r amrywiad hwn hefyd i’w weld yn ffigur 15, gyda'r un data'n cael ei gyflwyno fel siart.

 

Ffigur 15: Cymharu'r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr, rhwng 2023 a 2025

Ffigur 15: Cymharu'r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr, rhwng 2023 a 2025

At ei gilydd, ar sail y data a gasglwyd mae'n anodd dod i gasgliadau pendant ynghylch sut mae newid y terfyn cyflymder wedi effeithio ar ymddygiad ildio. Mae'n werth nodi bod gan y tri safle wahanol fathau o groesfannau a chynlluniau ffyrdd. Dyma’r safleoedd:

  • Safle 1 (Gilwern) - Croesfan ffordd ddwbl gydag ynys yn y canol ar gyffordd T.
  • Safle 2 (Queensferry) - Croesfan ehangol (crossing build-out) ar stryd fawr brysur lle mae siopau a cherbydau wedi'u parcio.
  • Safle 3 (Caerdydd) - Croesfan sebra y tu allan i archfarchnad.

Mae ymddygiad gyrwyr yn amrywio'n sylweddol rhwng y safleoedd hyn. Er enghraifft, cyn i’r terfyn cyflymder newid yn safle Gilwern, roedd dros 70% o’r rhyngweithio’n ymwneud â gyrrwr yn arafu neu’n stopio wrth y groesfan, ond yn y ddau safle arall roedd yn llai nag 20%. Mae'n bosibl, felly, y gall unrhyw effeithiau yn sgil terfyn cyflymder is amrywio rhwng y gwahanol fathau hyn o groesfannau, ac y gallent gael eu gwrthbwyso gan ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar ymddygiad gyrwyr.

 

3.5. Ansawdd yr aer

Y prif asesiad

Casglwyd data ar ansawdd yr aer yn barhaus rhwng mis Mai 2022 a mis Ebrill 2024 mewn tri safle, lle cafodd terfynau cyflymder eu gostwng i 20mya yn 2022 yn ystod cam 1. Mae cynlluniau ar y gweill i gael setiau data newydd ar ansawdd aer o bob cwr o Gymru, a bydd dadansoddiad yn cael ei gynnwys mewn cyhoeddiadau diweddarach. Er gwybodaeth, mae'r adran hon yn crynhoi canfyddiadau cam 1 sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad blaenorol.

Tabl 11: Asesiad o’r DPA ar ansawdd yr aer, rhwng mis Mai 2022 a mis Ebrill 2024

DPADisgrifiad o’r DPAAsesiad
4.1Newid yn ansawdd yr aer yn lleol - NO2, PM10 a PM2.5Dim effaith sylweddol arwyddocaol

Lleoliadau a dulliau

Defnyddiwyd synwyryddion yng Nghaerdydd, Glannau Hafren (Magwyr), a'r Fenni i fonitro lefelau nitrogen deuocsid (NO2) a gronynnau (PM10 a PM2.5). Cafodd synwyryddion eu gosod y tu mewn a'r tu allan i'r ardaloedd terfyn cyflymder o 20mya, a'u graddnodi yn erbyn gorsaf gyfeirio gywir ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd cyflymder a lefel y traffig yn cael eu monitro hefyd.

Canlyniadau monitro - ansawdd yr aer

Roedd y data a gasglwyd rhwng mis Mai 2022 a mis Ebrill 2024 yn dangos mai ychydig iawn o newidiadau a fu mewn lefelau PM10 a PM2.5 sy’n deillio o allyriadau traffig ffordd. Fodd bynnag, gwelwyd newidiadau mewn lefelau cyfartalog o NO2 y tu mewn a’r tu allan i bob ardal terfyn cyflymder o 20mya, fel y gwelir yn nhabl 12.

Tabl 12: Crynodiadau NO2 cyfartalog a gofnodwyd rhwng mis Mai 2022 a mis Ebrill 2024

 

ArdalY tu mewn i’r ardal 20mya (µg/m3)Y tu allan i’r ardal 20mya (µg/m3)Gwahaniaeth y tu mewn i’r ardal 20mya (µg/m3)Gwall Mesur (µg/m3)
Caerdydd (lleoliad 1)21.020.6+0.43.6 - 3.8
Caerdydd (lleoliad 2)²⁶21.723.3-1.61.4 - 4.3
Magwyr (Glannau Hafren)20.225.8-5.62.6 - 5.1
Y Fenni15.014.5+0.51.6 - 2.7

Mae’r un data’n cael ei gyflwyno isod ar ffurf siart yn ffigur 16.


²⁶ Bu’n rhaid i’r synhwyrydd a oedd y tu allan i’r ardal 20mya yng Nghaerdydd gael ei symud o ‘leoliad 1’ i ‘leoliad 2’ oherwydd gwaith ffordd yn ystod y cyfnod asesu.


Ffigur 16: Crynodeb o ddata crynodiadau NO2 ym mhob ardal

Ffigur 16: Crynodeb o ddata crynodiadau NO2 ym mhob ardal

Ym mhob lleoliad, gwelwyd gwahaniaethau bach mewn crynodiadau NO2 y tu mewn i'r ardal terfyn cyflymder o 20mya wrth gymharu â'r crynodiadau y tu allan i'r ardal honno. Yng Nghaerdydd (gan ddefnyddio lleoliad y tu allan 2) a Magwyr, roedd y lefelau NO2 yn is y tu mewn i ardal y terfyn cyflymder o 20mya. Yng Nghaerdydd (gan ddefnyddio lleoliad y tu allan 1) a'r Fenni, roedd y lefelau NO2 ychydig yn uwch y tu mewn i'r ardal terfyn cyflymder o 20mya, ond ymhell o fewn y ffiniau gwall mesur.

Heblaw ym Magwyr, roedd y gwahaniaethau hyn yn fach ac o fewn y lwfans ansicrwydd. O ganlyniad, nid yw'n bosibl dweud bod y terfyn cyflymder o 20mya wedi arwain at effaith sylweddol arwyddocaol.

Gall ffactorau eraill sy'n benodol i'r safle, ac sy'n effeithio ar lif traffig neu ar duedd cerbydau i gyflymu, ddylanwadu ar amrywiadau yn ansawdd yr aer hefyd. Gallai'r ffactorau hyn gael mwy o ddylanwad ar allyriadau traffig na newidiadau bach yng nghyflymder cerbydau. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys gwaith adeiladu cyfagos a mesurau cysylltiedig i reoli'r traffig, cau ffyrdd gerllaw dros dro, ac agosrwydd at lystyfiant. Mae'r ffactorau hyn yn cael eu hegluro'n fanwl yn Adroddiad Monitro Ansawdd yr Aer, cam 1.²⁷


²⁷ Cyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/cyhoeddiadau/terfyn-cyflymder-20mya-diofyn/mai-2024


 

3.6. Nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd

Y prif asesiad

Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud a fu gostyngiad yn nifer y cerddwyr a beicwyr sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd (DPAau 2.1, 2.2 a 2.3). Mae’n fuddiol defnyddio gwerth o leiaf dair blynedd o ddata am wrthdrawiadau ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno er mwyn gallu cymharu’n ystyrlon â chyfnod o dair blynedd o leiaf cyn i’r polisi gael ei gyflwyno.²⁸

Trafodir isod dueddiadau yng nghyfanswm nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ymysg holl ddefnyddwyr y ffyrdd (gan gynnwys gyrwyr, beicwyr a cherddwyr), er mwyn rhoi syniad cychwynnol o effeithiolrwydd y polisi i wella diogelwch ar y ffyrdd. Mae data Llywodraeth Cymru ar nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd yn cael ei gyflwyno yn ôl terfyn cyflymder a difrifoldeb, a'i rannu'n ddau gategori: wedi'u lladd neu eu hanafu'n ddifrifol (LIAD), a mân anafiadau.²⁹ Ond, nid yw'n gwahanu'r data yn ôl gyrwyr, cerddwyr, beicwyr na grwpiau oedran.

Tabl 13: Data cryno am nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd

Amcan yng nghyswllt nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafuAsesiad

Lleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd.

 

Yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno, bu 11.8% o ostyngiad yng nghyfanswm nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu.

Roedd nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd 20 a 30mya wedi gostwng 26.2%, a’r nifer ar ffyrdd >40mya wedi cynyddu 4.2%.

Nid oes digon o ddata ar gael ar hyn o bryd i allu asesu tueddiadau o ran nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu.

Lleoliadau a dulliau

Mae heddluoedd yn casglu data ar ddamweiniau traffig a nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth. Mae marwolaethau yn cynnwys pobl sy’n marw o fewn 30 diwrnod i'r ddamwain.

Mae'r rhan fwyaf o heddluoedd Cymru yn dal i ddefnyddio system nad yw'n seiliedig ar anafiadau, lle mae swyddogion yn barnu lefel y difrifoldeb. Fodd bynnag, ym mis Mai 2023, mabwysiadodd heddlu Dyfed-Powys y system Cofnodi a Rhannu Data am Wrthdrawiadau (CRaSH) sy'n seiliedig ar anafiadau, sy'n debygol o gynyddu cyfran yr anafiadau 'difrifol' 5-15% a lleihau 'mân anafiadau' (heb effeithio ar gyfanswm nifer y bobl sydd wedi’u lladd neu eu hanafu). O Ch2 2023 ymlaen, disgwylir bod mwy o wrthdrawiadau yn Nyfed-Powys wedi cael eu cofnodi fel rhai difrifol, gan gynyddu’r un duedd rywfaint yn y ffigurau cyffredinol ar gyfer Cymru.


²⁸ RoSPA (2002) Road Safety Engineering Manual, RoSPA: Llundain

²⁹ StatsCymru, Anafusion yn ôl terfyn cyflymder a difrifoldeb, Mai 2025


Nifer y bobl sydd wedi cael eu lladd neu eu hanafu, yn ôl difrifoldeb

Mae'r data ar wrthdrawiadau yn dymhorol, ac mae ffactorau fel lefel y traffig a'r tywydd yn effeithio ar y data. Mae cymharu data chwarterol â'r un chwarter mewn blynyddoedd blaenorol, yn hytrach na'r chwarter blaenorol, yn fuddiol ac yn arwyddocaol. Fodd bynnag, mae tueddiadau tymor hwy yn rhoi gwell syniad o batrymau a newidiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu.

Mae ffigur 17 yn dangos nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd cyhoeddus yn ystod y 12 mis cyn ac ar ôl i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno. Mae Tabl 14 yn cynnwys y data chwarterol, ac yn cymharu'r nifer gafodd eu lladd neu eu hanafu â'r nifer yn y chwarter cyfatebol yn y 12 mis cyn i’r terfyn cyflymder o 20mya gael ei gyflwyno.

Ffigur 17: Nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu yn ôl difrifoldeb a chwarter, rhwng 2023 a 2024

Ffigur 17: Nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu yn ôl difrifoldeb a chwarter, rhwng 2023 a 2024

Tabl 14: Cyfanswm nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu yn ôl chwarter

ChwarterCyn neu ar ôl i'r polisi gael ei gyflwynoNifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrddNewid canrannol o un flwyddyn i'r llall
Ch4 2022Cyn cyflwyno’r polisi1,200-
Ch1 2023Cyn cyflwyno’r polisi968-
Ch2 2023Cyn cyflwyno’r polisi1,138-
Ch3 2023Cyn cyflwyno’r polisi1,260-
Ch4 2023Ar ôl cyflwyno’r polisi983-18.1%
Ch1 2024Ar ôl cyflwyno’r polisi843-12.9%
Ch2 2024Ar ôl cyflwyno’r polisi1,087-4.5%
Ch3 2024Ar ôl cyflwyno’r polisi1,116-11.4%
Ch4 2024Ar ôl cyflwyno’r polisi947-21.1%
Ch4 2022 - Ch3 2023Cyn cyflwyno’r polisi4,566-
Ch4 2023 - Ch3 2024Ar ôl cyflwyno’r polisi4,029-11.8%

(*) Mae'r newid canrannol ar gyfer Ch4 2024 yn cael ei gymharu â Ch4 2022, gan gymharu’r niferoedd cyn ac ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno.

 

Mae tabl 14 yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu yn y chwarteri ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno, wrth gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn cyn i’r polisi gael ei gyflwyno. At ei gilydd, yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno, bu 11.8% o ostyngiad yng nghyfanswm nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu.

Er bod newidiadau yn y gyfran gafodd fân anafiadau mewn cymhariaeth â’r rheini gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn ennyn diddordeb, nid yw'r newidiadau hyn yn cael eu dadansoddi yma oherwydd bod heddlu Dyfed-Powys wedi mabwysiadu'r system CRaSH ym mis Mai 2023. Mae'n debygol bod y newid hwn wedi cynyddu’r gyfran gymharol o bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn y cyfnod ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno.

 

Nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn ôl math o ffordd

Fel y dangosir yn nhabl 15, gostyngodd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya i 20mya ar ôl i’r terfyn cyflymder diofyn newydd gael ei gyflwyno. Roedd cyfanswm hyd y ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 30mya wedi gostwng o 13,100km i 980km. Felly, er mwyn asesu effaith bosibl y polisi, gallwn asesu'r duedd yng nghyfanswm nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar bob ffordd sydd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya, gan mai 30mya oedd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o'r ffyrdd hyn tan Ch3 2023 ac 20mya ar ôl hynny.

Tabl 15: Cyfanswm hyd ffyrdd 20mya a 30mya, cyn ac ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno³⁰

 

CyfnodFfyrdd 20myaFfyrdd 30myaCyfanswm
Cyn cyflwyno’r polisi870 km13,100 km13,970 km
Ar ôl cyflwyno’r polisi13,000 km980 km13,980 km

Mae ffigur 18 yn dangos nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda'i gilydd, ac ar ffyrdd â therfynau cyflymder o dros 40mya. Ffigurau blynyddol yw'r rhain, sy'n cynnwys y pedwar chwarter cyn i'r polisi gael ei gyflwyno (Ch4 2022 - Ch3 2023), ac ar ôl i’r terfyn cyflymder o 20mya gael ei gyflwyno (Ch4 2023 - Ch3 2024). Mae'r siart yn dangos bod nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng 630 ( 26.2%) yn y pedwar chwarter ar ôl i’r terfyn cyflymder gael ei gyflwyno. Ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 40mya ac uwch, roedd nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu wedi cynyddu 93 (+4.2%).

Mae nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu wedi bod yn gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf.

Ffigur 18: Nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd, yn ôl math o ffordd, rhwng 2023 a 2024³¹

Ffigur 18: Nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd, yn ôl math o ffordd, rhwng 2023 a 2024

³⁰ Llywodraeth Cymru, Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu: 2024 (dros dro), 2025

³¹ Llywodraeth Cymru, Anafusion yn ôl chwarter, blwyddyn a difrifoldeb, 2025


 

4. Crynodeb

Tabl 16: Crynodeb o’r asesiadau DPA (o fis Ebrill 2025 ymlaen)

DPADisgrifiad o’r DPAAsesiadY cyfnod sylfaenY cyfnod diweddaraf
1.1Y ganran sy’n teithio ar neu o dan 24mya (fel procsi ar gyfer cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya)Roedd y nifer a oedd yn teithio ar neu o dan 24mya wedi cynyddu o 20.8% (cyn i’r polisi gael ei gyflwyno) i 54.0%Haf 2023Gaeaf 2024/25
1.2Newid yng nghyflymder yr 85ed ganraddY cyflymder wedi gostwng 3.4myaHaf 2023Gaeaf 2024/25
1.3Newid yn y cyflymder cymedrigY cyflymder wedi gostwng 3.8myaHaf 2023Gaeaf 2024/25

1.4

 

Amseroedd teithio mewn cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio, ar sail y gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio’r 5ed a’r 95ed ganradd fel procsi ar gyfer dibynadwyedd amseroedd teithio, ar brif lwybrau trwodd

 

Cynnydd mewn amseroedd teithio cyfartalog

Gostyngiad yn amrywioldeb yr amseroedd teithio (hynny yw, mae amseroedd teithio yn fwy dibynadwy)

Gwanwyn 2023

 

Hydref 2024

 

2.1,
2.2,
2.3

 

Lleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd³²

 

Yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno, bu 11.8% o ostyngiad yng nghyfanswm nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu.

Roedd nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd 20 a 30mya wedi gostwng 26.2%, a’r nifer ar ffyrdd >40mya wedi cynyddu 4.2%.

Nid oes digon o ddata ar gael ar hyn o bryd i allu asesu tueddiadau o ran nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu.

Ch4 2022 - Ch3 2023

 

Ch4 2023 - Ch3 2024

 

3.2Newid mewn ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyrNid yw’n bendant ar hyn o bryd, gan fod y newidiadau mewn ymddygiad ildio yn amrywio rhwng y safleoedd a aseswyd.2023 (Chwefror-Mawrth)2025 (Chwefror-Mawrth)
4.1Newid yn ansawdd yr aer yn lleol - NO2Ni nodwyd unrhyw effaith sylweddol - ond, mae diffyg data diweddar yn golygu nad oes modd dod i gasgliadau pendant ar hyn o bryd. Mai 2023Ebrill 2024

³² Does dim modd cael asesiad ystyrlon o’r data ar wrthdrawiadau sy’n ymwneud â cherddwyr a beicwyr gyda llai na thair blynedd o ddata ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno, yn ôl argymhellion RoSPA (2002) Road Safety Engineering Manual, RoSPA: Llundain. Ond, mae data ar gyfanswm nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd yn cael ei gyflwyno.


 

Atodiad A: Lleoliadau monitro cyflymder

Atodiad B: Llwybrau monitro amseroedd teithio

Atodiad C: Gwybodaeth ychwanegol

Tabl 17: Amserlenni a lleoliadau tarddiad y data monitro

DPAArdaloedd / safleoedd / llwybrauCyfnodNodiadau

1.1: Cydymffurfiaeth traffig â’r terfyn cyflymder o 20mya

1.2: Newid yng nghyflymder yr 85ed ganradd

1.3: Newid yn y cyflymder cymedrig

Llanbedr Pont Steffan, Bae Penrhyn, Llanrug, Allt-yr-ynn (Casnewydd), Doc Penfro, Y Drenewydd, Tylorstown/Pontygwaith, Torfaen (Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon), Wrecsam, Peniel

 

Cyn cyflwyno’r polisi:

  • Haf 2023 (Gorffennaf a Medi 2023) 

Ar ôl cyflwyno’r polisi:

  • Gaeaf 2023/24 (Tachwedd 2023 ac Ionawr 2024)
  • Haf 2024 (Gorffennaf a Medi 2024)
  • Gaeaf 2024/25 (Tachwedd 2024 ac Ionawr 2025)
 

1.4: Amseroedd teithio mewn cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio ar y prif lwybrau trwodd

 

  • Caerffili i Gasnewydd
  • Wrecsam i Lannau Dyfrdwy
  • Llandudno i Fetws-y-coed
  • Porthmadog i Gaernarfon
  • Llanelwy i Ddinbych
  • Pont-y-pŵl i Flaenafon
  • Coed-poeth i Ysbyty Maelor Wrecsam
  • Ysbyty’r Barri i Ddinas Powys
  • Ystrad Mynach i Crosskeys
  • Caerfyrddin i Goleg Sir Gâr
  • Aberystwyth i Aberteifi
  • Sgeti i Dreforys
  • Bangor Is-coed i Ysbyty Maelor Wrecsam
  • Tyddewi i Hwlffordd
  • Trefforest i Nantgarw

Cyn cyflwyno’r polisi:

  • Gwanwyn 2023 (Chwefror - Ebrill 2023)

Ar ôl cyflwyno’r polisi:

  • Gwanwyn 2024 (Chwefror - Ebrill 2024)
  • Hydref 2024 (Medi - Tachwedd 2024)
 

2.1-2.3 - Cyfraddau cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu

 

Cymru (yn ôl ardal heddlu)

 

Cyn cyflwyno’r polisi:

  • Ch1 - Ch3 2023

Ar ôl cyflwyno’r polisi:

  • Ch4 2023 - Ch3 2024

Dim ond data rhannol yw hwn, wrth ystyried y farn y bydd angen gwerth tair blynedd o ddata cyn ac ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno er mwyn cael asesiad cadarn, yn ôl canllawiau RoSPA (2002) Road Safety Engineering Manual, RoSPA: Llundain

 

3.2: Newid mewn ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr

 

Stryd y Brenin, Y Fenni
Bistre Avenue, Bwcle
Heol Maes y Coed, Caerdydd
* Crickhowell Road, Gilwern 
* Station Road, Queensferry
* Excalibur Drive, Caerdydd

 

Cyn cyflwyno’r polisi:

  • 2023 (28 Chwefror - 31 Mawrth)

Ar ôl cyflwyno’r polisi:

  • 2024 (19 Chwefror - 18 Mawrth)
  • 2025 (1 - 28 Chwefror)

Cafodd yr holl safleoedd eu dadansoddi yng ngham 1. Mae tri safle sydd wedi'u marcio â * yn cael eu dadansoddi ar gyfer y rhaglen fonitro genedlaethol, gan fod y rhain wedi newid o 30mya i 20mya ym mis Medi 2023

 

4.1: Newid yn ansawdd yr aer yn lleol - NO2Caerdydd (Gogledd)
Magwyr (Glannau Hafren)
Y Fenni
Mai 2022 - Ebrill 2024Ni chafwyd unrhyw ddata newydd ers i'r adroddiad monitro diwethaf gael ei gyhoeddi

 

Tabl 18: Amseroedd teithio ac amrywioldeb amseroedd teithio (rhwng gwanwyn 2023 a hydref 2024)

Rhif y llwybrLlwybrAM neu PMAmser teithio (gwanwyn 2023)Amser teithio (hydref 2024)Newid (mm:ee)Newid (%)Amrywioldeb amseroedd teithio (gwanwyn 2023)Amrywioldeb amseroedd teithio (hydref 2024)Newid (mm:ee)Newid (%)
1Aberystwyth i AberteifiAM01:04:3501:08:23+03:485.9%09:1109:02-00:09-1.3%
1Aberystwyth i AberteifiPM01:04:3001:07:46+03:165.1%06:3406:33-00:010.3%
1Aberteifi i AberystwythAM01:04:2401:07:39+03:155.0%07:3807:45+00:071.5%
1Aberteifi i AberystwythPM01:04:1301:07:19+03:064.8%07:3006:36-00:54-12.0%
2Llandudno i Fetws-y-coedAM00:29:2800:32:51+03:2311.5%04:1104:36+00:2510.0%
2Llandudno i Fetws-y-coedPM00:29:5100:33:24+03:3311.9%03:5104:06+00:156.5%
2Betws-y-coed i LandudnoAM00:31:5400:31:46-00:08-0.4%07:1803:49-03:29-47.7%
2Betws-y-coed i LandudnoPM00:31:5200:31:52-00:000.0%04:5803:51-01:07-22.5%
3Caerfyrddin i Goleg Sir GârAM00:28:5500:31:56+03:0110.4%03:5304:18+00:2510.7%
3Caerfyrddin i Goleg Sir GârPM00:28:4800:31:30+02:429.4%03:2104:21+01:0029.9%
3Coleg Sir Gâr i GaerfyrddinAM00:28:5500:31:13+02:188.0%03:0004:40+01:4055.6%
3Coleg Sir Gâr i GaerfyrddinPM00:28:5200:31:44+02:529.9%02:4204:24+01:4263.0%
4Porthmadog i GaernarfonAM00:29:3200:30:47+01:154.2%03:5903:38-00:21-8.8%
4Porthmadog i GaernarfonPM00:30:0600:30:50+00:442.4%07:3403:57-03:37-47.8%
4Caernarfon i BorthmadogAM00:29:5800:31:38+01:405.6%04:1103:45-00:26-10.4%
4Caernarfon i BorthmadogPM00:30:1400:31:26+01:124.0%06:0103:24-02:37-43.5%
5Caerffili i GasnewyddAM00:27:0700:30:02+02:5510.8%07:5205:49-02:03-26.1%
5Caerffili i GasnewyddPM00:26:5000:28:43+01:537.0%05:1703:41-01:36-30.3%
5Casnewydd i GaerffiliAM00:25:3600:28:34+02:5811.6%05:0004:49-00:11-3.7%
5Casnewydd i GaerffiliPM00:28:5800:30:32+01:345.4%10:2806:10-04:18-41.1%
6Wrecsam i Lannau DyfrdwyAM00:27:1000:28:45+01:355.8%09:3206:00-03:32-37.1%
6Wrecsam i Lannau DyfrdwyPM00:27:3800:29:21+01:436.2%07:1405:22-01:52-25.8%
6Glannau Dyfrdwy i WrecsamAM00:28:4200:29:32+00:502.9%11:1206:06-05:06-45.5%
6Glannau Dyfrdwy i WrecsamPM00:28:2800:29:34+01:063.9%07:2104:47-02:34-34.9%
7Tyddewi i HwlfforddAM00:27:2200:27:54+00:321.9%05:0704:57-00:10-3.3%
7Tyddewi i HwlfforddPM00:27:4100:28:00+00:191.1%04:3203:47-00:45-16.5%
7Hwlffordd i DyddewiAM00:27:3300:28:19+00:462.8%04:3203:45-00:47-17.3%
7Hwlffordd i DyddewiPM00:27:3400:28:13+00:392.4%04:3404:53+00:196.9%
8Ystrad Mynach i CrosskeysAM00:17:0700:18:43+01:369.3%04:1203:12-01:00-23.8%
8Ystrad Mynach i CrosskeysPM00:17:1200:19:01+01:4910.6%03:2003:38+00:189.0%
8Crosskeys i Ystrad MynachAM00:18:1000:19:33+01:237.6%06:1804:28-01:50-29.1%
8Crosskeys i Ystrad MynachPM00:18:2700:20:15+01:489.8%05:1004:17-00:53-17.1%
9Sgeti i DreforysAM00:17:0100:17:43+00:424.1%06:2203:35-02:47-43.7%
9Sgeti i DreforysPM00:18:1900:18:26+00:070.6%05:3003:22-02:08-38.8%
9Treforys i SgetiAM00:18:2300:18:25+00:020.2%05:4203:59-01:43-30.1%
9Treforys i SgetiPM00:18:3000:18:42+00:121.1%04:5203:23-01:29-30.5%
10Pont-y-pŵl i FlaenafonAM00:14:0000:15:11+01:118.5%02:3702:23-00:14-8.9%
10Pont-y-pŵl i FlaenafonPM00:14:5700:15:57+01:006.7%03:4403:40-00:04-1.8%
10Blaenafon i Bont-y-pŵlAM00:14:2900:16:31+02:0214.0%05:5005:51+00:010.3%
10Blaenafon i Bont-y-pŵlPM00:12:4800:14:09+01:2110.5%01:5702:14+00:1714.5%
11Bangor Is-coed i Ysbyty Maelor WrecsamAM00:14:1400:14:48+00:344.0%04:2102:42-01:39-37.9%
11Bangor Is-coed i Ysbyty Maelor WrecsamPM00:14:3100:14:58+00:273.1%03:3402:26-01:08-31.8%
11Ysbyty Maelor Wrecsam i Fangor Is-coedAM00:15:1700:15:52+00:353.8%03:3102:35-00:56-26.5%
11Ysbyty Maelor Wrecsam i Fangor Is-coedPM00:15:4400:16:15+00:313.3%03:3202:30-01:02-29.2%
12Ysbyty’r Barri i Ddinas PowysAM00:14:1800:14:22+00:040.5%04:5902:23-02:36-52.2%
12Ysbyty’r Barri i Ddinas PowysPM00:13:1700:13:54+00:374.6%02:2501:42-00:43-29.7%
12Dinas Powys i Ysbyty’r BarriAM00:13:0300:13:31+00:283.6%03:0001:51-01:09-38.3%
12Dinas Powys i Ysbyty’r BarriPM00:13:5500:14:33+00:384.6%04:1203:08-01:04-25.4%
13Llanelwy i DdinbychAM00:12:3300:14:00+01:2711.6%03:3102:57-00:34-16.1%
13Llanelwy i DdinbychPM00:12:3000:13:38+01:089.1%02:2802:26-00:02-1.4%
13Dinbych i LanelwyAM00:13:0200:14:07+01:058.3%03:1502:35-00:40-20.5%
13Dinbych i LanelwyPM00:12:4800:14:10+01:2210.7%02:2502:30+00:053.4%
14Trefforest i NantgarwAM00:12:0400:13:39+01:3513.1%04:0604:14+00:083.3%
14Trefforest i NantgarwPM00:13:4700:13:27-00:20-2.4%06:0903:55-02:14-36.3%
14Nantgarw i DrefforestAM00:10:0100:11:00+00:599.8%02:0101:59-00:02-1.7%
14Nantgarw i DrefforestPM00:11:1200:11:35+00:233.4%03:4402:20-01:24-37.5%
15Coed-poeth i Ysbyty Maelor WrecsamAM00:08:2000:09:37+01:1715.4%03:4003:56+00:167.3%
15Coed-poeth i Ysbyty Maelor WrecsamPM00:07:5000:08:55+01:0513.8%01:5601:57+00:010.9%
15Ysbyty Maelor Wrecsam i Goed-poethAM00:07:5300:08:46+00:5311.2%02:0901:55-00:14-10.9%
15Ysbyty Maelor Wrecsam i Goed-poethPM00:08:4600:09:35+00:499.3%03:0402:14-00:50-27.2%