
Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru (TrC) gan Lywodraeth Cymru yn 2016 i oruchwylio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Gyda chontract Trenau Arriva Cymru i redeg gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn dod i ben yn 2017, dechreuodd Trafnidiaeth Cymru drafod contract 15 mlynedd newydd gyda chyflenwr gweithrediadau rheilffyrdd.
Dyfarnwyd contract gan Trafnidiaeth Cymru i KeolisAmey Wales ym mis Mai 2018 i redeg rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

“Mae ein cwsmeriaid, pobl Cymru a’r ardaloedd ar y ffin yn haeddu gwasanaeth sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y Llywodraeth. Rydyn ni’n gwybod bod gan bobl ddisgwyliadau uchel o ran y trawsnewid a fydd yn digwydd yn y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni’n benderfynol o ennyn eu ffydd ynom a datblygu gwasanaeth sy’n r

Mae'r holl fannau cyhoeddus yn cael eu glanhau’n drylwyr, gan gynnwys dodrefn, arwyddion, byrddau gwybodaeth, goleuadau, cysgodfeydd aros, llystyfiant sy’n hongian drosodd, meysydd parcio, pontydd troed, adeiladau gorsafoedd a thynnu graffiti.
O dan frand Trafnidiaeth Cymru – buom yn gweithredu’r nifer fwyaf o wasanaethau yn hanes sefydlu Trafnidiaeth Cymru

Siwrneiau trên dros 50 milltir y rhataf erioed nawr wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) lansio’i gynllun prisiau cyntaf

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw teithiau rhatach i chi.
Rydym wedi cyflwyno cynigion arbennig ar ein tocynnau cyfnodau tawelach am gyfnod cyfyngedig ar gyfer trenau yn Abertawe, Wrecsam a Rhymni a’r cyffiniau

Yn sgil ail agor trac Halton Curve, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg 215 o wasanaethau newydd pob wythnos a bydd gwell cysylltedd yn creu hwb economaidd sylweddol i’r rhanbarth.
Mae’r gwasanaethau ychwanegol hefyd wedi arwain at greu 30 o swyddi newydd ac mae’n cysylltu â Maes Awyr John Lennon.
Ym mis Mawrth 2020, daeth llinellau Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert, yn ogystal â rheilffordd y Ddinas rhwng Caerdydd a Radur i'n meddiant gan Network Rail.
Yng Ngwanwyn 2020, fe wnaethom sefydlu panel cynghori dan gadeiryddiaeth David Beer, o Transport Focus gyda chynrychiolaeth o blith rhanddeiliaid a grwpiau teithwyr.
Ym mis Mai 2020, lansiodd Trafnidiaeth Cymru wasanaeth fflecsi, sef cynllun bysiau ar-alw – mewn partneriaeth â chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol.
Ym mis Rhagfyr 2020, fe wnaethom gymryd cyfrifoldeb am reoli Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i wella llwybrau cerdded a beicio.
Fel rhan o grŵp Trafnidiaeth Cymru - sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru Rail (Cyf) a gymerodd cyfrifoldeb dros y gwaith o redeg rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau oddi wrth KeolisAmey.
Darllenwch ragor hadroddiadau blynyddol.
neu ewch i'n