Cofnodion Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf
Mae Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf yn goruchwylio holl weithgareddau Rheilffyrdd TrC Cyf, ac yn gofyn am sicrwydd bod swyddogaethau statudol Rheilffyrdd TrC Cyf yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac yn effeithlon.
Mae’r Bwrdd yn sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i roi sicrwydd ynghylch llywodraethu; yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion strategol a sylweddol sy’n effeithio ar weithrediadau Rheilffyrdd TrC Cyf wrth gyflawni ei nodau a’i amcanion; ac yn goruchwylio gweithrediad Strategaeth y Bwrdd.
Mae’n llywio, yn herio ac yn craffu ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd perfformiad Rheilffyrdd TrC Cyf, gyda’r bwriad o sicrhau ei ddyfodol a'r weledigaeth o greu rhwydwaith trafnidiaeth y mae Cymru’n falch ohono. Mae Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf yn cyfarfod bob pedair wythnos.
Aelodau Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf
James Price
Alexia Course
Heather Clash
Peter Strachan
Jan Chaudhry-Van der Velde
Marie Daly
-
Cofrestr Buddiannau Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf
-
- Llwytho i lawr: Cofrestr Buddiannau Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf
-