Ein Pwyllgor Profiad a Thwf Cwsmeriaid

Rôl ein Pwyllgor Profiad a Thwf Cwsmeriaid yw cynorthwyo bwrdd TrC i gyflawni eu cyfrifoldebau cyffredinol mewn perthynas â phrofiad a thwf cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys unrhyw faterion sy’n codi o weithgareddau’r cwmni a allai effeithio ar y cyhoedd gan gynnwys teithwyr, gweithwyr a chyflenwyr. Mae’r pwyllgor yn gwneud y canlynol:

  • adolygu, monitro a rhoi cyfarwyddyd mewn cysylltiad â phynciau sy’n ymwneud â chwsmeriaid, a hynny i gyflawni pwrpas TrC sef Cadw Cymru i Symud yn ddiogel
  • sicrhau bod llais y cwsmer yn cael ei flaenoriaethu a’i gadw wrth galon popeth a wnawn
  • gweithio i drawsnewid profiad cwsmeriaid
  • hwyluso cyfathrebu agored ac onest gyda’r cyhoedd
  • goruchwylio arloesi digidol

 

Aelodau anweithredol

Vinay Parmar
Cadeirydd