Adroddiad Blynyddol

Cipolwg ar y flwyddyn:
 
  • 8.9% o gynnydd mewn refeniw rheilffyrdd i £190.3 miliwn.
  • 34.9 miliwn o deithiau trên i fyny 9.9% ers y llynedd.
  • 87.7% boddhad cwsmeriaid i fyny 3.3 pwynt canran ers y llynedd
  • 5.2% o gynnydd yn nifer y teithwyr o’i gymharu â’r llynedd ar wasanaethau TrawsCymru rydyn ni’n eu rheoli.

    Darllenwch ein hadroddiad blynyddol

Mark Hooper

Dywedodd Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper

"Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwaith eithriadol o dda wrth wella profiadau teithwyr ledled Cymru, sy'n sylfaen wych i ni adeiladu arni i barhau i symud i'r cyfeiriad cywir."

"Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy integredig a chysylltiedig yn well - gan ddarparu gwasanaethau dibynadwy, hygyrch a gwerth am arian sy'n gwella bywydau beunyddiol pobl ledled Cymru."

Vernon Everitt

Cadeirydd, Vernon Everitt CBE

"Nid yw trafnidiaeth yn nod ynddo’i hun. Mae’n ymwneud â chyflawni ar gyfer y bobl, y cymunedau a’r busnesau rydyn ni’n eu gwasanaethu. I Trafnidiaeth Cymru, mae hon wedi bod yn flwyddyn o welliannau cyson a pharhaus mewn trafnidiaeth a pharatoi ar gyfer rhagor o gynnydd a fydd o fudd i bobl ym mhob rhan o Gymru am genedlaethau i ddod."

James Price

Prif Swyddog Gweithredol, James Price

"Mae hon wedi bod yn flwyddyn bwysig i Trafnidiaeth Cymru. Fel y mae’r adroddiad hwn yn ei nodi, rydyn ni wedi goresgyn heriau sylweddol ac wedi sicrhau gwelliannau mawr i’r bobl, y cymunedau a’r busnesau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae nifer ein teithwyr ar drenau wedi codi 9.9% ers y llynedd ac mae nifer y teithwyr ar fysiau ar wasanaethau rydyn ni’n eu rheoli wedi cynyddu dros 5%."