Trafnidiaeth Cymru Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2023

Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau unwaith eto. Y bwlch cyflog canolrifol ar gyfer Rheilffyrdd TrC a Grŵp TrC yw 16.2% a 14.1% yn y drefn honno. Erbyn hyn, mae mwy o fenywod mewn swyddi sy’n talu cyflogau uwch. Mae’r ddau sefydliad wedi cynyddu cyfran y menywod sy’n gweithio iddynt.

Mae recriwtio mwy o yrwyr trên benywaidd wedi helpu i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn TrC.