Cynnwys

Gwybodaeth am y ddogfen hon

Yr hyn yr ydym wedi ymgysylltu ag ef

Sut rydym yn ymgysylltu

Trosolwg

Canfyddiadau allweddol

Y sylwadau ychwanegol a ddaeth i law

Y camau nesaf

 

Cyhoeddwyd: Hydref 2026

 

Ynglŷn â'r ddogfen hon 

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ymgysylltiad yr aeth Trafnidiaeth Cymru (TrC) ati i'w gynnal ynghylch y gwasanaeth coets cyflym arfaethedig rhwng gogledd a de Cymru. Mae'n nodi'r canfyddiadau a'r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd.

Roedd yr ymgysylltiad ar gael i aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y llwybr arfaethedig. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 3 a 28 Mawrth 2025.

Dyma oedd amcanion yr ymgysylltiad:

  • casglu barn y cyhoedd a rhanddeiliaid am wasanaeth coets cyflym arfaethedig rhwng gogledd a de Cymru
  • deall ymddygiad teithio presennol ar hyd y llwybr
  • asesu barn y cyhoedd ynghylch amlder, y lleoliadau y bydd y coetsys yn galw a'r nodweddion gwasanaeth arfaethedig
  • mynd ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach.

 

Yr hyn y gwnaethom ymgysylltu ag ef

Byddai'r gwasanaeth coets arfaethedig hwn yn darparu cyswllt trafnidiaeth gyhoeddus gyflymach a mwy uniongyrchol ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Byddai'n rhedeg o Fangor, Caerfyrddin, a'r lleoedd rhyngddynt.

Byddai'r gwasanaeth arfaethedig yn:

  • cwtogi tua 90 munud oddi ar amseroedd teithio trafnidiaeth gyhoeddus gyfredol
  • yn galw mewn lleoliadau allweddol gan gynnwys Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth, Aberaeron, Llandysul a Chaerfyrddin
  • cysylltu â gwasanaethau trên er mwyn gallu parhau â thaith
  • anelu at gynnig gwasanaeth bob dwy awr drwy gydol y dydd
  • darparu coetsys cyfforddus gyda chyfleusterau sy'n addas ar gyfer teithiau hirach
  • newid i gerbydau trydan allyriadau sero yn y dyfodol.

Fe wnaethom ofyn i'r cyhoedd am eu barn ar y cynnig cyffredinol, y safleoedd coetsys arfaethedig a'u lleoliadau, amlder y gwasanaethau a gynigir a sut maent yn teithio ar hyd y llwybr ar hyn o bryd.

 

Sut y gwnaethom ymgysylltu

Gwnaethom greu tudalen benodol 'Dweud eich Dweud' ar wefan Trafnidiaeth Cymru. Roedd modd i'r rheini oedd yn ymateb i'r adolygiad adolygu gwybodaeth am y cynnig a chwblhau arolwg. Roedd yr arolwg ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Cynhaliwyd tri digwyddiad ymgysylltu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau allweddol ar hyd y llwybr arfaethedig. Fe wnaethom gynnal sesiynau rhithwir i randdeiliaid gan gynnwys gydag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr etholedig.

Hyrwyddwyd yr ymgysylltiad drwy ddefnyddio'r dulliau canlynol:

  • Sianeli cyfryngau cymdeithasol Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys Facebook ac Instagram
  • Codau QR a dolenni uniongyrchol i'r platfform 'Dweud eich Dweud'
  • dosbarthu deunyddiau ymgyrchu i randdeiliaid i hyrwyddo'r ymgysylltiad ymysg rhagor o bobl
  • hyrwyddo ar y safle yn y digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb.

 

Trosolwg

Derbyniwyd cyfanswm o 986 o ymatebion i'r arolwg ar-lein. Cafwyd 972 o ymatebion i'r arolwg Saesneg ac 14 ymateb i'r arolwg Cymraeg.

Roedd ymatebwyr yn aelodau o'r cyhoedd a oedd naill ai'n byw ar hyd y llwybr neu'n teithio ar ei hyd.

Dyma oedd ymhlith y materion a godwyd:

  • Nid yw'r gwasanaeth yn rhedeg yn ddigon aml i ateb y galw.
  • Dyw'r llwybr ddim yn teithio i leoliadau mawr de Cymru fel Caerdydd ac Abertawe.
  • Y risg y gallai gwasanaeth cyflym newydd leihau neu ddisodli gwasanaethau lleol presennol.
  • Yr angen ei bod yn integreiddio â rhwydweithiau trenau a bysiau lleol.
  • Gwneud tocynnau yn fforddiadwy, gan gynnwys gallu defnyddio tocynnau teithio rhatach.

 

Canfyddiadau allweddol

Roedd cefnogaeth i'r cynnig: 69.7% o'r ymatebwyr naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n gryf â chynnig gwasanaeth coets cyflym rhwng y gogledd a'r de.

Ymddygiad teithio cyfredol: Mae 78.4% o'r ymatebwyr eisoes yn teithio i leoliadau ar hyd y llwybr arfaethedig. Ar y cyfan, roedd pobl yn teithio yn bennaf at ddibenion hamddena, i gyrraedd y gwaith, gofal iechyd ac addysg. Ar hyn o bryd mae 44.6% o'r ymatebwyr yn defnyddio car preifat i wneud y rhan fwyaf o'r daith ar y llwybr hwn. Mae 22.3% yn defnyddio bws, 18.7% yn defnyddio cymysgedd o gar a thrafnidiaeth gyhoeddus, 9.7% yn defnyddio cymysgedd o ddulliau trafnidiaeth gyhoeddus a 4.6% yn defnyddio trenau.

Safleoedd arfaethedig: Roedd 78.8% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf ynghylch y safleoedd coetsys arfaethedig a'u lleoliadau.

Amlder: Dywedodd 69.2% o'r ymatebwyr nad oedd y gwasanaeth arfaethedig yn cael ei redeg yn ddigon aml, gyda dim ond 18.8% yn dweud fod yr amlder yn dderbyniol. Dywedodd 2.6% ei fod yn rhy aml, gyda'r gweddill yn dewis peidio ag ateb y cwestiwn.

Y defnydd y disgwylir ei wneud o'r gwasanaeth: Dywedodd 84.0% o'r ymatebwyr y byddent yn defnyddio mwy ar wasanaethau TrawsCymru o ganlyniad i'r gwasanaeth bws newydd hwn (yn ogystal â'r gwasanaeth bws hwn). Dywed 71.5% eu bod eisoes yn defnyddio TrawsCymru. O'r rhai a ddywedodd y byddent yn defnyddio'r gwasanaeth newydd, rhagwelodd y grŵp mwyaf (41.1%) ei ddefnyddio ychydig o weithiau'r mis, gyda 39.2% yn dweud y byddent yn ei ddefnyddio yn achlysurol, gan awgrymu galw cymedrol ond ystyrlon.

Cysylltedd:87.6% yn dweud y gallai'r gwasanaeth arfaethedig ddarparu mwy o gysylltedd rhwng gogledd a de Cymru.

 

Derbyniwyd sylwadau ychwanegol:

Nododd 593 o ymatebwyr (60.1%) sylwadau ychwanegol. Ymysg y themâu eang a godwyd gan ymatebwyr oedd y canlynol:

  • Mae angen integreiddio gwasanaethau trenau a bysiau yn well, gan gynnwys tocynnau ar gyfer y ddau fath o deithio a chysylltiadau gwarantedig pan fydd gwasanaethau'n cael eu gohirio.
  • Byddai ymestyn y llwybr y tu hwnt i Gaerfyrddin i Abertawe neu Gaerdydd yn darparu mynediad haws i Dde Cymru heb fod angen defnyddio dull arall o drafnidiaeth.
  • Sicrhau bod teithiau hir yn gyfforddus - gan gynnwys yr angen am doiledau ar y goets, Wi-Fi, pwyntiau gwefru, seddi cyfforddus, lluniaeth a digon o le i fagiau.
  • Cynnwys anghenion hygyrchedd, er enghraifft cael mynediad i'r goets heb risiau a digon o le ar gyfer offer symudedd.
  • Sicrhau bod y gwasanaeth yn fforddiadwy ac ystyried a ellir defnyddio tocynnau rhatach.
  • Blaenoriaethu cynaliadwyedd gan gynnwys coetsys trydan.
  • Lle i storio beic ar y goets a chyfleusterau er mwyn gallu cefnogi teithwyr sy'n dymuno cyfuno beicio â thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Dim lleihau'r gwasanaethau bysiau lleol sydd ar gael ar hyn o bryd, ac ni ddylid dargyfeirio cyllid oddi wrth anghenion trafnidiaeth leol.
  • Dylid ystyried adeiladu seilwaith trenau yn y tymor hwy.

Rydym wedi defnyddio adborth perthnasol wrth ddylunio'r gwasanaeth coets hwn a bydd yn llywio unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol.

 

Y camau nesaf

Byddwn yn lansio gwasanaeth coets peilot yn hydref 2026.

Bydd y gwasanaeth yn teithio rhwng Bangor a Chaerfyrddin. Bydd hyn yn gwella mynediad at swyddi, gofal iechyd, addysg, busnesau a hamdden. Disgwylir hefyd y bydd yn rhoi gwell mynediad i'r rheini sy'n ymweld â Chymru.

Bydd y gwasanaeth yn galw yng ngorsaf drenau Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth, Aberaeron a Chaerfyrddin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu wyth bws Volvo eVoTor i ddarparu profiad cyfforddus, hygyrch ac o ansawdd uchel i deithwyr.

Mae'r adborth a gafwyd trwy gydol yr ymgysylltiad wedi bod yn allweddol i ni allu llunio'r peilot hwn a byddwn yn parhau i ystyried canfyddiadau'r ymgysylltiad wrth lansio a datblygu'r gwasanaeth newydd hwn ymhellach.

Dyma fyddwn i'n ei wneud yr hydref hwn:

  • Cyhoeddi'r amserlen ar gyfer y gwasanaeth yn ogystal â manylion tocynnau
  • Rhannu gwybodaeth am y fflyd sy'n cael ei defnyddio ar gyfer y gwasanaeth hwn, gan gynnwys y cyfleusterau sydd ar gael ar y goets, hygyrchedd a manyleb y coetsys
  • Egluro cyfleoedd i gytuno mathau gwahanol o docynnau
  • Lansio'r gwasanaeth a defnyddio adborth cwsmeriaid i sicrhau ei fod yn bodloni anghenion y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

Yn y dyfodol, byddwn yn:

  • Parhau i gasglu adborth am y gwasanaeth coetsys newydd
  • Ystyried cyfleoedd i'w integreiddio â gwasanaethau trenau 
  • Adolygu'r posibilrwydd o ymestyn y gwasanaeth i alw mewn lleoliadau eraill yn y dyfodol
  • Rhoi ystyriaeth i'r materion a godwyd ynghylch pa mor fforddiadwy yw'r gwasanaeth wrth fynd ati i benderfynu ar bris y tocynnau.