Strategaeth y Gymraeg
Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n Gymraeg yn gyntaf ac yn bennaf. Rydyn ni am i’r Gymraeg fod yn rhan ganolog o brofiad teithio pobl. Boed hynny ar eich taith ddyddiol i’r gwaith, taith diwrnod i’r traeth neu deithio i weld Cymru’n chwarae rygbi (neu bêl-droed). Mae TrC yn gynhenid Gymreig - ac yn falch o hynny.
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein blaenoriaethau a beth fydd y canlyniadau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn sicrhau ein bod yn rhoi sicrwydd ynghylch pa gynnydd sy’n cael ei wneud, drwy astudiaethau achos a dangosyddion perfformiad, drwy gydol y daith.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.