Heddiw, Yfory, Gyda'n Gilydd yw ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Mae'n dathlu'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni, yn nodi'r hyn sy'n dod nesaf ac yn tynnu sylw at sut y byddwn yn ei gyflawni trwy weithio gyda'n gilydd.

 

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2026

 

1. Yr hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn

Ar draws Cymru a'r Gororau, rydym wedi gwneud cynnydd mawr wrth adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd mwy dibynadwy, cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid:

Cynnydd ar draws y rhwydwaith

  • Mae nifer y bobl sy'n galw i'n gorsafoedd fesul mis wedi cynyddu o 188,000 yn 2018 i fwy na 320,000 yn 2024/25, gan adlewyrchu mwy o wasanaethau, gwell amserlenni a llwybrau newydd.
  • Mae refeniw teithwyr wedi tyfu 17.8% rhwng 2023/24 a 2024/25, gan leihau'r angen am gymhorthdal.
  • Ym mis Rhagfyr 2025, cafodd 93% o deithiau wedi'u hamserlennu eu gwasanaethu gan drenau newydd sbon, newydd i Gymru a threnau wedi'u hadnewyddu.

Metro De Cymru

  • Roedd 91.7% o drenau ar Linellau Craidd y Cymoedd yn rhedeg ar amser (o fewn tri munud) yn y pedair wythnos hyd at 8 Tachwedd 2025.
  • Mae 169km o drac wedi'i drydaneiddio ers 2020 - cam mawr tuag at deithio gwyrddach, cyflymach.
  • Bydd trenau tram Dosbarth 398 newydd yn cael eu rhoi ar waith eleni yn 2026 - gan gyflwyno gwasanaethau modern all wasanaethu pob math o deithiwr, teithiwr sydd heb drefnu tocyn ymlaen llaw hyd yn oed.

 

2. Ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol - tymor byr a hirdymor

Rydym yn paratoi cynllun gwaith trawsnewidiol o brosiectau mawr a fydd yn siapio teithio ar drên yng Nghymru am y ddau ddegawd nesaf.

Tymor byr

  • Uwchraddio gorsaf Caerdydd Canolog.
  • Gwelliannau i wasanaethau neu amlder y gwasanaethau ar Reilffordd y Ddinas er mwyn galluogi pedwar trên yr awr.
  • Uwchraddio croesfannau rheilffyrdd ar gyfer Rhwydwaith Gogledd Cymru a mwy o wasanaethau.
  • Datblygu pum gorsaf newydd ar Brif Linell De Cymru ('Gorsafoedd Burns'), gwella'r llinellau wrth gefn a'r gwasanaethau trawsffiniol newydd.

Hirdymor

  • Rhwydwaith Gogledd Cymru.
  • Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.
  • Datblygu Metro De Cymru ymhellach.
  • Uwchraddio Prif Linellau Gogledd Cymru a De Cymru.
  • Gwelliannau i wasanaethau'r Gororau ac yng Nghanolbarth Cymru.

Bydd y buddsoddiadau hyn yn sicrhau buddion hirdymor pwysig, gan gynnwys:

  • Hyd at 13.3 miliwn o deithiau rheilffordd newydd bob blwyddyn.
  • 3.8 miliwn yn llai o deithiau mewn ceir - gostyngiad o 115 miliwn cilomedr o gerbydau bob blwyddyn.
  • Arbed 55,000 tunnell o CO2 bob blwyddyn.
  • £6.3 biliwn mewn buddion economaidd ehangach.

Fel rhan o'n cynllun gwaith hirdymor, mae £4.4 biliwn o brosiectau eisoes wedi'u datblygu ac yn barod i'w rhoi ar waith, gyda'r potensial i gyrraedd £10 biliwn wrth i'r cyllid ganiatáu.

 

3. Sut y byddwn yn cyflawni hyn gyda'n gilydd

Dim ond trwy gydweithio'n agos â phartneriaid ar draws y llywodraeth, diwydiant a chadwyni cyflenwi y mae ein cynnydd hyd yn hyn wedi bod yn bosibl. Trwy barhau i weithio fel un tîm:

  • Gallwn ddarparu cynlluniau yn gyflym ac yn effeithlon.
  • Gallwn roi modelau sydd eisoes wedi ennill eu plwyf, fel Metro De Cymru, ar waith mewn rhannau eraill o Gymru.
  • Gallwn sicrhau bod pob buddsoddiad yn helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Rhwydwaith mwy gwyrdd, yn haws ei ddefnyddio ac wedi'i gysylltu'n well.

Gan weithio gyda'n partneriaid, rydym yn barod i gyflawni'r cam nesaf o drawsnewid rheilffyrdd i Gymru.