Cyhoeddiadau

Ar y dudalen hon, mae dolenni all roi mynediad i chi i Ffeiliau cyhoeddiadau Ruth, Ffeiliau cyhoeddiadau Eryl ac Elin a mynediad i ffeiliau cyhoeddiadau  Dosbarth 175.  
Rydym wedi penderfynu cyhoeddi'r ffeiliau hyn fel cwrteisi i'r nifer fawr o’r rheini sy’n ymddiddori yn y rheilffyrdd ac sy'n gwneud cais amdanynt yn sgil y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dylid nodi fodd bynnag y byddai didoli a chyhoeddi unrhyw ffeil cyhoeddiadau sain arall yn ddarn o waith eithriadol o fawr.  Ni all Trafnidiaeth Cymru gyfiawnhau’r amser na’r gost y byddai’n ei gymryd i gwblhau’r gwaith hwn er budd ychydig o unigolion yn unig.

Gobeithiwn eich bod yn deall y sefyllfa hon ac yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i alluogi i bobl gael mynediad at y ffeiliau hyn.