
Thryloyw
Fel corff a noddir yn gyhoeddus, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddangos ein bod yn agored a thryloyw wrth weithredu ein busnes ac yn y ffordd rydym yn cyfathrebu â’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliai...
Rydym yn ymroi i hyrwyddo amrywiaeth yn ein holl waith, er mwyn hybu prosesau, arferion a diwylliant cynhwysol.
Rydym yn falch o gefnogi Llywodraeth Cymru i sefydlu gweithgor newydd i annog mwy o fenywod a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried gyrfa ym maes trafnidiaeth.
"Yn Trafnidiaeth Cymru rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae'n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol.
Mae pawb yn wahanol ac mae ganddo eu persbectif eu hunain felly rydym yn adeiladu tîm amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr cynhwysol mwyaf blaenllaw Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru ymfalchïo ynddo."
"Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn hapus i ystyried gweithio hyblyg gan ein bod yn deall bod angen cydbwysedd ar ein gweithwyr yn eu bywydau gwaith ac, yn seiliedig ar ymddiriedaeth rydym am iddynt adeiladu eu gyrfaoedd heb aberthu eu blaenoriaethau personol."
Amcanion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2020-21
Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion 2020/24
Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2019/20