Cynllun gwrth-hiliaeth 2024

Mae ein cynllun yn amlygu’r cefndir a’r rhesymeg dros newid. Er mwyn ein galluogi i fod yn gyflogwr cynhwysol o ddewis, rydym yn credu mewn cydraddoldeb i bawb. Mae hyn yn allweddol i ddenu a chadw ein gweithwyr a datblygu eu gyrfaoedd. Dylem adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.