Cyd-destun a’r heriau
Buom yn cydweithio â Chyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) ar gamau cychwynnol (Camau A a B Cynllun Gwaith TrC) llwybr sy'n cysylltu i'r De o Orsaf Bangor. Mae Ffordd Penrhos yn cysylltu Bangor â phentref Penrhosgarnedd, Ysbyty Gwynedd, clwstwr o ysgolion, a swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae cysylltiadau pellach hefyd â'r Felinheli a Chaernarfon drwy lwybrau 5 ac 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Roedd y llwybr yn dioddef o achos problemau'n ymwneud â cherbydau'n mynd y tu hwnt i'r terfynau cyflymder, diffyg mannau croesi diogel i gerddwyr, a phroblemau draenio.
Dull dylunio
Ar y cyd â Chyngor Gwynedd, fe wnaethom sefydlu'r llwybr fel cysylltiad blaenoriaeth i ddefnyddwyr sy'n defnyddio'r orsaf. Gan weithio ar y cyd drwy'r camau dylunio ac ymgysylltu yn ystod 2023 gyda Chyngor Gwynedd, cymorth dylunio arbenigol a chefnogaeth diogelwch ar y ffyrdd, cafodd y prosiect ei flaenoriaethu ar gyfer adeiladu fesul cam dros bellter o 3.1km, gydag oddeutu 1km wedi'i adeiladu erbyn 2024, a'r 1km nesaf yn 2025.
Rhagwelir y bydd yr 1km sy'n weddill yn cael ei adeiladu'n uniongyrchol wedyn. Cyngor Gwynedd oedd y cleient ffurfiol drwy gydol y prosiect yn rhinwedd ei rôl fel Awdurdod Priffyrdd, gyda TrC yn darparu cymorth fel cynrychiolydd y cleient a rheolaeth gynnar y prosiect. Darparwyd cymorth arbenigol ar gyfer y dyluniadau a goruchwyliaeth ar y safle gan ymgyngoriaethau trafnidiaeth.
Partneriaethau ac ymgysylltu
Anogwyd defnyddio'r llwybr gan gyfleusterau parcio beiciau a gweithgareddau newid ymddygiad mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Roedd staff mewn safleoedd sector cyhoeddus ar hyd y llwybr (Cyfoeth Naturiol Cymru, Ysbyty Gwynedd ac ysgolion Gwynedd) hefyd yn cymryd rhan drwy Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru.
Mae'r cynllun yn ategu cynigion sy'n cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r groesfan ar yr A487 yng nghyfnewidfa'r Faenol (Darpariaeth teithio llesol: A487 Cylchfan y Faenol, Bangor). Mae safleoedd bysiau a llochesi wedi cael eu gwella ar gyfer TrawsCymru, Sherpa'r Wyddfa a gwasanaethau lleol sy'n gwasanaethu'r llwybr. Cefnogwyd y gwaith o adeiladu'r llwybr hefyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a oedd yn caniatáu defnyddio rhan o dir wrth fynedfa'r ysbyty fel compownd dros dro.
Effaith
Rydym wedi cynnal cyfrifiadau traffig yng ngorsaf Bangor ac ar hyd y llwybr, yn ogystal â mesur cyflymder. Roedd 34% o'r defnyddwyr a holwyd ym mis Mawrth 2025 yn teithio i Orsaf Bangor drwy gerdded, olwyno neu feicio. Fodd bynnag, roedd 52% yn teithio o leoliadau o fewn pellter rhesymol i gerdded, olwyno neu feicio, gan dynnu sylw at botensial cryf i gynyddu mynediad drwy ddulliau llesol ar gyfer milltir gyntaf/olaf y daith, yn enwedig yng nghyd-destun dyheadau ar gyfer gwasanaethau ychwanegol rhwng Bangor a Maes Awyr Manceinion.
-
Station Network PlansAngen cefnogaeth gyda'ch prosiect Cynlluniau Rhwydwaith GorsafoeddGall ein tîm helpu gydag opsiynau ariannu a chyngor technegol.Cysylltu â ni