Gwella Mynediad i orsafoedd: Nodweddion allweddol dylunio SNPs

Mae Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd wedi'u cynllunio i wneud siwrneiau yn ôl ac ymlaen i orsafoedd trenau a bysiau yn fwy diogel, yn fwy cyfleus ac yn fwy pleserus. Er y dylai pob Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd ymateb i gyd-destun lleol, mae cynlluniau llwyddiannus yn tueddu i rannu set o egwyddorion dylunio craidd.

Mae'r categorïau canlynol yn cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer yr hyn y gall Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd ei gynnwys, er nad oes angen i bob cynllun ymdrin â phob agwedd.

 

Mannau cyhoeddus croesawgar

  • Llwybrau uniongyrchol, cysylltiedig rhwng gorsafoedd a chyrchfannau allweddol (cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a gwasanaethau)
  • Arwyddion clir a dulliau o ganfod y ffordd sy'n gysylltiedig â Rhwydwaith T
  • Integreiddio â rhwydweithiau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus presennol
  • Cyfleusterau mewn gorsafoedd ar gyfer pontio'n hawdd rhwng dulliau teithio
  • Systemau gwybodaeth amser real i gefnogi’r broses o gynllunio teithiau

 

Llwybrau cysylltiedig ac integredig

  • Amgylcheddau deniadol mewn gorsafoedd sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda
  • Nodweddion bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd
  • Draenio cynaliadwy a dylunio sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd
  • Parch tuag at nodweddion gwledig, treftadaeth a lleol
  • Osgoi annibendod a rhwystrau diangen

 

Seilwaith cynhwysol a hygyrch

  • Llwybrau cerdded, olwyno a beicio o ansawdd uchel sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda
  • Gwahanu cerdded ac olwyno oddi wrth feicio (lle bo hynny'n briodol) gan ddilyn egwyddorion dylunio cynhwysol
  • Gosod celfi stryd yn ddoeth (er enghraifft, meinciau, mannau parcio beiciau, gorsafoedd trwsio a loceri)
  • Gwelededd, gwyliadwriaeth naturiol a golau da
  • Mesurau i leihau cyflymderau a llifau traffig