Y cymorth sydd ar gael gan TrC
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig i ddatblygu Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd llwyddiannus. Mae’n bosibl y bydd TrC yn gallu cynnig cymorth ar draws amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys rheoli prosiectau ac ymgynghoriaeth, mewnbwn technegol a dylunio. Bydd lefel a math y gefnogaeth yn amrywio yn dibynnu ar ofynion y cynllun unigol a'r adnoddau sydd ar gael, ond byddem yn eich annog i gysylltu â ni i weld sut gallem gefnogi eich prosiect Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd.
Dyma enghreifftiau o wasanaethau rydyn ni wedi'u cynnig ar gyfer Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd blaenorol:
- Mapio a dadansoddi llwybrau cerdded, olwyno a beicio o amgylch gorsafoedd a chanolfannau bysiau
- Mewnbwn technegol ar ddylunio ac integreiddio teithio llesol â thrafnidiaeth gyhoeddus, gan ddefnyddio ein gwybodaeth am arferion gorau o fannau eraill yng Nghymru a'r DU
- Cyngor ar ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynnwys y gymuned
- Cefnogi'r gwaith o gysoni cynigion â safonau cenedlaethol a meini prawf cyllido
- Cefnogi eich prosiectau i gyfrannu at integreiddio pob dull trafnidiaeth ledled Cymru
- Rhannu data a chymorth systemau gwybodaeth ddaearyddol i lywio'r gwaith o gynllunio llwybrau a blaenoriaethu.
Cysylltu
I gael cyngor ar eich prosiect Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd, gan gynnwys llwybrau cyllido posibl neu fewnbwn technegol, cysylltwch â'ch arweinydd rhanbarthol teithio llesol TrC neu anfonwch e-bost atom yn activetravel@tfw.wales.
-
Station Network PlansAngen cefnogaeth gyda'ch prosiect Cynlluniau Rhwydwaith GorsafoeddGall ein tîm helpu gydag opsiynau ariannu a chyngor technegol.Cysylltu â ni