Achos dros newid
Mae ein dadansoddiad o deithio i orsaf Casnewydd yn dangos bod dros hanner y teithiau i orsafoedd rheilffordd yn cael eu gwneud mewn car, er bod tua thri chwarter y teithwyr hynny'n byw yn y ddinas. Nid yw'r patrwm hwn yn unigryw i Gasnewydd, gyda thystiolaeth o Ben-y-bont ar Ogwr hefyd yn dangos bod 72% o deithwyr yn teithio mewn cerbyd modur, er bod 90% o'r rhai a arolygwyd yn byw yn yr ardaloedd cod post cyfagos o fewn pellter cerdded, olwyno neu feicio rhesymol. Mae hyn yn adlewyrchu tuedd ehangach a welir mewn llawer o orsafoedd mawr yng Nghymru.
Drwy wella llwybrau teithio llesol o amgylch gorsafoedd rheilffyrdd a bysiau, gallwn annog mwy o bobl i gerdded, olwyno a beicio.
Mae Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn cynnig ffordd ymarferol a strategol o ymateb i'r her hon, gan ddod â manteision i'r bobl sy'n eu defnyddio a'r partneriaid sy'n helpu i'w cyflawni.
Manteision i gymunedau lleol
- Llwybrau mwy diogel a hygyrch i drafnidiaeth gyhoeddus
- Teithiau haws a mwy di-dor gan ddefnyddio sawl dull teithio
- Gwell cysylltedd lleol a mynediad at swyddi, gwasanaethau a chyfleoedd cymdeithasol
- Opsiynau teithio hyblyg, lleihau dibyniaeth ar geir ac arbed amser ac arian i bobl
- Opsiynau teithio iachach sy'n cefnogi ffyrdd egnïol o fyw
Manteision i bartneriaid cyflawni
- Mae’n cyd-fynd ag amrywiaeth eang o dargedau hinsawdd, iechyd a thrafnidiaeth a nodir gan Lywodraeth Cymru (rhestr fanwl isod).
- Datblygu nodau Map Rhwydwaith Teithio Llesol
- Llai o alw am barcio ceir mewn gorsafoedd, gan agor cyfleoedd ar gyfer defnydd tir mwy effeithlon a chreu lleoedd
- Costau cynnal a chadw priffyrdd is drwy fwy o deithio cynaliadwy
- Cryfhau economïau lleol drwy wella mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau drwy gynyddu maint dalgylch a chynyddu'r ystod teithio i'r gwaith
Cyflawni strategol a cyd-fynd â pholisïau
Mae Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn helpu awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig i gyflawni amrywiaeth eang o dargedau ac ymrwymiadau polisi Llywodraeth Cymru. Maent yn cyd-fynd yn uniongyrchol â’r canlynol:
- Targedau hinsawdd, iechyd a thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, drwy flaenoriaethu teithio llesol, fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
- Y Rhwydwaith T, drwy greu cysylltiadau teithio integredig, aml-ddull ledled Cymru.
- Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy'n galw am gynnydd o 45% mewn siwrneiau a wneir drwy deithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2040.
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, drwy hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy, cynhwysol sy'n gwella iechyd.
- Y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, drwy alluogi newid dulliau teithio a lleihau dibyniaeth ar geir.
- Y Cynlluniau Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol, drwy ganolbwyntio ar yr ardaloedd o amgylch gorsafoedd, nodau allweddol yn y Rhwydwaith T. Gall Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd chwarae rhan ganolog yn y gwaith o lunio systemau trafnidiaeth rhanbarthol mwy integredig, cynhwysol a chynaliadwy, fel y nodir yn y pedwar Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol.
- Targedau Cymru Sero Net, drwy alluogi newid i ddulliau teithio carbon isel a llesol. Mae seilwaith Teithio Llesol yn cyfrannu'n allweddol at leihau allyriadau trafnidiaeth.
Bydd ymgorffori Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn y Cynlluniau Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol yn helpu i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu lle mae'n cael yr effaith fwyaf.
Hyd yma, mae 15 Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd wedi cael eu datblygu - rhai ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru, ac eraill yn cael eu harwain yn annibynnol gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio methodoleg TrC. Mae'r map isod yn dangos lle mae'r cynlluniau hyn wedi cael eu datblygu, gan dynnu sylw at orsafoedd sydd â Chynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd ar y gweill ar hyn o bryd, pob un yn nodi cam tuag at Rwydwaith T mwy cysylltiedig a chynhwysol.
-
Station Network PlansAngen cefnogaeth gyda'ch prosiect Cynlluniau Rhwydwaith GorsafoeddGall ein tîm helpu gydag opsiynau ariannu a chyngor technegol.Cysylltu â ni