Y broses SNP: O gynllunio i gyflwyno

Datblygu Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd unigol (fel arfer mae'n dilyn proses strwythuredig sy'n cyd-fynd â Chanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a Chynllun Gwaith Trafnidiaeth Cymru (PoW). Mae'r ddau fframwaith hyn yn cynnig dulliau ategol i sicrhau bod y Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gynhwysol ac yn gyraeddadwy.

Mae'r diagram isod yn dangos llifau proses cyfun WelTAG a'r Cynllun Gwaith.

Mae'r siart llif yn dangos llif prosesau cyfun WelTAG a Chynllun Gwaith TrC, gan ddangos sut mae cyfrifoldebau'n symud ar draws y camau.

 

Rolau a chyfrifoldebau: Dull cydweithredol

Mae proses y Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd wedi'i chynllunio i fod yn gydweithredol ac yn hyblyg. Hyd yma, mae TrC fel arfer wedi arwain datblygiad cam cynnar, gan gynnig arbenigedd cynllunio, mewnbwn technegol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymorth rheoli prosiectau mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Ar bob cam, gall TrC gefnogigyda blaenoriaethu strategol, canllawiau dylunio, ymgysylltu â rhanddeiliaid, monitro a gwerthuso, a chyngor caffael, wedi'i deilwra i anghenion a chapasiti lleol.

Bydd TrC yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig i gysoni'r broses o ddewis gorsafoedd a llwybrau â blaenoriaethau rhanbarthol a chyfleoedd cyllido, fel y rheini sydd wedi'u nodi yn y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a'u Cynlluniau Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Anogir awdurdodau lleol i ddefnyddio cymorth TrC ond gallant hefyd ddewis arwain y broses eu hunain. Ni waeth pwy sy'n arwain y camau cynharach, awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i gymryd perchnogaeth dros gyflawni'r cynllun, yn enwedig adeiladu a chau'r cynllun (Camau 4 + 5 WelTAG / Camau F+G y Cynllun Gwaith.) Fel Awdurdodau Priffyrdd, mae awdurdodau lleol yn fwyaf addas ar gyfer y rôl hon oherwydd eu cyfrifoldebau cyfreithiol, mynediad at gyllid, gwybodaeth leol ddofn, ac integreiddio â fframweithiau cynllunio a datblygu.

Mae'r model partneriaeth hwn yn sicrhau bod pob Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol ar yr un pryd â manteisio ar gydlyniant ac arbenigedd cenedlaethol.

 

Y broses

1. Cam sefydlu

Mae'r cam cychwynnol, sy'n cyd-fynd â Cham 0 + 1 WelTAG / Cam 0 + A y Cynllun Gwaith, ac sydd fel arfer yn cael ei arwain gan TrC, yn gosod y sylfaen ar gyfer pob Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd, gan gynnwys dewis gorsafoedd a llwybrau, ymgysylltu cychwynnol â rhanddeiliaid a datblygu achosion busnes cynnar.

Elfennau i'w cyflawni a gweithgareddau allweddol 

  • Dewis gorsaf
    Mae TrC yn sgorio gorsafoedd ar sail eu potensial i gefnogi cerdded, olwyno a beicio gan ddefnyddio astudiaeth "Tueddiadau i Deithio'n Llesol i Orsafoedd" Sustrans 2020. Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at orsafoedd lle gallai gwelliannau teithio llesol gael yr effaith fwyaf ar newid sut mae pobl yn teithio. Mae'r asesiad tueddiadau hwn wedyn yn cael ei gyfuno â rhaglenni gwaith presennol TrC neu awdurdodau lleol (fel gwella gwasanaethau), y Map Rhwydwaith Teithio Llesol lleol a chydweithio'n agos ag awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig i gyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol a chyfleoedd cyllido yn y Cynlluniau Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol. Bydd hyn wedyn yn arwain at flaenoriaethu gorsafoedd yn rhanbarthol, gyda chytundeb y Cyd-bwyllgor Corfforedig perthnasol ac awdurdodau lleol, gan sicrhau bod lleoliadau dethol yn adlewyrchu potensial strategol a'r gallu i gyflawni.
     
  • Dewis llwybr
    Mae llwybrau i orsafoedd dethol yn cael eu gwerthuso gan ddefnyddio adnodd blaenoriaethu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol TrC a ffynonellau data eraill, fel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a data gwrthdrawiadau Stats Cymru, ac mae'n cynnwys ymgysylltu ag awdurdodau lleol i ystyried cyd-destun lleol. Mae'r ffocws fel arfer ar lwybrau sy'n cael eu hystyried yn debygol o gael effaith 'uchel' neu 'uchel iawn' o ran newid sut mae pobl yn teithio. Mae hyn yn cynnwys:

    - Adolygu cronfa ddata Mapiau'r Rhwydwaith Teithio Llesol

    - Ymgysylltu â rhanddeiliaid

    - Ymweliadau safle ar gyfer archwiliadau llwybrau (os oes angen) ac adolygu cyfleusterau presennol

    - Dadansoddi data arolwg a chyrchfannau.
     
  • Memorandwm cyd-ddealltwriaeth
    Gofynnir i awdurdodau lleol amlinellu'n ffurfiol eu cefnogaeth i gynlluniau perthnasol drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy'n cynnwys atodiad wedi'i deilwra sy'n amlinellu rolau a chyfrifoldebau gwahanol bartneriaid y prosiect.
     
  • Datblygu achos busnes amlinellol strategol
    Mae rhestr hir o opsiynau llwybr yn cael ei datblygu gan ddefnyddio dull pum achos Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, sy'n dangos y canlynol:

    - Cysondeb strategol: Sut mae'r gwelliannau'n cyd-fynd â nodau ehangach.

    - Llesiant: Yr effaith gadarnhaol ar y gymuned.

    - Fforddiadwyedd: Hyfywedd ariannol y cynllun.

    - Rheoli: Pwy fydd yn rheoli'r cynllun a'i risgiau.

    - Gallu i gyflawni: Sut bydd gwahanol rannau'r cynllun yn cael eu caffael a'u cyflawni.

Cynllun gweithredu prosiect

Bydd grŵp adolygu penodol o bob Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd yn cefnogi'r broses o ddatblygu Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd, gan sicrhau bod tystiolaeth dda o'r cynigion, eu bod yn cyd-fynd â'r rhanbarthau, a'u bod yn barod i symud ymlaen. Bydd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig a TrC. Bydd angen i'r Awdurdodau Lleol dderbyn y cynigion a rhaid eu cofnodi er mwyn i gynlluniau symud ymlaen drwy'r camau datblygu.

Yn y gorffennol, mae TrC wedi bod yn gyfrifol am sefydlu'r grŵp adolygu yn ystod y cam sefydlu, ar y cyd â'r awdurdod lleol perthnasol. Mae'r grŵp yn gweithredu fel panel llywio a phorth camau, gan adolygu a chymeradwyo elfennau allweddol i'w cyflawni cyn pob trosglwyddiad i'r cam nesaf.

Cynllun gweithredu prosiect

Un o ganlyniadau allweddol y cam hwn fydd Cynllun Gweithredu Prosiect, a fydd yn amlinellu llwybrau arfaethedig a/neu welliannau i orsafoedd. Bydd y cynllun hwn yn cael ei fireinio'n raddol drwy gamau dilynol y prosiect, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau rhanddeiliaid, asesiadau technegol a chyfleoedd cyllido.

2. Cam cysyniad: Datblygu opsiynau a dewis

Ar ôl y cam sefydlu, mae'r cam cysyniad yn canolbwyntio ar ddatblygu opsiynau a sefydlu rhestr fer o opsiynau llwybr, wedi'i llywio gan ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol. Mae'r cam hwn yn cyd-fynd â Cham 2 WelTAG / Cam B y Cynllun Gwaith.
 

Elfennau i'w cyflawni a gweithgareddau allweddol

Cefnogaeth TrC ar y cam hwn

  • Datblygu opsiynau: Creu dyluniadau cysyniadol a rhestr fer o opsiynau llwybr.
     
  • Ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddyluniadau cysyniadol i lywio'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio ar gyfer dyluniad rhagarweiniol yn y cam nesaf: Ymgysylltu â defnyddwyr arfaethedig, busnesau yr effeithir arnynt, preswylwyr, a swyddogion/aelodau awdurdodau lleol i sicrhau bod dyluniad y cysyniad yn adlewyrchu anghenion lleol, ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth, a'i fod yn dderbyniol yn gyffredinol.
     
  • Cysoni cyllid: Mae TrC yn annog awdurdodau lleol i gynnwys y cynllun yn eu ceisiadau am gyllid trafnidiaeth gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad pellach a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r Cynllun Cyflawni Rhanbarthol ar gyfer Trafnidiaeth.
     
  • Nodi deiliaid dyletswyddau Rheoli Dyluniad Adeiladu posibl

Fel arfer, TrC sy'n arwain y cam hwn a gall gynnig y canlynol:

  • Cynllunio strategol a chymorth blaenoriaethu
     
  • Datblygu dyluniad cysyniadol
     
  • Cyngor technegol a dadansoddi data
     
  • Cydlynu’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid
     
  • Datblygu achos busnes sy'n cyd-fynd ag WelTAG
     
  • Mewnbwn monitro a gwerthuso
     

Mae'r cymorth hwn yn adeiladu ar fodelau cyflawni rhanbarthol sydd eisoes yn cael eu defnyddio a gellir eu teilwra i anghenion lleol.

3. Datblygu cynllun: Dylunio rhagarweiniol a'r broses statudol 

Mae'r cam hwn (Cam 3 WelTAG / Cam C+D y Cynllun Gwaith) yn canolbwyntio ar ddyluniad rhagarweiniol yr opsiwn un llwybr, mireinio manylion technegol a pharatoi'r cynllun ar gyfer datblygiad manwl. Mae'r cam hwn hefyd yn mireinio'r adnoddau a'r cyllid sydd ar gael.
 

Elfennau i'w cyflawni a gweithgareddau allweddol

Cefnogaeth TrC ar y cam hwn

  • Deiliaid dyletswydd Rheoli Dyluniad Adeiladu wedi'u nodi a'u penodi'n ysgrifenedig
     
  • Arolygon topograffig, cyfrifiadau traffig, ac arolygon ac ymchwiliadau eraill a gynhelir fel sy'n ofynnol gan amodau'r safle (ee ecoleg, treftadaeth, UXO, ymchwiliadau tir, chwiliadau cyfleustodau, ac ati) i ategu unrhyw wybodaeth sydd ar gael cyn adeiladu
     
  • Datblygu'r dyluniad un llwybr sy'n cael ei ffafrio
     
  • Ymgysylltu pellach ar y dyluniad rhagarweiniol a'i ddefnyddio wedyn fel sail i'r opsiwn dylunio manwl
     
  • Cynllun Gweithredu Prosiect (PEP) wedi'i ddiweddaru
     
  • Diweddaru'r achos busnes, y gofrestr risg a'r cynllun monitro a gwerthuso
     
  • Archwiliad Diogelwch ar y Ffyrdd
     
  • Cyflwyniad i Swyddfa Ddylunio TrC i adolygu'r dyluniad (dewisol, lle nad oedd yn gysylltiedig o'r blaen)
  • Rheoli a chydlynu prosiectau
     
  • Yn dibynnu ar y cynllun: Rhoi sylwadau a mewnbwn ar ddylunio technegol neu ymgymryd â dylunio yn uniongyrchol ar ran yr awdurdod lleol.
     
  • Cefnogaeth i ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid
     
  • Cydlynu Archwiliad Diogelwch ar y Ffyrdd
     
  • Arweiniad ar fonitro a gwerthuso
     
  • Cyngor strategol i sicrhau cysondeb â safonau cenedlaethol, a chysondeb â'r Cynllun Cyflawni Rhanbarthol ar gyfer Trafnidiaeth
     

Mae'r cymorth yn hyblyg a gellir ei deilwra i anghenion lleol a gellir ei ddarparu drwy dimau mewnol TrC neu ymgynghorwyr allanol. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dewis arwain y cam hwn, gyda TrC yn cynnig mewnbwn cynghori a thechnegol yn ôl yr angen.

4. Datblygu cynllun: Dyluniad manwl 

Mae'r cam hwn (Cam 3 WelTAG / Cam E y Cynllun Gwaith) yn cwblhau dyluniad y cynllun, gan sicrhau ei fod yn bodloni'r holl ofynion technegol, cyfreithiol a chyflawni. Paratoir y cynllun ar gyfer tendro ac adeiladu.
 

Elfennau i'w cyflawni a gweithgareddau allweddol

Cefnogaeth TrC ar y cam hwn

  • Datblygu dyluniad manwl yn unol â phroses WelTAG a safonau perthnasol
     
  • Cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol
     
  • Mae dyletswyddau Rheoli Dyluniad Adeiladu’n cynnwys paratoi pecyn gwybodaeth cyn adeiladu
     
  • Cwblhau'r adolygiad dylunio terfynol
     
  • Dyluniadau terfynol wedi'u diweddaru
     
  • Paratoi dogfennau tendr
  • Cymorth ac adolygiad dylunio technegol
     
  • Adborth a sicrwydd y Swyddfa Ddylunio: Potensial i Swyddfa Ddylunio TrC ymgymryd â'r cam hwn yn amodol ar gapasiti
     
  • Rheoli prosiect (os cytunir ar hynny gyda'r awdurdod lleol)


Nodyn pwysig: Pan fydd TrC wedi arwain ar gam datblygu'r cynllun (y cysyniad, y dyluniad rhagarweiniol neu'r dyluniad manwl), bydd yr holl elfennau i'w cyflawni yn cael eu trosglwyddo'n ffurfiol i'r awdurdod lleol ar y cam hwn, fel yr Awdurdod Priffyrdd cyfrifol. Tybir bod yr ALl wedi sicrhau pob cymeradwyaeth fewnol rhwng adrannau er mwyn gallu symud y prosiect yn ei flaen drwy'r gwahanol gamau. Mae'r ALl wedyn yn cymryd perchnogaeth dros y dogfennau a disgwylir iddo fwrw ymlaen â'r cynllun yn unol â gofynion y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a WelTAG.

5. Cyflawni’r cynllun: Adeiladu a throsglwyddo

Mae'r cam hwn (Cam 4 WelTAG / Cam F y Cynllun Gwaith) yn canolbwyntio ar gyflawni'r cynllun yn ffisegol. Fel Awdurdodau Priffyrdd, awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau fel arfer i arwain y gwaith adeiladu a gweithredu.
 

Elfennau i'w cyflawni a gweithgareddau allweddol

Cefnogaeth TrC ar y cam hwn

  • Cwblhau'r holl gamau cyfreithiol, cytundebol a chaffael
     
  • Adeiladu a gosod seilwaith
     
  • Monitro a gwerthuso parhaus
     
  • Integreiddio â strategaethau cynllunio a thrafnidiaeth lleol
     
  • Cwblhau'r gwaith adrodd terfynol a'i gwblhau yn unol â gofynion WelTAG a'r Cynllun Gwaith

Er bod awdurdodau lleol fel arfer yn arwain y gwaith o gyflawni, gall TrC barhau i roi cymorth cynghori, ond gellir cynyddu'r cymorth yn dibynnu ar anghenion lleol a'r adnoddau sydd ar gael:
 

  • ACyngor ar gaffael ac ymgysylltu â chontractwyr
     
  • Cymorth gydag opsiynau a fframweithiau monitro a gwerthuso
     
  • Canllawiau technegol parhaus, os oes angen
     

Er mwyn cyflawni'n llwyddiannus, mae angen cwblhau Camau 4 + 5 WelTAG / Camau F + G y Cynllun Gwaith, gyda'r holl elfennau cysylltiedig i'w cyflawni.

6. Monitro a gwerthuso: Dod â’r prosiect i ben

TMae cam olaf y broses o ddod â’r prosiect i ben (Cam 5 WelTAG / Cam G y Cynllun Gwaith) yn cynnwys monitro a gwerthuso, sy'n hanfodol er mwyn deall effaith pob cynllun ac sy'n un o ofynion craidd y broses. Cytunir ar amcanion clir yn gynnar a chânt eu defnyddio i lywio'r ffordd y mesurir cynnydd. Bydd y dull o fonitro yn cael ei amlinellu yng Nghynllun Gweithredu'r Prosiect ac yn cael ei deilwra i nodau eich Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd a gofynion monitro a gwerthuso'r cyllidwr. Gallai hyn gynnwys mewnbwn strategol i sicrhau cysondeb â nodau trafnidiaeth rhanbarthol.

Gellir gwerthuso nifer defnyddwyr llwybrau mewn arolygon, gyda pheiriannau cyfrif traffig awtomatig, arolygon defnyddwyr llwybrau a thrwy arolygon cynlluniau teithio mewn ysgolion cyfagos a busnesau lleol ac ati. Gall y math hwn o arolwg hefyd gofnodi newid mewn agweddau ac ymddygiad.

Bydd y gwerthusiad hefyd yn ystyried a yw'r Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd wedi creu rhagor o alw ar hyd cysylltiadau â'r gyfnewidfa drafnidiaeth - i'w cynnwys fel prosiectau yn y dyfodol a/neu yn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

Mae rhagor o fanylion am y dull gweithredu a argymhellir ar gyfer monitro a gwerthuso ar gael yng Nghanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol, Pennod 16.

Trosolwg o'r broses a'r hyn sydd i'w gyflawni

Gall y broses bellach gynnwys cyfarfodydd cyswllt, pwyntiau cyswllt strwythuredig rhwng swyddogion awdurdodau lleol (hyrwyddwyr y cynllun) ac adolygwr sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru (y cyllidwr). Mae'r cyfarfodydd hyn wedi'u cynllunio i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu datblygu yn y ffordd gywir, yn y lleoliadau cywir, ac yn unol â phroses WelTAG a’r Cynllun Gwaith. Cynhelir y cyfarfodydd cyswllt mewn mannau penderfynu allweddol, ac maen nhw'n helpu i gadarnhau ansawdd, gwerth am arian a rheoli risg. Maent yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â heriau mewn ffordd adeiladol.
 

Mae'r siart llif yn dangos sut mae camau WelTAG yn cyd-fynd â Chynllun Gwaith TrC a lle mae'r pedwar Cyfarfod Cofrestru yn digwydd fel pwyntiau cyswllt allweddol rhwng hyrwyddwyr cynlluniau awdurdodau lleol a thîm cymorth TrC ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Cyfarfof cyswllt 1: Dewis opsiynau

PrydGweithgareddau rhagofynnolDogfennau

Ar ôl dewis llwybr o'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol, a dewis un opsiwn sy'n cael ei ffafrio.

 

  • Cofnodi Achos dros Newid sy'n benodol i brosiect fel y nodir yng nghanllawiau Cam 0 WelTAG.
  • Blaenoriaethu'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol gan ddefnyddio methodoleg briodol.
  • Arfarniad Llesiant Integredig (IWBA).
  • Tystiolaeth wedi'i chasglu i ddangos bod proses arfarnu opsiynau wedi'i harwain gan ddylunio wedi cael ei chynnal. Gallai hyn ddefnyddio adnodd dethol Dadansoddiad Aml-Feini Prawf (MCA) i ddangos yr opsiwn sydd fwyaf addas yn erbyn y pum dimensiwn WelTAG a llywio'r dewis o ran yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio ar gyfer datblygu pellach.
  • Cynllunio prosiect lefel uchel (mae'r dystiolaeth wedi'i chofnodi yng Nghynllun Gweithredu'r Prosiect).
  • Achos dros Newid
  • Cofnod Gwerthuso Opsiynau
  • Cofnod Safonau Cyflenwi Cychwynnol (ansawdd arfaethedig y cynllun)  
  • Cynllun Gweithredu Prosiect (PEP)
  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

 

Cyfarfof cyswllt 2: Dyluniad rhagarweiniol

PrydGweithgareddau rhagofynnolDogfennau

Unwaith y bydd un opsiwn a ffefrir wedi'i nodi ac wedi'i ddylunio'n rhagarweiniol.

 

  • Dyluniad rhagarweiniol ar gyfer un opsiwn.
  • Mae Safonau Cyflwyno yn cael eu gosod a'u cofnodi ar gyfer y weledigaeth o'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio.
  • Cynllunio prosiectau'n fanylach (mae'r dystiolaeth wedi'i chofnodi yn y Cynllun Gweithredu Prosiect wedi’i ddiweddaru).
  • Cynllun Gweithredu Prosiect wedi'i Ddiweddaru
  • Cofnod Safonau Cyflawni wedi'i Ddiweddaru

 

Cyfarfof cyswllt 3: Cyn cyflawni

PrydGweithgareddau rhagofynnolDogfennau

Pan fydd cynllun yn barod i'w gyflawni.

 

  • Dyluniad manwl.
  • Ailasesiad o'r Safonau Cyflawni a osodwyd yng Nghyfarfod cyswllt Dau i weld a fu unrhyw newid ers hynny.
  • Cam olaf o gynllunio'r prosiect (y dystiolaeth a gasglwyd yn y Cynllun Gweithredu Prosiect wedi’i ddiweddaru), gan gynnwys ailasesiad terfynol o werth am arian.
  • Cynllun Gweithredu Prosiect wedi'i Ddiweddaru
  • Cofnod Safonau Cyflawni wedi'i Ddiweddaru

 

Cyfarfof cyswllt 4: Cwblhau

PrydGweithgareddau rhagofynnolDogfennau
Unwaith y bydd y cyfnod cyflawni wedi'i gwblhau'n ymarferol a bod y cynllun yn cael ei ddefnyddio.
  • Cyflawni'r prosiect yn unol â'r bwriad yng Nghyfarfod cyswllt Tri.
  • Cam cynllunio ar gyfer gwerthuso'r prosiect.
  • Cofnod cwblhau gan gynnwys cynllun y cam gwerthuso sy'n gysylltiedig ag Adroddiad Cynnydd Blynyddol Llywodraeth Cymru


I gael rhagor o fanylion am y fethodoleg a'r gweithredu, anogir darllenwyr i gyfeirio at Ganllawiau Cynghori ar Deithio Llesol/Cyflawni Teithio Llesol TrC a gyhoeddwyd yn ddiweddar, Medi 2025.