Prosbectws Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd
Mae'r prosbectws hwn yn gwahodd Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar Gynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd - gwelliannau wedi'u targedu i'r ardaloedd sy'n ymwneud â chyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gorsafoedd trenau a chanolfannau bysiau. Nod y cynlluniau hyn yw gwneud cyfnewidfeydd yn fwy diogel, yn fwy hygyrch ac wedi'u cysylltu'n well.
Mae Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn elfen allweddol o ddatblygu Rhwydwaith T: Gweledigaeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth gwbl integredig sy'n cysylltu trenau, bysiau, cerdded, olwyno a beicio yn ddi-dor.
Mae'r prosbectws hwn yn amlinellu elfennau allweddol y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd ar gyfer cyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus (gorsafoedd) ledled Cymru yn y dyfodol ac mae'n cynnig canllawiau ymarferol i ALlau a Chyd-bwyllgorau Corfforedig gymryd y camau nesaf, gyda chefnogaeth TrC.
Beth yw Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd?
Mae Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd yn nodi llwybrau cerdded, beicio ac olwyno allweddol sy'n cysylltu cymunedau â chanolfannau trafnidiaeth gyhoeddus cyfagos - gan gynnwys gorsafoedd trenau a chyfnewidfeydd bysiau. Mae'r llwybrau hyn wedi'u dylunio i wneud teithio llesol yn rhan naturiol o deithiau bob dydd, gan alluogi mwy o bobl i gyfuno cerdded, olwyno neu feicio â thrafnidiaeth gyhoeddus.
Nid yw Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn ymwneud â seilwaith yn unig: Maen nhw'n ymwneud â chreu lleoedd sy'n gweithio'n well i bobl. Maent yn arwain gwelliannau i’r canlynol:
- Cynllunio a darparu llwybrau teithio llesol yn ôl ac ymlaen i orsafoedd a chanolfannau bysiau
- Cael gwared ar rwystrau sy'n ei gwneud yn anodd cael mynediad cynaliadwy at drafnidiaeth gyhoeddus
- Gwella'r mannau o amgylch gorsafoedd a chyfnewidfeydd, yn enwedig ystadau sy'n eiddo i TrC, i'w gwneud yn fwy diogel, yn fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio.
Drwy ddod â'r elfennau hyn at ei gilydd, mae Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn paratoi'r ffordd ar gyfer gorsafoedd yn y dyfodol sy'n galluogi teithiau aml-ddull di-dor, lle mae cerdded, olwyno, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd yn ddiymdrech. Mae pob gorsaf well yn garreg filltir yn natblygiad y Rhwydwaith T, gan helpu i wneud teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis hawdd.
Yr achos dros newid
Mae Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn adnodd strategol ar gyfer sicrhau cymunedau iachach, mwy cynhwysol sydd â chysylltiadau gwell. Ar gyfer Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig, gall Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd gefnogi amrywiaeth eang o nodau polisi, lleihau costau, a gwella canlyniadau i breswylwyr.
Prif nodweddion dylunio
Er bod pob Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd yn ymateb i gyd-destun lleol, mae cynlluniau llwyddiannus yn tueddu i rannu set o egwyddorion dylunio craidd sy'n sicrhau eu bod yn weithredol, yn ddiogel ac yn gynhwysol. Mae'r categorïau canlynol yn cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer yr hyn y gall Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd ei gynnwys, er nad oes angen i bob cynllun ymdrin â phob agwedd.
Proses
Mae'r broses ar gyfer datblygu Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd unigol yn dilyn Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a phrosesau Cynllun Gwaith (PoW) TrC, yn unol â Chanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol (ATAG). Mae'r fframweithiau hyn yn darparu dulliau ategol i sicrhau bod y Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gynhwysol ac yn gyraeddadwy.
Astudiaethau achos
Mae'r astudiaethau achos canlynol yn cynnig ysbrydoliaeth drwy dynnu sylw at agweddau penodol ar y Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Gan fod gwaith pob Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd yn dal i fynd rhagddo, mae'r enghreifftiau hyn yn canolbwyntio ar elfennau unigol yn hytrach na chynlluniau cyflawn. Byddwn yn parhau i fonitro a diweddaru'r adran hon wrth i brosiectau esblygu. Ewch i'r is-dudalen i gael rhagor o fanylion a diweddariadau yn y dyfodol.
Cyllid
Mae sicrhau cyllid ar gyfer cynllun yr SNP yn ystyriaeth allweddol. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich tywys drwy lwybrau cyllid posibl ar gyfer datblygu cynlluniau yn ogystal â chyflawni cynlluniau.
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig i ddatblygu Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd llwyddiannus. Mae ein cymorth wedi'i gynllunio i helpu partneriaid i gryfhau cynigion cynlluniau, gwella ansawdd dylunio, a chyd-fynd â safonau a blaenoriaethau cenedlaethol.
Cyswllt
Cysylltwch â'n tîm i drafod y ffordd orau o gefnogi eich Cynllun Rhwydwaith Gorsafoedd, gan gynnwys nodi llwybrau cyllido priodol a mewnbwn technegol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cymorth sydd ar gael, neu os hoffech chi siarad â rhywun am eich prosiect, cysylltwch â'ch arweinydd rhanbarthol teithio llesol TrC neu anfonwch e-bost atom yn activetravel@tfw.wales.