Cyd-destun a’r heriau

Mae tua 400,000 o deithwyr yn mynd drwy Orsaf Drenau Llandudno bob blwyddyn.  Gyda'n gwelliannau arfaethedig i'r amseroedd cysylltu o Gyffordd Llandudno, rydym yn disgwyl gweld y niferoedd hyn yn cynyddu yn y dyfodol agos.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r orsaf yn gwneud hynny drwy ddulliau teithio llesol (71%).1 Fodd bynnag, mae nodweddion dylunio critigol ar y llwybrau o amgylch yr orsaf sy'n cyfyngu ar allu pobl i gerdded, olwyno neu feicio i’r orsaf ac oddi yno.

 

Dull dylunio

Bu TrC yn cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y camau cychwynnol (Camau A a B Cynllun Gwaith TrC) ar flaenoriaethu llwybrau i'w gwella sy'n cysylltu â gorsaf drenau Llandudno ac oddi yno, ac mae Conwy wedi bwrw ymlaen â rhan o’r safle, ac mae TrC a Chonwy wedi datblygu rhan o’r dyluniad rhagarweiniol.

 

Partneriaethau ac ymgysylltu

Drwy'r datblygiad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a TrC wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol a chynrychiolwyr y rhai sydd ar hyd y llwybr. Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gomisiynu Pell Frischmann ar gyfer dylunio'r adran gyntaf. Drwy fframweithiau caffael TrC, roeddem yn gallu comisiynu ARUP i gefnogi'r cam dylunio. Roedd rhannu'r cyfrifoldebau hyn yn caniatáu i amser swyddogion (o'r ddau sefydliad) gael ei ddyrannu'n well i gyd-fynd â nodau'r prosiect.

 

Effaith

Roedd y cydweithio hwn yn galluogi swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddod o hyd i gyllid ar gyfer llwybr wedi'i flaenoriaethu fel rhan o'u dyheadau ar gyfer y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, drwy ddangos bod ganddo fanteision ychwanegol fel llwybr i’r orsaf ac oddi yno. Bydd y llwybr pellach (sydd wedi'i ddylunio i'r cam cychwynnol) hefyd yn golygu bod y llwybr yn cysylltu â llwybr ehangach Môr i’r Mynydd Dyffryn Conwy, sy'n cael ei ddatblygu er mwyn i ganol y dref elwa. Mae TrC yn gobeithio cynyddu amlder y gwasanaeth trên i Landudno ac oddi yno yn y dyfodol agos. Mae cael llwybr cyswllt addas yn allweddol i hyfywedd y cynnydd hwn mewn darpariaeth gwasanaeth i'r dref.