Llun gan © Hawlfraint y Goron

Teithiwch ar y trên ac arbedwch ar eich diwrnod allan Nadoligaidd

Gwnewch eich diwrnod allan Nadoligaidd hyd yn oed yn fwy hudolus gyda gostyngiad o 10% oddi ar docynnau sglefrio iâ yng Ngŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd ac Abertawe, pan fyddwch yn teithio yno ar y trên.

Gyda gorsafoedd yn agos at y ddau ddigwyddiad a chysylltiadau trên cyfleus ar draws ein rhwydwaith, mae teithio ar y trên yn ffordd hawdd o fwynhau hwyl yr ŵyl. Gall teuluoedd arbed hyd yn oed mwy gyda’n tocyn Teulu, lle mae dau blentyn dan 16 oed yn teithio am ddim gyda phob oedolyn sy’n talu am docyn.

Peidiwch â cholli'r cyfle! Mae nifer cyfyngedig o docynnau am bris gostyngol ar gael, a hynny ar sail y cyntaf i’r felin.

 

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd

Ydych chi'n mynd i Ŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd? Teithiwch ar y trên ac arbedwch 10% ar sesiynau sglefrio iâ y tu allan i oriau brig.

  • Yn ddilys ar gyfer sesiynau sglefrio y tu allan i oriau brig yn unig
  • Nifer cyfyngedig o docynnau am bris gostyngol ar gael
  • Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw ac maent ar gael ar sail y cyntaf i’r felin
  • Bydd angen i chi ddangos tocyn trên Trafnidiaeth Cymru dilys neu brawf eich bod wedi cofrestru ar ap talu wrth fynd, wrth gyrraedd.
  • Gorsafoedd agosaf: Caerdydd Canolog, Caerdydd Heol y Frenhines a Cathays

Sut i archebu: Defnyddiwch y cod CDF10TFW wrth archebu tocynnau ar gyfer Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd

 

Gŵyl y Gaeaf Abertawe

Ydych chi’n cynllunio taith i Ŵyl y Gaeaf yn Abertawe? Teithiwch ar y trên ac arbedwch 10% ar docynnau sglefrio iâ.

  • Nifer cyfyngedig o docynnau am bris gostyngol ar gael
  • Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw ac maent ar gael ar sail y cyntaf i’r felin
  • Bydd angen i chi ddangos tocyn trên dilys gan Trafnidiaeth Cymru wrth gyrraedd
  • Gorsaf agosaf: Abertawe

Sut i archebu: Defnyddiwch y cod SWN10TFW wrth archebu tocynnau ar gyfer Gŵyl y Gaeaf yn Abertawe

 

Arbedwch hyd yn oed mwy o arian gyda thocyn teulu

Ydych chi’n cynllunio diwrnod allan i'r teulu dros yr ŵyl? Mae ein tocyn teulu yn helpu i wneud y daith yn fwy fforddiadwy fyth.

Gyda thocyn Teulu:

  • Gall hyd at ddau blentyn o dan 16 oed deithio am ddim gyda phob oedolyn sy'n talu am docyn
  • Ar gael ar bob gwasanaeth ar draws ein rhwydwaith
  • Mae plant dan 5 oed bob amser yn teithio am ddim

Dysgwch ragor: Tocyn trên teulu

 

Telerau ac amodau

Mae nifer cyfyngedig o docynnau sglefrio iâ am bris gostyngol ar gael ym mhob lleoliad, yn amodol ar argaeledd. Rhaid archebu tocynnau am bris gostyngol ymlaen llaw, a chaiff y rhain eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. Rhaid i gwsmeriaid gyflwyno tocyn trên Trafnidiaeth Cymru dilys ar gyfer teithio i Gaerdydd neu Abertawe ar ddiwrnod eu hymweliad. Dim yn ddilys ar docynnau Skate and Sip.