Os ydych chi’n gyfarwydd â theithio bob dydd neu’n gwneud taith untro, peidiwch â thalu mwy na sydd raid ar docynnau trên.
Ffyrdd o arbed arian ar eich tocynnau trên
Dyma ffyrdd syml o arbed arian ar eich tocynnau trên.
Prynu’n gynnar
Gallwch brynu eich tocynnau trên hyd at 12 wythnos yn gynnar gyda thocyn Advance. Yn gyffredinol, po agosaf ydych chi at y dyddiad teithio, y drutaf fydd eich tocyn. Ceisiwch brynu cyn gynted ag y byddwch yn gwybod pryd y byddwch yn teithio. Ddim yn siŵr pa bryd y byddwch chi’n teithio’n ôl? Dewiswch Docyn dwyffordd Agored i gael mwy o hyblygrwydd.
Teithio yn ystod cyfnodau tawel
Gall teithio ar adegau tawelach o’r dydd ostwng pris eich tocyn hyd at 50%. Fel arfer, mae tocynnau Cyfnodau Tawelach ar gael rhwng 09:00/30 a 16:00, ac yna ar ôl 18:30 (yn dibynnu ar eich lleoliad).
Defnyddio cerdyn Rheilffordd
Mae gostyngiadau cardiau Rheilffordd yn amrywio o arbedion i fyfyrwyr, pobl hŷn a grwpiau i ostyngiadau i leoliadau. Dewch o hyd i Gerdyn Rheilffordd sy’n gweithio i chi er mwyn arbed tua thraean oddi ar bris eich tocyn. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r cerdyn wrth deithio i sicrhau bod y gostyngiad yn ddilys.
Prynu tocyn Teulu
Mae tocyn trên Teulu. yn berffaith pan fydd teulu’n teithio, a gall dau blentyn o dan 16 oed deithio am ddim am bob oedolyn sy’n talu pris siwrnai. Mae hyn yn berffaith ar gyfer trip teulu, p’un ai ydych chi’n mynd i’ch tref neu ddinas leol neu’n mynd ar wyliau teulu.
Prynu tocyn Tymor
Ydych chi’n teithio’n rheolaidd? Gallwch arbed arian gyda thocyn Tymor. Mae’n ddelfrydol os ydych chi’n cymudo bob dydd, yn teithio ychydig o weithiau’r wythnos, neu os oes gennych chi gyfnod lle rydych chi’n gwybod y byddwch chi’n teithio’n aml ar y trên. Mae sawl tocyn Tymor gwahanol ar gael i helpu i leihau pris eich tocyn.
Cynnwys teithio ar fws gyda PlusBus
Os ydych chi’n teithio ar fws a thrên, gall ein tocynnau PlusBus leihau eich costau. Mae modd defnyddio’r rhain ledled Cymru ar 26 o wahanol wasanaethau, p’un ai ydych chi’n teithio unwaith, neu bob dydd.
Prynu tocyn Grŵp
Os ydych chi’n teithio mewn grŵp (er enghraifft, trip stag, parti plu, neu drip allan gyda ffrindiau neu deulu), bydd tocyn trên Grŵp yn lleihau eich costau. Maen nhw’n hyblyg ac yn hawdd – gwnewch yn siŵr eich bod i gyd yn teithio gyda’ch gilydd.
Chwilio am ostyngiadau
Mae Cymru yn annwyl i ni. Dyna pam ein bod wedi creu partneriaeth ag atyniadau lleol ar hyd a lled y wlad. Edrychwch ar ein gostyngiadau i atyniadau a chynnig 2 am bris 1 gan Cadw i weld a oes unrhyw beth yn mynd â’ch bryd.
Prynwch eich tocynnau trên yn uniongyrchol gyda ni heddiw i osgoi talu ffioedd archebu.