Hoffem egluro negeseuon blaenorol a roddwyd i'r gymuned ynghylch nodweddion croesfan rheilffordd Cwm-bach sydd wedi'i huwchraddio.
 

Fe wnaethom ddatgan yn flaenorol ein bod wedi gosod system goleuadau traffig i gerddwyr wrth y groesfan fel rhan o’r nodweddion diogelwch newydd niferus. Fodd bynnag, rydym wedi cael cael trafferth wrth ddod o hyd i'r darnau sbâr ar gyfer y system hon (eitemau sydd angen wrth gefn). Er mwyn ein galluogi i ailagor y groesfan mor gyflym â phosibl i'r gymuned, rydym wedi penderfynu lleihau cyflymder y trenau yn yr ardal er mwyn ein galluogi i ail-agor y groesfan gan sicrhau lefel gyfatebol o ddiogelwch drwy'r amser gyda system 'stopio, edrych a gwrando' traddodiadol yn ei lle. Mae'r system hon yn debyg i'r rhai a ddefnyddir ar groesfannau rheilffordd eraill ar ein seilwaith.

Hoffem atgoffa defnyddwyr am y groesfan reilffordd i:

  • Stopio, edrych y ddwy ffordd a gwrando yn astud.
  • Os ydych ar gefn beic, ewch oddi ar eich beic a cherdded ar draws y groesfan.
  • Goruchwyliwch blant ac anifeiliaid, a sicrhewch fod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn wrth ddefnyddio'r groesfan.
  • Pan fydd y llinell yn glir, croeswch yn gyflym heb redeg (wrth edrych a gwrando).
  • Caewch y gatiau y tu ôl i chi.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych y ddwy ffordd a pheidio â chroesi nes bod pob llinell yn glir - gall trenau sy'n dod tuag atoch gael eu cuddio gan drenau eraill sy'n mynd heibio'r groesfan.
  • Nid llwybr ceffyl yw'r llwybr hwn. Mae'n anghyfreithlon ac yn beryglus i groesi'r rheilffordd yma ar - neu gyda - cheffylau.

Diweddariad ar groesfan Cwmbach yng Nghwmbach, Aberdâr

Fel rhan o brosiect Metro De Cymru, mae rheilffordd Aberdâr yn cael ei thrawsnewid yn barod ar gyfer ein trenau tram newydd sbon. Ynghyd â chynnydd mewn gwasanaethau fesul awr, bydd hyn yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardal leol yn sylweddol.

Yn dilyn trydaneiddio’r rheilffordd a chyn cyflwyno’r gwasanaethau amlach, mae angen inni sicrhau bod teithwyr a’r rhai sy’n defnyddio pontydd rheilffordd a chroesfannau rheilffordd yn ddiogel.

Gyda’r amlder cynyddol arfaethedig o drenau tram yn rhedeg ar y lein, a gyda risgiau ychwanegol yn gysylltiedig â thrydaneiddio’r lein, bu’n rhaid i Groesfan Cwmbach gau dros dro y llynedd er mwyn ein galluogi i wneud rhai gwelliannau diogelwch hanfodol a sylweddol.

 

Pryd fyddwch chi'n ailagor y groesfan?

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn ailagor Croesfan Rheilffordd Cwmbach ddydd 

Dydd Iau 11 Ebrill 2024.

Rydym yn gallu gwneud hyn gan ein bod wedi gwneud newidiadau diogelwch pwysig i’r groesfan, gan gynnwys gosod gatiau newydd a teledu cylch cyfyng. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y groesfan yn hygyrch i’r rhai sydd ar neu ag olwynion.

Mae'r gwiriadau diogelwch angenrheidiol wedi'u cwblhau. Mae’r timau hefyd wedi bod yn cwblhau gwaith ychwanegol sydd ei angen ar y groesfan reilffordd cyn iddi ailagor, gan gynnwys cael gwared ar hen darmac a gosod tarmac newydd, yn ogystal â gosod arwyddion terfynol.

 

Pa welliannau diogelwch sydd wedi'u gwneud i'r groesfan reilffordd?

Ers cau'r groesfan, rydym wedi gosod y mesurau diogelwch canlynol:

  • Camerâu i helpu i atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar y groesfan.
  • Torri llystyfiant sydd wedi gordyfu bob ochr i'r groesfan er mwyn gwella gwelededd i'r rhai wrth y groesfan.
  • Gosod giatiau bob ochr i’r groesfan.
  • Arwyddion ychwanegol i’r groesfan.

 

Hoffem ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd drwy gydol y cyfnod y bu’r groesfan ar gau. Rydym yn deall yr effaith mae’r cau wedi’i chael ar drigolion, yn enwedig gan fod y llwybr yn llwybr cerdded a beicio poblogaidd sy’n arwain at Wlyptiroedd Cwmbach. Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth; rydym wedi gweithio’n galed ers cau’r groesfan er mwyn wneud yn mor ddiogel â phosibl i ddefnyddwyr.

 

Defnyddio'r groesfan reilffordd yn ddiogel

Wrth i ni baratoi i ailagor y groesfan reilffordd, hoffem atgoffa ei ddefnyddwyr:

  • Stopiwch, edrychwch y ddwy ffordd a gwrandewch.
  • Darllenwch yr arwyddion rhybudd a dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus.
  • Os ydych ar gefn beic, ewch oddi ar eich beic a cherdded.
  • Goruchwyliwch blant ac anifeiliaid, a sicrhewch fod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn wrth ddefnyddio'r groesfan.
  • Pan fydd y llinell yn glir, croeswch yn gyflym heb redeg (gan gario mlaen i edrych a gwrando).
  • Caewch y gatiau y tu ôl i chi.
  • Gofalwch eich bod yn edrych y ddwy ffordd a pheidiwch â chroesi nes bod pob llinell yn glir - gall trenau sy'n dod tuag atoch gael eu cuddio gan drenau eraill sy'n mynd heibio'r groesfan,
  • Mae'n anghyfreithlon ac yn beryglus i groesi'r rheilffordd yma ar neu gyda cheffylau. Nid llwybr ceffyl yw'r llwybr hwn.

 

Gofynnwn i chi edrych ar yr arwyddion diogelwch isod ac ymgyfarwyddo ag ef os ydych yn defnyddio'r groesfan reilffordd.

 

Cwmbach - Arwyddion diogelwch croesfan rheilffordd

 

Mwy o wybodaeth

Mae ein tîm ar gael i siarad â chi 24/7, felly ffoniwch ni ar 03333 211 202.

Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy WhatsApp ar 07790 952 507 (07:00 - 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08:00 - 20:00 ddydd Sadwrn, a 11:00 - 20:00 ar ddydd Sul). Rydym yn derbyn llawer iawn o gyswllt ond byddwch yn dawel eich meddwl y byddwn yn aseinio eich ymholiadau i'r tîm(au) cywir a fydd yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gael gwybodaeth mewn fformat gwahanol, ewch i trc.cymru/cysylltu-a-ni. Gallwch ddysgu mwy am ein gweledigaeth ar gyfer Metro De Cymru drwy fynd i trc.cymru/adeiladu-ein-metro.

Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro o’r enw Trawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd (CVL). Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.