-
Proses ymgeisio
-
Sut gallaf wneud cais am fy Ngherdyn Teithio Rhatach yng Nghymru?
Mynd i'n gwefan yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am eich cerdyn. Ewch i trc.cymru/cerdynteithio a dilynwch y cyfarwyddiadau syml. Neu, ewch i’ch llyfrgell leol neu eich hyb cymunedol i fynd ar y we.
Os byddai’n well gennych, gallwch chi hefyd ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu rywun dibynadwy i lenwi'r cais ar-lein ar eich rhan.
Bydd angen i chi ddarparu copïau o dystiolaeth i gefnogi eich cais, a llun pasbort newydd.
Peidiwch â phoeni os na allwch chi neu ffrind neu aelod o’r teulu wneud cais ar-lein. Gallwch wneud cais am ffurflen gais bapur drwy anfon e-bost at travelcards@tfw.wales. Pan fyddwch wedi llenwi eich ffurflen, dychwelwch eich ffurflen i Cardiau Teithio Rhatach, Blwch Post 55, Penrhyndeudraeth LL49 0AY.
-
Peidiwch ag anfon fersiynau gwreiddiol o ddogfennau fel pasbort neu drwydded yrru.
-
Sylwch nad yw'r gwasanaeth ‘post cofnodedig’ ar gael ar gyfer cyfeiriadau Blwch Post.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os oes angen help arnoch chi, cysylltwch â ni ar 03003 034 240 neu anfonwch e-bost at travelcards@tfw.wales.
Cofiwch na fyddwch chi’n gallu gwneud cais dros y ffôn neu e-bost.
Pa wybodaeth mae angen i mi ei darparu i wneud cais am fy ngherdyn?
Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol pan fyddwch yn gwneud cais:
- Dogfennau am eich cyfeiriad a’ch cod post er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr eich bod yn byw yng Nghymru.
- Dogfennau am eich dyddiad geni er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr bod gennych chi hawl i’r cerdyn rydych chi’n gwneud cais amdano.
- Eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych chi dros 16 oed. Mae hwn i'w weld ar eich datganiadau pensiwn, eich datganiadau anabledd neu'ch slipiau cyflog.
- Llun diweddar ar ffurf pasbort. Os ydych chi’n gwneud cais ar ffôn neu dabled, byddwch yn gallu gwneud hyn ar y pwynt perthnasol yn eich cais; neu gallwch lwytho un i fyny o’ch cyfrifiadur.
- Os ydych chi'n gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl, bydd angen i chi gael copïau electronig o ddogfennau sy'n profi eich hawl. Gwnewch yn siŵr bod eich dogfennau’n cynnwys digon o fanylion; er enghraifft, pob tudalen yn cael ei chyflwyno (peidiwch ag anghofio y gallai’r ddogfen fod yn ddwy ochr) a chaniatáu i ni weld y cyfeirnodau ar waelod pob tudalen.
- Mae canllawiau ychwanegol ar ddogfennau i ddangos cyfeiriad, cod post, dyddiad geni a chymhwysedd anabledd ar gael yn trc.cymru/cymhwyster.
Os ydych chi’n ymweld â’ch llyfrgell leol, neu ganolfan gymunedol, neu os ydych chi’n gofyn i rywun wneud cais ar eich rhan, cofiwch sicrhau bod yr holl wybodaeth hon gerllaw, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol. Ni allwn brosesu eich cais hebddynt.
Faint fydd hi'n gymryd i mi gael fy ngherdyn newydd?
Os yw eich cais wedi cael ei gymeradwyo, dylech dderbyn eich cerdyn o fewn 10 diwrnod gwaith.
Fydda i’n gallu mynd â fy nghais i swyddfa’r cyngor lleol?
Bydd eich swyddfeydd cyngor lleol yn gallu eich helpu gyda’ch cais.
I gael gwybod lle mae cymorth lleol ar gael, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu ffoniwch 03003 034 240. Cofiwch na fyddwch chi’n gallu gwneud cais dros y ffôn.
Pam nad ydych chi wedi gallu prosesu fy nghais am Gerdyn Teithio i Berson Anabl?
Mae sawl rheswm pam nad ydym wedi gallu prosesu eich cais:
- Nid yw’r dogfennau’n cynnwys digon o fanylion, er enghraifft, dim ond tudalen flaen y llythyr PIP sydd wedi’i darparu ac nid y ddogfen lawn sy’n dangos eich sgôr pwyntiau llawn.
- Does dim dogfennau swyddogol wedi cael eu darparu neu does dim modd eu darllen.
- Nid yw’r dogfennau’n nodi pwy sy’n gymwys i gael cymorth, er enghraifft, dim ond y dudalen sgôr pwyntiau sydd wedi’i darparu ac nid y ddogfen lawn sy’n dangos eich enw a’ch cyfeiriad.
- Nid yw’r ddogfen yn cefnogi cais am Gerdyn Teithio Rhatach ar sail anabledd.
Dyma rai enghreifftiau o ddogfennau fydd yn cael eu derbyn a ddim yn cael eu derbyn:
Dyma fy ngherdyn cyntaf; alla’ i hawlio fy nghostau teithio tra rydw i wedi bod yn aros am fy ngherdyn i gyrraedd?
Rydym yn derbyn bod aros i gerdyn gyrraedd yn gyfnod rhwystredig, ond ni allwn ad-dalu unrhyw gostau teithio tra rydych chi'n aros i’ch cerdyn gyrraedd. Dyna sut mae pethau wedi bod erioed, ers i’r cynllun gael ei gyflwyno yn 2009.
Rydw i’n aros am fy ngherdyn newydd; alla’ i hawlio fy nghostau teithio tra rydw i wedi bod yn aros am fy ngherdyn i gyrraedd?
Rydym yn derbyn bod aros i gerdyn gyrraedd yn gyfnod rhwystredig, ond ni allwn ad-dalu unrhyw gostau teithio tra rydych chi'n aros i’ch cerdyn gyrraedd. Dyna sut mae pethau wedi bod erioed, ers i’r cynllun gael ei gyflwyno yn 2009.
-
-
-
Cymhwysedd ar gyfer y cerdyn teithio
-
Mae gen i anabledd. Oes hawl gen i gael Cerdyn Teithio Rhatach?
Darllenwch y canllaw ar gymhwyster a’r dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu.
Os ydych chi'n dal heb fod yn siŵr a ydych chi’n gymwys i gael Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl, cysylltwch â’ch cyngor lleol.
Rydw i’n anabl ac yn methu teithio ar fy mhen fy hun; sut mae gwneud cais am fy Ngherdyn Teithio cyntaf ar gyfer Person Anabl a Chyd-deithiwr?
Darllenwch y canllaw ar gymhwyster a’r dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu.
Cynghorau lleol sy'n prosesu pob cerdyn i gyd-deithiwr, felly cysylltwch â’ch cyngor lleol os oes angen cerdyn i gyd-deithiwr arnoch.
Rydw i'n 60 oed ymhen rhai wythnosau. Pryd galla' i wneud cais?
Gallwch chi wneud cais am gerdyn hyd at 14 diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 60 oed.
-
-
Gwybodaeth angenrheidiol
-
Pam mae angen i chi gael fy rhif Yswiriant Gwladol?
Rydym yn deall yn llwyr fod deiliaid cardiau yn poeni am breifatrwydd a chyfrinachedd gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn bwysig dros ben i ni, ac rydym wedi cymryd llawer o gamau i sicrhau bod eich data’n cael ei gadw’n ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi set o ddata ac mae’n argymell bod awdurdodau cyhoeddus yn ei gasglu er mwyn atal twyll. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru yma.
Mae’r adran “Tocynnau teithio rhatach (OEDOLION YN UNIG) - manyleb data 2018-19” yn rhestru rhif Yswiriant Gwladol fel dangosydd pwysig ac mae’n dweud “Mae'r data sy'n ofynnol ar gyfer pob deiliad tocyn teithio rhatach cyfredol sy'n oedolyn”.
Ydi fy manylion personol yn ddiogel?
Mae cadw eich data personol yn ddiogel yn bwysig iawn i ni.
Mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ac yn cael ei defnyddio gan eich cyngor lleol, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i weinyddu'r cynllun ac atal twyll.
Dim ond eich enw a’r dyddiad dod i ben sydd i'w weld ar eich cerdyn. Nid yw’n cynnwys unrhyw fanylion personol eraill.
Byddwn yn prosesu'r wybodaeth yn unol â datganiad preifatrwydd Trafnidiaeth Cymru.
Mae gen i Gerdyn Teithio Person Anabl neu Berson Anabl gyda Chyd-deithiwr. Pam y cysylltwyd â mi i gael rhagor o wybodaeth?
Os oes gennych Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl neu Gerdyn Teithio Person Anabl â Chyd-deithiwr, byddwn yn cysylltu â chi o gwmpas y dyddiad y daw’r dogfennau cymhwysedd anabledd a roddwyd gennych wrth ymgeisio’n dod i ben, am ddogfennau ategol ychwanegol. Pwrpas hyn yw gwneud yn siŵr eich bod yn dal yn gymwys i gael eich cerdyn.
Fel arfer, bydd dyddiad ailddilysu eich hawliad yn wahanol i’r dyddiad dod i ben sydd wedi’i argraffu ar eich cerdyn.
Mae angen i mi ddarparu llun newydd - beth yw'r gofynion?
Rhaid i'ch ffotograff digidol wneud y canlynol:
- Dangos eich wyneb yn glir er mwyn i’ch gyrrwr allu eich adnabod yn hawdd
- Cynnwys eich pen a’ch ysgwyddau
- Peidio â chynnwys pethau na phobl eraill
- Cael cefndir golau a phlaen
Dylech chi wneud y canlynol:
- Wynebu ymlaen ac edrych yn syth at y camera
- Cadw eich ceg ar gau, a pheidio â dangos emosiwn
- Cadw eich llygaid ar agor a sicrhau fod modd gweld eich llygaid
- Peidio â chael dim yn gorchuddio eich pen (oni bai am resymau crefyddol neu feddygol)
- Peidio â chael unrhyw beth yn gorchuddio eich wyneb, gan gynnwys eich gwallt
- Peidio â chael cysgodion ar eich wyneb nac y tu ôl i chi
Dyma rai enghreifftiau o ffotograffau fydd yn cael eu derbyn a ddim yn cael eu derbyn:
Dydyn ni ddim mor llym â phasbort (oherwydd mae hwnnw’n defnyddio’r ffotograff ar gyfer adnabod yn fiometrig) ond mae’n bwysig bod y gyrwyr yn gallu eich adnabod o’ch ffotograff.
Mae angen i mi ddarparu dogfennau newydd, beth yw'r gofynion?
Yn ogystal â bodloni’r meini prawf cymhwysedd, rhaid i’ch dogfennau:
- Gynnwys digon o fanylion, er enghraifft, dangos tudalen flaen y ddogfen PIP a’ch sgôr pwyntiau llawn
- Bod yn swyddogol ac yn ddarllenadwy
- Nodi pwy sy’n gymwys i gael cymorth
Y ffordd hawsaf o gyflwyno dogfennau yw sganio neu dynnu lluniau ohonynt a’u llwytho i fyny i’ch cais yn portal.tfw.wales. Dylai’r lluniau o’ch dogfennau:
- Beidio â chael eu tocio’n ormodol na chwyddo i fewn iddynt yn ormodol
- Bod mewn ffocws
- Cael eu tynnu mewn golau da
Dyma rai enghreifftiau o ddogfennau fydd yn cael eu derbyn a ddim yn cael eu derbyn:
-
-
Defnyddio eich cerdyn teithio
-
Sut ydw i’n defnyddio fy Ngherdyn Teithio Rhatach?
Mae’n hawdd defnyddio eich cerdyn. Pan fyddwch chi’n mynd ar y bws, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos eich cerdyn i’r gyrrwr, rhoi eich cerdyn ar y darllenydd tocynnau a mwynhau eich taith am ddim.
Cofiwch mai dim ond chi sy’n gallu defnyddio eich cerdyn. Os byddwch yn gadael i rywun arall ei ddefnyddio, gallai eich cerdyn gael ei ganslo a/neu y byddwn yn gwrthod ei adnewyddu. Os cyhoeddwyd Cerdyn Teithio Rhatach ar gyfer Person Anabl a Chyd-deithiwr, dim ond pan fydd y cyd-deithiwr yn teithio gyda deiliad y cerdyn ar gyfer yr holl daith ar y bws y bydd yn cael teithio am ddim.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhelerau ac amodau llawn y cynllun.
Ble alla’ i ddefnyddio fy Ngherdyn Teithio Rhatach?
Mae eich Cerdyn Teithio Rhatach yn ddilys ar bob gwasanaeth bws cymwys sy’n gweithredu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rheini sy’n cychwyn/gorffen ar bwyntiau yn Lloegr, ar yr amod nad yw’r daith drawsffiniol yn golygu newid bws yn Lloegr. Gallwch hefyd ddefnyddio rhai gwasanaethau trên penodol sy'n gweithredu yng Nghymru.
Dylech fod yn ymwybodol nad ydych yn gallu defnyddio eich cerdyn ar wasanaethau bws fel National Express, Megabus neu City Sightseeing. Fodd bynnag, efallai y bydd cwmnïau yn cynnig gostyngiadau i Ddeiliaid Cerdyn Teithio Rhatach.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhelerau ac amodau llawn y cynllun.
Gyda phwy ddylwn i gysylltu os ydw i'n colli neu'n difrodi fy ngherdyn newydd?
Os byddwch chi’n colli neu’n difrodi eich cerdyn, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am gerdyn newydd yw drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar y wefan.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch â ni ar 03003 034 240 neu anfonwch e-bost at travelcards@tfw.wales.
Pam mae fy ngherdyn yn cynnwys dyddiad dod i ben?
Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth GDPR ar gyfer cywirdeb y data sydd gennym amdanoch, ni fyddwn ni’n gallu rhoi cardiau sydd heb ‘ddyddiad dod i ben’ arnynt. Y rheswm am hyn yw bod angen i ni ail-ddilysu’r wybodaeth sydd gennym.
Mae'r manylion ar fy Ngherdyn Teithio Rhatach wedi newid neu'n anghywir; beth ddylwn i wneud?
Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol. Os ydych chi’n newid cyfeiriad neu unrhyw fanylion eraill, rhowch wybod i ni yn trc.cymru/cerdynteithio Bydd angen i chi ddarparu dogfennau ar gyfer unrhyw newidiadau i enw neu gyfeiriad.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch â ni ar 03003 034 240 neu anfonwch e-bost at travelcards@tfw.wales.
Sut ydw i’n dod o hyd i amseroedd bysiau?
Mae Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth am amseroedd a llwybrau pob gwasanaeth bws, trên, fferi ac awyr yng Nghymru. Maent yn cynnig gwasanaeth ymholiadau ar y rhyngrwyd sydd ar gael yn www.cymraeg.traveline.cymru. Gallwch hefyd eu ffonio ar 08004 640 000.
Ydw i'n gallu defnyddio fy ngherdyn i deithio ar drenau?
Gallwch deithio am ddim ar wasanaethau rheilffyrdd canlynol Trafnidiaeth Cymru:
- Wrecsam - Pont Penarlâg
- Machynlleth - Pwllheli (Lein Arfordir y Cambrian) - Hydref i Fawrth yn unig
- Llandudno - Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)
- Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru) - Hydref i Fawrth yn unig
Bydd yn rhaid i chi ddangos eich Cerdyn Teithio Rhatach i gael tocyn am ddim o'r swyddfa docynnau cyn i chi deithio. Os nad oes swyddfa docynnau yn yr orsaf, neu ei bod hi wedi cau, bydd modd i chi gael eich tocyn gan y goruchwyliwr ar y trên.
Hefyd rydych yn gallu cael gostyngiad o 1/3 ar docynnau i deithio ar rwydwaith Caerdydd a’r Cymoedd ar ôl 0930 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd ar benwythnosau a gwyliau banc.
-
-
Arall
-
Ydy'r cynllun teithio rhatach wedi symud o'r cynghorau i Drafnidiaeth Cymru?
Na - Cynghorau sy’n parhau i fod yn berchen ar y cynllun teithio rhatach o dan y Ddeddf Trafnidiaeth (2000) - rydym yn rheoli’r cynllun ar eu rhan. Mae cynghorau’n dal i chwarae rhan bwysig yn y broses, gan gynnwys rheoli’r cardiau Person Anabl gyda Chyd-deithiwr a darparu cefnogaeth leol.
Mae perthynas i mi wedi marw ac roedd ganddynt Gerdyn Teithio Rhatach. Sut mae canslo’r cerdyn?
Os ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, dylem fod wedi cael gwybod yn barod ac wedi canslo’r cerdyn.
Os oes angen cymorth arnoch chi o hyd, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at travelcards@tfw.wales neu drwy ffonio 03003 034 240 a byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cerdyn yn cael ei ganslo. Ar ôl i chi ddweud wrthym, torrwch y cerdyn.
-