Mynyddoedd trawiadol, traethau godidog a thirweddau tawel. Mae Cymru’n gartref i rai o fannau awyr agored harddaf y byd. Gwersylla yw un o’r ffyrdd gorau o’u gweld. Dyma rai o’n hoff wersylloedd yng Nghymru y bydd pob gwersyllwr yn siŵr o’u caru.

 

Ein wyth gwersyllfa orau yng Nghymru

Dyma rai o’n hoff wersylloedd yng Nghymru. Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith nesaf.

 

Y gwersylloedd gorau yng Ngogledd Cymru

1. Gwersyllfa Llyn Gwynant

Enw: Gwersyllfa Llyn Gwynant
Lleoliad: Nant Gwynant
Yr orsaf agosaf: Betws-y-Coed neu Bangor

Mae Gwersyllfa Llyn Gwynant yn berffaith i bobl sy’n hoff o fyd natur. Wedi’i lleoli yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r safle tawel hwn yn croesawu cŵn, ac yn safle hamddenol wedi’i amgylchynu gan dirweddau trawiadol.

 

2. Gwersyllfa Rhaeadrau Nantcol

Enw: Gwersyllfa Rhaeadrau Nantcol
Lleoliad: Llanbedr
Yr orsaf agosaf: Llanbedr

Wedi’i lleoli yng ngodre mynyddoedd Rhinog, mae Gwersyllfa Rhaeadrau Nantcol yn unigryw ac yn addas i deuluoedd. Mae’r safle ar lan yr afon, wrth ymyl rhaeadr hardd, ac mae wedi ennill gwobrau.

 

3. Gwersyllfa Mochras

Enw: Gwersyllfa Mochras
Lleoliad: Gwynedd
Yr orsaf agosaf: Llanbedr

Mae Gwersyllfa Mochras yn agos at y safle arall uchod, ond eto’n gwbl wahanol o ran naws lleoliad. Mae’r safle ar arfordir Mochras yn agos at sarn y llanw, gan gynnig profiad gwersylla unigryw i unigolion, cyplau a theuluoedd sy’n gwersylla.

 

4. Gwersyllfa Graig Wen

Enw: Graig Wen
Lleoliad: Dolgellau
Yr orsaf agosaf: Morfa Mawddach

Yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri ger Abermaw (y Bermo) a Dolgellau, mae Graig Wen yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau aros, o fythynnod i wersylla. Mae’r golygfeydd o’r mynyddoedd o amgylch y safle yn syfrdanol ac mae teithiau cerdded o amgylch y safle gwersylla.

 

Y gwersylloedd gorau yn Ne Cymru

1. Parc Gwyliau Three Cliffs Bay

Enw: Parc Gwyliau Three Cliffs Bay
Lleoliad: Abertawe
Yr orsaf agosaf: Abertawe neu Tregŵyr

Mae golygfeydd gwych o’r arfordir ym Mharc Gwyliau Three Cliffs Bay. Mae’n barc gwyliau pum seren gydag opsiynau gwersylla a glampio. Mae ganddo ei fynediad preifat ei hun i’r traeth hefyd.

 

2. Big Barn Camping

Enw: Big Barn Camping
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Yr orsaf agosaf: Hendy-gwyn ar Daf

Fel yr awgryma’r enw, mae Big Barn Camping yn wersyllfa fach ecogyfeillgar yn Sir Gaerfyrddin, sy’n gartref i ysgubor fawr Iseldiraidd. Mae’r safle’n agos at Draeth Pentywyn, gyda golygfeydd godidog ar gyfer syllu ar y sêr.

 

3. Fforest Fields

Enw: Fforest Fields
Lleoliad: Llandrindod
Yr orsaf agosaf: Heol Llanfair-ym-Muallt neu Llandrindod

Mae Fforest Fields yn wersyllfa ddiarffordd sydd wedi ennill gwobrau. Mae dau lyn tawel yno, ac mae’n agos at dref farchnad Llanfair-ym-Muallt. Mae’n ddelfrydol i’r rheini sy’n awyddus i dreulio amser ynghanol byd natur, ac mae’n berffaith ar gyfer gwylio adar a chrwydro.

 

4. Gwersyllfa Heritage Coast

Enw: Gwersyllfa Heritage Coast
Lleoliad: Y Bont-faen
Yr orsaf agosaf: Llanilltud Fawr

Mae Gwersyllfa Heritage Coast yn wersyllfa glaswellt ar gyfer oedolion sy’n awyddus i gael seibiant mewn man heddychlon a thrawiadol, ac mae’n croesawu cŵn. Mae’n berffaith i fynd i grwydro i ben clogwyni ac ymlacio ar arfordir hardd de Cymru.

 

Prynwch eich tocynnau trên heddiw a chychwyn ar eich antur gwersylla nesaf.