Ydych chi’n mynd i ornest bocsio Anthony Joshua v Tyson Fury?

Ddydd Gwener 11 Rhagfyr 2026, bydd Stadiwm Principality Caerdydd yn cynnal gornest bocsio Anthony Joshua v Tyson Fury. Er nad yw’r amserau pendant wedi’u cadarnhau, mae’n bosib y bydd y prif ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod oriau man bore dydd Sadwrn.

Disgwylir i’r digwyddiad fod yn hynod o brysur ac rydyn ni’n gweithio’n agos â’r staff sy’n trefnu’r digwyddiad yn ogystal â’n partneriaid yn Network Rail, Great Western Railway, CrossCountry a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig er mwyn helpu cwsmeriaid i deithio i Gaerdydd ac oddi yno’n ddiogel ac yn hwylus.

Rydyn ni bellach yng nghamau olaf o drefnu trenau ar gyfer y digwyddiad a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth cyn hir, gan gynnwys manylion am wasanaethau ychwanegol y byddwn yn eu rhedeg er mwyn helpu i gwrdd â’r gofyn.

Oherwydd nad yw’r cynllun ar gyfer trenau wedi eu cadarnhau eto, mae’n bosib na fydd rhai gwasanaethau’n ymddangos ar ein cynllunwyr teithiau ac efallai na fydd tocynnau advance ar gael eto.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon unwaith i wybodaeth bellach gael ei chadarnhau.
Gwiriwch y dudalen yn rheolaidd i gael y diweddaraf ynglŷn â theithio.

 

Ydy Caerdydd yn newydd ichi?

Mae’r Stadiwm Principality dim ond yn daith gerdded fer o orsaf drenau Caerdydd Canolog, fel y dengys ar y map isod.

Wedi’r digwyddiad, bydd system giwio yn ei lle y tu allan i orsaf drenau Caerdydd Canolog. Bydd arwyddion clir yn dangos cyrchfan pob ciw, a bydd cydweithwyr ar gael i’ch cyfeirio chi at y ciw cywir.

I'r rhai sy'n teithio i Gaerdydd, Y Cymoedd a Bro Morgannwg ar ôl y Digwyddiad, ewch i Gaerdydd Heol y Frenhines, nid Caerdydd Canolog.

Mae Gwasanaethau Glynebwy a Maesteg yn gadael o Gaerdydd Canolog.

Bydd y trefniadau hyn yn ein helpu ni i reoli’r niferoedd uchel o gwsmeriaid a fydd yn teithio adref, gan gadw platfformau’n ddiogel, a’ch cludo chi i’ch cyrchfan mor gyflym ag sy’n bosib.
 

Canllawiau teithio a chiwio

 

Ar ôl y digwyddiad

Tickets icon

Prynwch cyn teithio

Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad.

Person under the influence

Diogelwch y cyhoedd

Bydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio.

Person shouting at another person
Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio.

 

Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.