Rydym wrth ein bodd o gael cyhoeddi bod HYROX yn dychwelyd i Gaerdydd yn 2026 am yr ail flwyddyn yn olynol. Bydd y gystadleuaeth ffitrwydd byd-eang yn rhedeg o 29 Ebrill i 4 Mai, 2026 yn Stadiwm Principality Caerdydd.
Mae'r digwyddiadau'n cynnwys cystadlaethau unigol, dyblau a thîm ar brif lawr y stadiwm. Mae mannau gwylwyr ar gael i ffrindiau a theulu'r cystadleuwyr gael dangos eu cefnogaeth.
Sut i gyrraedd HYROX Caerdydd
Yr orsaf agosaf at Stadiwm Principality yw Caerdydd Canolog. Mae wedi'i lleoli pum munud ar droed i ffwrdd, gan wneud y trên yn un o'r ffyrdd gorau o fynychu'r gystadleuaeth gyffrous hon. Defnyddiwch ein cynllunydd teithiau i ddod o hyd i'ch trên heddiw a phrynwch docynnau'n uniongyrchol am y prisiau gorau heb unrhyw ffioedd gweinyddu.
Gallwch hefyd deithio ar y bws. Efallai y bydd rhai safleoedd bws ger y stadiwm ar gau, felly defnyddiwch y cynllunydd teithiau bws i gynllunio'ch llwybr.
Gall digwyddiadau fod yn brysur, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i gyrraedd yno ac ar gyfer unrhyw gysylltiadau ar eich taith ddychwelyd.
Cwestiynau cyffredin HYROX Caerdydd
Beth yw HYROX?
Mae HYROX yn gystadleuaeth ffitrwydd byd-eang gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd. Mae'n cyfuno rhedeg ac ymarfer corff swyddogaethol lle gall pobl gystadlu'n unigol, mewn parau neu mewn timau.
Sut ydw i'n cymryd rhan yn yr HYROX?
Gallwch wneud cais am le yn uniongyrchol gyda HYROX ar gyfer pob un o'r gwahanol gategorïau.
Beth alla i ddod gyda mi i HYROX Caerdydd?
Bydd angen cerdyn adnabod gyda llun, dŵr, offer ymarfer corff a thywel arnoch chi. Yn ogystal â hynny, unrhyw fyrbrydau ychwanegol neu fwyd cyn y ras sydd ei angen arnoch chi.
Beth yw amserlen y rasys ar gyfer HYROX Caerdydd 2026?
Dydd Mercher 29 Ebrill
- HYROX DYNION 08:00 - 10:10
- HYROX DYNION ADDASOL 08:00 - 10:10
- HYROX DYBLAU DYNION 10:30 - 13:00
- HYROX DYBLAU MENYWOD 13:30 - 15:30
- HYROX MENYWOD 15:40 - 17:30
- HYROX MENYWOD ADDASOL 15:40 - 17:30
- HYROX DYBLAU CYMYSG 18:00 - 20:30
Dydd Iau 30 Ebrill
- HYROX DYNION 08:00 - 10:10
- HYROX DYNION ADDASOL 08:00 - 10:10
- HYROX DYBLAU DYNION 10:30 - 13:00
- HYROX DYBLAU MENYWOD 13:30 - 15:30
- HYROX MENYWOD 15:40 - 17:30
- HYROX MENYWOD ADDASOL 15:40 - 17:30
- HYROX DYBLAU CYMYSG 18:00 - 20:30
Dydd Gwener 1 Mai
- HYROX DYNION 08:00 - 10:00
- HYROX DYNION ADDASOL 08:00 - 10:00
- HYROX DYBLAU DYNION 10:20 - 12:20
- HYROX DYBLAU MENYWOD 12:50 - 14:40
- HYROX MENYWOD 14:50 - 16:20
- HYROX MENYWOD ADDASOL 14:50 - 16:20
- HYROX DYBLAU CYMYSG 16:50 - 18:50
- HYROX RAS GYFNEWID DYNION 19:20 - 19:35
- HYROX RAS GYFNEWID GYMYSG 19:45 - 20:00
- HYROX RAS GYFNEWID MENYWOD 20:10 - 20:25
Dydd Sadwrn 2 Mai
- HYROX DYNION 08:00 - 09:20
- HYROX DYNION ADDASOL 08:00 - 09:20
- HYROX DYNION PROFFESIYNOL 10:00 - 12:30
- HYROX MENYWOD PROFFESIYNOL 13:00 - 14:30
- HYROX DYBLAU DYNION 14:50 - 16:00
- HYROX DYBLAU MENYWOD 16:30 - 17:30
- HYROX MENYWOD 17:40 - 18:50
- HYROX MENYWOD ADDASOL 17:40 - 18:50
- HYROX DYBLAU CYMYSG 19:20 - 20:30
Dydd Sul 3 Mai
- HYROX DYNION 08:00 - 12:10
- HYROX DYNION ADDASOL 08:00 - 12:10
- HYROX DYBLAU CYMYSG 12:30 - 16:30
- HYROX DYBLAU MENYWOD PROFFESIYNOL 16:50 - 18:10
- HYROX DYBLAU DYNION PROFFESIYNOL 18:40 - 20:30
Dydd Llun 4 Mai
- HYROX DYBLAU MENYWOD 08:00 - 11:50
- HYROX MENYWOD 12:10 - 15:20
- HYROX MENYWOD ADDASOL 12:10 - 15:20
- HYROX DYBLAU DYNION 15:50 - 19:20
*Gall newid - bwriwch olwg ar wefan HYROX am y manylion diweddaraf.
Beth yw cyfeiriad y lleoliad?
Mae HYROX Caerdydd yn y lleoliad canlynol:
Stadiwm Principality, Heol Y Porth, Caerdydd, CF10 1NS
What3Words: ///pumps.pinch.deny