Digwyddiadau ‘Run 4 Wales’

Mae Run 4 Wales (R4W) yn ‘rhedeg’ llu o rasys ledled de Cymru eleni, ac rydyn ni yma i'ch hebrwng i'r ras (ac adref ! ) yn ddiogel,  p'un a ydych chi'n cefnogi neu'n rhedeg.

 

Digwyddiadau sydd ar y gweill:

10k Caerdydd

Dydd Sul 06 Medi 2026


Hanner Marathon Caerdydd

Dydd Sul 04 Hydref 2026

 

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Disgwylir i drenau fod yn brysur iawn ar y dyddiadau uchod, felly rydym yn ychwanegu mwy o gapasiti a gwasanaethau ychwanegol ble bo hynny'n bosibl. Rydym yn gweithio'n agos gyda R4W i'ch helpu i deithio'n hawdd ac yn gynaliadwy. Bydd manylion llawn yn cael eu cadarnhau yn fuan ac yn cael eu harddangos yma, felly cofiwch i wirio cyn teithio.

 

Hanner Marathon Caerdydd

Byddwn yn ychwanegu gwasanaethau a chapasiti ychwanegol ar y llwybrau canlynol:

  • Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful a Phontypridd
  • Coryton
  • Rhymni
  • Bargod
  • Caerffili
  • Ynys y Barri
  • Pen-y-bont
  • Maesteg
  • Abertawe
  • Caerfyrddin
  • Penarth
  • Glynebwy
  • Casnewydd
  • Henffordd
  • Y Fenni
  • Caerloyw

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn GWR sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau gwasanaethau ychwanegol i gael rhedwyr a chefnogwyr i Gaerdydd mewn pryd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd. Gweler isod am fanylion y gwasanaethau:

  • 07:45 o Barcffordd Bryste, yn cyrraedd Caerdydd Canolog am 08:18
  • 07:30 o Abertawe, yn cyrraedd Caerdydd Canolog am 08:28
  • 08:57 o Gasnewydd, yn cyrraedd Caerdydd Canolog am 09:10

 

Ar ôl y digwyddiad

Tickets icon

Prynwch cyn teithio

Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad.

Person under the influence

Diogelwch y cyhoedd

Bydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio.

Person shouting at another person
Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio.

 

Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr arwain at fwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn teithio mewn modd diogel a dibynadwy.