Mae gorsaf Caergwrle ar Reilffordd y Gororau yn Sir y Fflint, sy’n darparu cysylltiadau rheilffyrdd tuag at Wrecsam a Bidston. Mae gan yr orsaf ddau blatfform, ac mae seddi dan do a gwybodaeth fyw am amseroedd gadael ar gael.
Gan nad oes swyddfa docynnau na pheiriant tocynnau yng ngorsaf Caergwrle, mae’n well prynu eich tocyn ymlaen llaw neu drwy ap TrC cyn teithio. Ni fydd ffioedd archebu pan fyddwch chi’n prynu eich tocyn.
Cyfleusterau gorsaf
-
Parcio
Dyma wybodaeth awtomatig gan www.nationalrail.co.uk (yn agor mewn ffenestr newydd), ac mae’n bosibl y bydd elfennau ohoni ond ar gael yn Saesneg.
Gwybodaeth cyffredinol am wasanaethau
- Lefel Staffio
-
dim staff
- Teledu Cylch Cyfyng
- Ie
- Gwybodaeth Ar Gael Gan Staff
-
If the station is unstaffed, please contact the customer relations team or onboard staff
- Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid
-
- Sgriniau Gadael
- Cyhoeddiadau
- Mannau Cymorth i Gwsmeriaid
-
Na
Prynu a chasglu tocynau
- Swyddfa Docynnau
-
Na
- Cyhoeddi Cerdyn Oyster
-
Na
- Defnyddio Cerdyn Oyster
-
Na
- Dangos Meysydd Cerdyn Oyster Bob Tro
-
Na
- Cyhoeddi Cerdyn Clyfar
-
Na
- Dilysu Cerdyn Clyfar
-
Na
- Tocynnau Cosb
-
AW
Holl gyfleuterau’r orsaf
- Ardal gyda Seddi
- Ie
- Ystafell Aros
-
Na
- Bwffe yn yr Orsaf
-
Na
- Toiledau
-
Na
- Ystafell Newid Babanod
-
Na
- Ffonau
-
Na
- Wi Fi
-
Na
- Blwch Post
-
Na
- Peiriant ATM
-
Na
- Siopau
-
Na
Hygyrchedd a mynediad symudedd
- Llinell Gymorth
-
03333 211202
https://www.nationalrail.co.uk/Llun-Sul 08:00 i 20:00 - Cymorth ar gael gan Staff
-
Na
Nid oes staff platfform ar gael yn yr orsaf hon. Mae cymorth ar gael gan y Goruchwyliwr ar y trên.
- Dolen Sain
-
Na
- Peiriannau Tocynnau Hygyrch
-
Na
- Ramp i Fynd ar y Trên
- Ie
- Tacsis Hygyrch
-
Na
- Y Gorsafoedd Agosaf sydd â mwy o Gyfleusterau
-
WRX
- Toiledau’r Cynllun Allwedd Cenedlaethol
-
Na
- Mynediad Heb Risiau
-
Categori B1.
Mynediad ar wahân i'r ddau blatfform. Mae mynediad i Lwyfan 1 (i Bidston) yn ddi-risiau ond mae ramp serth i Lwyfan 2 (i Wrecsam). Mae mynediad rhwng y llwyfannau trwy fryn serth, palmant cul a ramp serth.
Darllediadau: Gorsaf rannol - Gatiau Tocynnau
-
Na
- Man Gollwng Teithwyr â Nam Symudedd
-
Na
- Cadeiriau Olwyn Ar Gael
-
Na
- Teithio â Chymorth
-
Rydym eisiau i bawb deithio yn hyderus. Dyna pam, os ydych chi'n bwriadu teithio ar wasanaethau rheilffyrdd cenedlaethol, gallwch ofyn am archebu cymorth ymlaen llaw - nawr hyd at 2 awr cyn i'ch taith ddechrau, unrhyw adeg o'r dydd. I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth i Deithwyr a sut i ofyn am archebu cymorth drwy Passenger Assist, cliciwch yma.
Dolenni trafnidiaeth
- Mannau Storio Beiciau
-
Mannau: 8
Gwarchod: Ie
Teledu cylch cyfyng: Ie
Lleoliad:Mae 4 Sheffield yn sefyll ar gyfer 8 lle parcio beiciau wedi'u lleoli ar lwyfan tua'r Gogledd (cyfeiriad Bidston)
Math: Standiau - Gwasanaethau Bws yn lle’r Trenau
-
Tuag at Wrecsam - Safle bws lleol ar Ffordd Penarlâg ger mynedfa Platfform 1
W3W English: sting.bookcases.master - W3W Cymraeg: cyfredol.swyddfeydd.llythrennau
Tuag at Shotton - Arhosfan Bws Lleol ar Heol Penarlâg gyferbyn â mynedfa platfform 1
W3W English: scoop.search.charge - W3W Cymraeg: smotyn.atseiniau.caneri
- Teithio Ymlaen
-
Bysiau y tu allan i’r orsaf
- Llogi Beiciau
-
There are no cycle hire facilities at this station.
Gwybodaeth parcio
Gwybodaeth i gwsmeriad
- Gwasanaethau i Gwsmeriaid
- Cadw Bagiau
-
Na
https://www.nationalrail.co.uk/ - Eiddo Coll
-
Ie
Enw'r Gweithredwr: Transport for Waleshttps://www.nationalrail.co.uk/
Sut mae cyrraedd gorsaf Caergwrle
Mae gorsaf Caergwrle ar Ffordd Penarlâg, Caergwrle, Sir y Fflint, LL12 9DU. Mae gwasanaethau bws lleol yn stopio’n agos at yr orsaf, gan ddarparu cysylltiadau pellach o amgylch yr ardal gyfagos.
Os oes gwasanaeth bysiau yn lle trenau, mae bysiau sy’n teithio tua’r de yn stopio wrth ymyl y llwybr mynediad i Blatfform 2, ac mae gwasanaethau sy’n teithio tua’r gogledd yn defnyddio’r brif ffordd wrth ymyl Platfform 1.
Parcio yng ngorsaf Caergwrle
Does dim maes parcio pwrpasol yng ngorsaf Caergwrle a does dim mannau parcio hygyrch dynodedig.
Beicio i orsaf Caergwrle
Mae wyth lle i storio beiciau dan do yng ngorsaf Caergwrle. Mae pedwar stand Sheffield ar Blatfform 1, tuag at Bidston, gyda monitorau teledu cylch cyfyng er mwyn eich diogelwch chi.
Hanes gorsaf Caergwrle
Agorodd gorsaf Caergwrle ym 1872 fel Bridge End. Cafodd ei hailenwi’n ddiweddarach yn Caergwrle Castle ac yna Caergwrle Castle and Wells, cyn cael yr enw presennol ym 1974.
Mae hanes hir i’r pentref ei hun, a Chastell Caergwrle yw un o’i dirnodau enwocaf. Cafodd y castell ei adeiladu rhwng 1278 a 1282 gan Dafydd ap Gruffudd, a dyma’r castell olaf i gael ei adeiladu gan dywysog Cymreig brodorol. Mae llwybr cerdded o’r orsaf yn mynd drwy’r pentref ac mae modd gweld y castell a’r hen bont geffylau dros Afon Alyn.
Cwestiynau cyffredin am orsaf Caergwrle
Oes swyddfa docynnau yng ngorsaf Caergwrle?
Nac oes. Does dim staff yng ngorsaf Caergwrle a does dim swyddfa docynnau na pheiriant tocynnau yno. Rydyn ni’n argymell prynu eich tocyn ar-lein neu drwy’r ap cyn teithio.
Oes llefydd parcio yng ngorsaf Caergwrle?
Nac oes. Does dim mannau parcio penodol yn yr orsaf, ond mae modd parcio wrth ymyl y stryd - ond cofiwch gadw at unrhyw gyfyngiadau parcio lleol.
Oes lle i storio beiciau yng ngorsaf Caergwrle?
Oes. Mae wyth lle i storio beiciau dan do ar Blatfform 1, gyda phedwar stand Sheffield ar gael.
Oes grisiau yng ngorsaf Caergwrle?
Mae gorsaf Caergwrle yn orsaf Categori B1. Mae mynediad heb risiau ar wahân i’r ddau blatfform. Mae mynediad heb risiau at Blatfform 1, tuag at Bidston, ac mae modd cyrraedd Platfform 2, tuag at Wrecsam, ar hyd ramp serth. Mae allt serth a phalmant cul ar y ffordd rhwng y platfformau. Mae ramp ar gael i fynd ar drenau.
Oes toiledau yng ngorsaf Caergwrle?
Nac oes. Does dim toiledau na chyfleusterau newid babanod yn yr orsaf.
Oes ystafell aros yng ngorsaf Caergwrle?
Does dim ystafell aros gaeedig, ond mae seddi dan do ar gael ar y ddau blatfform.
Ar ba reilffordd mae gorsaf Caergwrle?
Mae gorsaf Caergwrle ar Reilffordd y Gororau, rhwng Wrecsam a Bidston.
Teithiau poblogaidd o orsaf Caergwrle
- Caergwrle i Wrecsam
- Caergwrle i Bidston
- Caergwrle i Shotton
- Caergwrle i Gaer drwy gyfnewidfa
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Dewch o hyd i'ch Caer Dewch i ddarganfod Find your Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-