Mae Gŵyl Fwyd Y Fenni’n ddathliad bwyd blynyddol a gynhelir ar draws dref Y Fenni. Ceir pedwar safle wedi’u curadu ar draws y dref: Neuadd y Farchnad, Upper Brewery Yard, Lower Brewery Yard a Chastell Y Fenni, lle bydd dros 200 o arddangoswyr yn gweini bwyd a diod gwych.

Bydd cogyddion o’r radd flaenaf, gwerthwyr bwyd lleol a mwy, yn arddangos eu creadigaethau diweddaraf, o brydau sawrus a fydd yn temtio’ch blasbwyntiau, i ddanteithion blasus. Bydd hefyd rhaglen gyffrous o ddadleuon bwyd, sgyrsiau ynghylch bwyd, a darlithoedd.

 

Pryd ydy Gŵyl Fwyd Y Fenni?

Fel arfer, cynhelir Gŵyl Fwyd Y Fenni ar y trydydd penwythnos ym mis Medi.

Yn 2026, fe'i cynhelir ddydd Sadwrn 19 tan ddydd Sul 20 Medi.

Bydd y rhaglen lawn a thocynnau ar gael ym mis Gorffennaf, gyda chyhoeddiadau pellach yn digwydd hyd at y digwyddiad ei hun.

 

Gwybodaeth am Ŵyl Fwyd Y Fenni

Sylfaenwyd Gŵyl Fwyd Y Fenni ym 1999 gan ddau ffermwr lleol, Chris Wardle a Martin Orbach. Gyda’r cylchgrawn, Observer Food Monthly, yn ei alw’n “Glastonbury’r Gwyliau Bwyd”, mae’r ŵyl yn denu miloedd o bobl sydd wrth eu boddau gyda bwyd bob blwyddyn, ac mae sawl enw mawr wedi bod yn rhan ohono fel Matt Tebutt ac Olly Smith, Cyrus Todiwala, Andi Oliver, a nifer mwy.

Mae tocynnau ar gael ar wefan Gŵyl Fwyd Y Fenni. Mae yna amrywiaeth o opsiynau o ran tocynnau gan gynnwys mynediad llawn at bob safle, sgyrsiau a digwyddiadau unigol ac ati.

 

Sut i gyrraedd Gŵyl Fwyd Y Fenni

Mae’r Fenni’n dref yn ne Cymru sydd wedi’i chysylltu’n dda. Mae teithio yno ar y trên yn un o’r ffyrdd hawsaf o’i chyrraedd. Mae’n ffordd gyflym a syml o deithio o Gaerdydd, Llundain neu hyd yn oed, Manceinion.

Mae gorsaf drenau Y Fenni ar ochr ddeheuol y dref, yn agos ar safleoedd yr ŵyl fwyd. Maent yn hygyrch ar droed ac ar fws.

Mae gan Y Fenni ddewis enfawr o fysiau, sy’n dibynnu ar ba safle yr ydych yn ymweld â nhw. Defnyddiwch y teclyn cynllunydd teithiau bws i ddod o hyd i’ch llwybr mwyaf cyfleus.

Os ydych chi’n mynd i Ŵyl Fwyd Y Fenni, archebwch eich tocynnau trên yn uniongyrchol gyda ni gyda’n cynllunydd teithiau neu'r ap TrC i osgoi ffioedd archebu. Prynwch docyn Advance hyd at 12 wythnos yn gynnar i gael y cynigion gorau.