Diwrnod clir a braf yn y gaeaf yw’r amser perffaith i fynd am dro Nadolig. Ac mae gan Gymru rai o’r llefydd cerdded i fynd am dro yn y DU, o’n harfordir hardd i’n parciau cenedlaethol anhygoel. Rydym wedi dewis rhai o’n hoff deithiau cerdded gaeaf i’w mwynhau ledled Cymru dros yr ŵyl.

 

5 o deithiau cerdded gaeaf yng Nghymru

P’un ai’n chwilio am dro i fynd arno ar Ddydd San Steffan i losgi peth o floneg eich cinio Nadolig neu rywbeth i’w wneud gyda’r teulu, mae dewis da iawn ar gael i chi. Dewch o hyd i rai o’n hoff deithiau cerdded gaeaf ym myd natur y Nadolig hwn.

Cofiwch edrych ar y tywydd a’r amodau cyn teithio, yn enwedig mewn amodau gwlyb neu rewllyd.

1. O Amroth i Saundersfoot - Arfordir Penfro

Taith gerdded arfordirol hyfryd ar hyd Llwybr Arfordir Penfro. Gallwch ei wneud fel un tro neu fynd a dod yn ôl yr un ffordd, gan ddibynnu ar sgil a gallu. Gallwch fwynhau golygfeydd arfordirol godidog a galw heibio i un o’r tafarndai neu gaffis yn Amroth a Saundersfoot ar y ffordd.

Lleoliad: Arfordir Penfro
Pellter: 2.5 milltir neu 5 milltir drwy ddod yn ôl yr un ffordd
Gorsaf agosaf: Saundersfoot

2. Rhaeadr Fawr (Aber Falls) - Parc Cenedlaethol Eryri

Un o deithiau cerdded mwyaf dramatig y parc gyda golygfeydd panoramig o Ynys Môn a golygfeydd ysblennydd o’r rhaeadr unigryw hwn. Mae’r llwybr yn cael ei gynnal yn dda a byddwch yn pasio hen weddillion Oes yr Haearn cyn cyrraedd y rhaeadr.

Lleoliad: Parc Cenedlaethol Eryri
Pellter: 4 milltir
Gorsaf agosaf: Llanfairfechan

3. Llyn Elsi o Fetws-y-Coed

Yn cyfuno coetiroedd hyfryd Coedwig Gwydyr â llyn mynydd hudolus, perffaith i fwynhau llonyddwch a thawelwch byd natur. Mae’r golygfeydd yn drawiadol, yn enwedig gyda’r mynydd yn y cefndir.

Lleoliad: Betws-y-Coed
Pellter: 4 milltir
Gorsaf agosaf: Betws-y-Coed

4. O’r Mwmbwls i Fae Langland

Taith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac yn ôl yr un ffordd, a golygfeydd o sawl bae’n cynnwys Bae Langland, Bae Rotherslade a mwy. Taith gymharol hawdd a byddwch yn gweld Castell Ystumllwynarth, pier Fictorianaidd, a mwy.

Lleoliad: Penrhyn Gŵyr
Pellter: 5 milltir
Gorsaf agosaf: Abertawe

5. Cronfeydd Dŵr Cwm Elan

Ardal y Llynnoedd’ Cymru yn ôl rhai, mae teithiau cerdded hyfryd yn yr ardal. Ein hoff daith yw o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan i fyny at argaeau dŵr anferth Garreg Ddu a Phen y Garreg. Yn y gaeaf, medrant fod yn fwy trawiadol fyth wrth i’r argaeau dŵr droi’n rhaeadrau anferth.

Lleoliad: Powys
Pellter: 4 milltir
Gorsaf agosaf: Llandrindod

 

Cyngor cyn mynd am dro gaeaf yng Nghymru

Dyma gyngor defnyddiol ar fynd am dro yn y gaeaf:

  • Edrychwch ar y tywydd - ac nad yw’n rhy wlyb neu oer
  • Ystyriwch olau dydd - mae’n gallu nosi o tua 16:00 ymlaen
  • Cynlluniwch eich taith - gall amserlen trenau Nadolig fod yn wahanol yn aml
  • Ewch â diodydd ac ychydig o fwyd gyda chi - yn enwedig os yw’n dro anghysbell
  • Rhaid gwisgo ‘sgidiau da - yn enwedig wrth gerdded ar lwybrau gwlyb

Prynwch eich tocynnau trên heddiw i fynd am dro gaeaf yng Nghymru, heb dalu ffi archebu drwy brynu’n uniongyrchol.