Ydych chi'n teithio o Birmingham i Amwythig? Gwnewch hynny ar y trên gyda TrC ac fe allech chi gael gostyngiadau gwych ar eich tocynnau.

Mae gennym nifer o ddewisiadau a all arbed arian i chi, gan gynnwys ein tocynnau Cyfnodau tawelach a’r dewis hyblyg o Docynnau teithio unrhyw bryd. Ar gyfer cleientiaid busnes, byddem yn argymell ein bargeinion corfforaethol poblogaidd.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Mae teithio ar drên o Birmingham i dref farchnad brydferth Amwythig yn hawdd ac mae’n golygu eich bod chi’n cyrraedd yn teimlo’n hamddenol ac yn barod i grwydro prifddinas hanesyddol Swydd Amwythig. Dyma lle mae’r hen yn cwrdd â’r newydd, gyda llwybrau hynafol ac iardiau hyfryd ochr yn ochr ag amgueddfeydd, orielau, marchnad dan do a digon o lefydd i fwyta.

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld adeilad eiconig Castell Amwythig mewn tywodfaen coch cain. Fe’i hadeiladwyd gan y Normaniaid, dan arweiniad William y Concwerwr, ym 1067, ac roedd yn amddiffyn y dref rhag cyrchoedd. Mae bellach yn gartref i’r Amgueddfa Gatrawdol, ac mae’n dal casgliadau o’r King’s Shropshire Light Infantry a’r Shropshire Yeomanry. Gyda thros 300 mlynedd o hanes y Fyddin Brydeinig yn cael ei harddangos, fe welwch wisgoedd, arfau, medalau a mwy yno. Mae’n atyniad addas i deuluoedd sy’n llawn hanes a diwylliant.

Mae Amwythig yn cynnig digon o gyfleoedd i wneud rhywfaint o siopa os yw hynny’n fwy at eich dant. Mae’r prif strydoedd yn frith o frandiau mawr y stryd fawr a siopau dylunwyr.

I’r rhai ohonoch y byddai’n well gennych chi rywbeth sydd â naws mwy unigryw, byddem yn argymell y siopau bwtîc annibynnol hyfryd. Maent yn arddangos doniau lleol, ac yn lle perffaith i chwilio am anrheg bach anarferol, o emwaith wedi ei wneud â llaw a dillad lliwgar wedi eu gwau i waith serameg a bwyd byd-eang cartref. Beth am chwilio am fag o gyffug blasus ar gyfer eich taith adref?

Cafodd mab enwocaf Amwythig, y naturiaethwr Charles Darwin, ei eni yn y dref yn 1809. Pan oedd yn fachgen, cafodd ei ysbrydoli gan dirwedd ddramatig Swydd Amwythig. Mae ei ddiddordeb ym myd natur yn cael ei ddathlu yn The Quantum Leap - cerflun trawiadol a godwyd i nodi dwy ganrif ers ei enedigaeth, sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Mae rhai yn dweud ei fod yn adleisio helics dwbl DNA, neu fertebrâu creadur mawr. Beth welwch chi yn y cerflun, tybed.

Gyferbyn â'r cerflun mae Theatre Severn, sy’n berffaith ar gyfer rhywfaint o ddiwylliant. Mae’r rhaglen lawn dop yn cynnwys opera, ffilmiau, comedi stand-yp, darlithoedd a chyfres eclectig o arddangosfeydd o gelf i ffuglen gyfoes. Beth am gael tamaid blasus i’w fwyta yn The Foundry neu ddiod yn y Chapel Bar a gwneud noson ohoni.

Ni fu hi erioed yn haws ymweld ag Amwythig diolch i’n trenau o Birmingham i Amwythig. Felly beth am fanteisio i’r eithaf ar eich diwrnod rhydd nesaf ac archwilio un o’r trefi mwyaf hanesyddol a phrydferth sydd gan y Deyrnas Unedig i’w chynnig?

 

Trenau o Amwythig i Birmingham

Allai mynd adref o Amwythig ddim bod yn haws. Gallwch fynd adref ar y trên ar ddiwedd y dydd gyda TrC. Llwythwch ein ap symudol hawdd ei ddefnyddio yn awr i drefnu eich taith. Gydag amserlenni cyfredol, arwerthiannau rheolaidd a chynigion arbennig ar docynnau, does dim byd i'ch rhwystro rhag dod yn ôl yn fuan.