Trwy deithio ar y trên o Gaer i Lundain, gallwch fwynhau taith gyfforddus a hamddenol, ac ar ddiwedd y daith, byddwch yn teimlo’n barod i wynebu'r diwrnod o'ch blaen.
Gyda chynigion tocynnau Allfrig a thocynnau Advance ar gael, mae digon o fargeinion ar gael a fydd yn arbed arian i chi. P'un a ydych chi'n ymweld â Llundain ar gyfer busnes neu bleser, teithio ar y trên yw'r opsiwn hawdd. Gallwch hyd yn oed gynllunio eich diwrnod ar eich ffordd. Gydag apiau teithio sy’n hawdd eu lawrlwytho, gallwch ddod o hyd i'r atyniadau gorau a phethau i'w gwneud (gan gynnwys rhai gemau cudd), gan sicrhau antur fythgofiadwy.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Gaer i Llundain Euston?
Mae'n cymryd tua dwy awr a hanner. Mae'r trên yn rhedeg bob rhyw hanner awr.
Pam teithio o Gaer i Lundain?
Mae gan Lundain rywbeth at ddant pawb, o dirnodau cenedlaethol i gerddoriaeth fyw, siopau brandiau dylunwyr, marchnadoedd lleol prysur, ffeiriau stryd, amgueddfeydd, orielau celf a theatrau.
Mae plastai, pensaernïaeth ryfeddol, parciau a gerddi wedi’u lleoli’n berffaith gyfforddus drws nesaf i atyniadau fel y London Eye, Madame Tussauds a Sw Llundain. P'un a ydych chi'n chwilio am weithgaredd hwyliog, diwrnod allan i'r teulu, neu noson o soffistigedigrwydd a cheinder gyda phryd o fwyd a thocynnau theatr, daliwch y trên yng Nghaer ac o fewn ychydig oriau byr gallwch fod yn Llundain Euston.
Lawrlwythwch ein ap sy’n hawdd ei ddefnyddio i weld amseroedd trên a phrynu tocynnau. Dilynwch ni ar X i weld y newyddion teithio diweddaraf.
* Tocynnau Advance yw ein tocynnau pris gorau a gellir defnyddio gostyngiadau Cardiau Rheilffordd wrth archebu. Ni allwn warantu y bydd tocynnau Advance ar gael oherwydd niferoedd cyfyngedig ac maent dim ond ar werth hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio. Byddem yn argymell eich bod yn prynu'n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-