Mae teithio ar y trên o Amwythig i Lundain yn ddewis cyfleus a chost-effeithiol, p'un a ydych chi'n mynd i'r brifddinas ar gyfer busnes neu bleser. Mwynhewch daith gyfforddus gyda Wi-Fi a phwyntiau gwefru am ddim, sy’n caniatáu i chi gadw mewn cysylltiad â phobl, dal i fyny ar waith neu ymlacio. Mae gwasanaethau'n rhedeg yn rheolaidd drwy’r dydd, gan gynnig opsiwn hyblyg a chyfleus i chi.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

 

Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Amwythig i Lundain?

Mae'n cymryd 2 awr a hanner. Mae gwasanaethau i Euston Llundain yn rhedeg drwy’r dydd o 06:30 tan hanner nos, gyda gwahanol opsiynau tocynnau ar gael.

 

A oes trên uniongyrchol o Amwythig i Lundain?

Er nad oes trenau uniongyrchol, dim ond un newid y mae’r gwasanaethau'n eu cynnwys, yn aml yn Birmingham New Street neu Crewe.

 

Pam teithio ar y trên?

Mae mynd ar y trên yn ffordd ddi-straen o deithio yn lle gyrru neu hedfan. Gallwch ddefnyddio'ch amser ar y trên i gynllunio'ch diwrnod, dal i fyny ar waith neu eistedd yn ôl ac ymlacio’n llwyr wrth i chi werthfawrogi’r golygfeydd hyfryd drwy’r ffenest. Mae'r trên o Amwythig yn mynd â chi i ganol Llundain – yr oll sydd angen i chi ei wneud yw mynd oddi ar y trên a dechrau eich antur oddi yno.

 

Pam ymweld â Llundain?

Mae gan Lundain rywbeth i fodloni pawb, beth bynnag fo’ch diddordebau - diwylliant, siopa, chwaraeon neu, yn syml, diwrnod hwyliog yn crwydro. Mae atyniadau fel y London Eye, Madame Tussauds neu Sw Llundain wedi’u lleoli wrth ymyl amgueddfeydd, orielau celf a theatrau. Cewch flas ar farchnadoedd byd-enwog a ffeiriau stryd fel Camden neu Carnaby Street, neu’r siopau boutique yn Covent Garden sy’n gwerthu pob math o drysorau unigryw. Ewch i edmygu ffenestri’r siopau yn Knightsbridge, ymwelwch ag Eglwys Gadeiriol Sant Paul neu ewch i weld y Cutty Sark yn Greenwich.

Mwynhewch gerddoriaeth fyw, cinio o’r radd flaenaf, goleuadau llachar a llawer mwy. P'un a ydych yn teithio i Lundain i gael hwyl, mwynhau diwrnod allan i'r teulu cyfan neu noson soffistigedig gyda phryd o fwyd a thrip i’r theatr, ewch ar y trên o Amwythig.

 

Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu eich tocynnau trên o Amwythig i Lundain

Arbedwch arian a theithiwch mewn ffordd sy'n addas i chi:

  • Tocynnau Advance: Prynwch docynnau’n gynnar er mwyn manteisio ar ein prisiau rhataf. Dim ond nifer cyfyngedig o’r tocynnau hyn sydd ar gael a gallant werthu'n gyflym.
  • Cardiau Rheilffordd: Manteisiwch ar ostyngiadau cardiau rheilffordd i arbed hyd at draean ar eich taith nesaf.
  • Tocynnau unrhyw bryd: Mae ein tocynnau mwyaf hyblyg yn caniatáu i chi deithio unrhyw adeg o'r dydd, unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.

Pam ddim defnyddio ein gwefan? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl gynigion teithio sy'n addas i’r rhai sy’n ceisio arbed arian ac maent ar gael mewn un lle sy’n hawdd iawn ei gyrchu.

*Tocynnau Advance yw ein prisiau gorau a gellir defnyddio gostyngiadau cardiau rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance gan eu bod yn gyfyngedig o ran y nifer sydd ar gael a dim ond ar werth hyd at 18:00 cyn y diwrnod y byddwch yn teithio. Byddem yn argymell eich bod yn prynu'n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.