Mae taith o Abertawe i Lundain yn cynnig popeth o sioeau’r West End ac amgueddfeydd byd-enwog i siopau, tirnodau a bwytai o fewn cyrraedd.
Mae trenau uniongyrchol yn rhedeg o Abertawe i Lundain Paddington, gyda’r teithiau cyflymaf yn cymryd tua 2 awr 50 munud. Os ydych chi’n teithio i Euston, bydd angen i chi deithio ar draws canol Llundain ar ôl cyrraedd Paddington.
Ar gyfer gwaith, penwythnos i ffwrdd neu ddiwrnod llawn o weld atyniadau, mae teithio ar drên yn rhoi amser i chi eistedd yn ôl cyn cyrraedd y brifddinas.
Prynwch eich tocynnau drwy Trafnidiaeth Cymru, ac ni fydd angen talu ffioedd archebu.
- Hyd y daith: Tua 2 awr 50 munud i Lundain Paddington, a theithio ymlaen i Euston
- Trenau uniongyrchol: Oes, o Abertawe i Lundain Paddington
- Amlder: Gwasanaethau rheolaidd drwy gydol y dydd
- Trên uniongyrchol cyntaf: O tua 05:00 ymlaen, yn dibynnu ar y diwrnod
- Trên uniongyrchol olaf: Tua 20:20, yn dibynnu ar yr amserlen
- Yr orsaf rydych yn gadael ohoni: Abertawe
- Cyrraedd Llundain: Llundain Paddington
- Arbed ar docynnau: Archebwch ymlaen llaw gyda phris tocyn Advance, defnyddiwch Gerdyn Rheilffordd neu teithiwch ar Gyfnodau Tawelach pan fydd ar gael
Edrychwch ar ein hadnodd cynllunio teithiau i weld yr amseroedd diweddaraf cyn cychwyn.
Pam mynd ar y trên o Abertawe i Lundain?
Ar ôl cyrraedd Llundain, gall fod yn anodd iawn penderfynu sut i dreulio eich amser yno.
- Manteisio i’r eithaf ar amgueddfeydd rhad ac am ddim Llundain - Cewch dreulio oriau yn Amgueddfa Hanes Natur, yr Amgueddfa Wyddoniaeth, Amgueddfa Victoria ac Albert (V&A) a’r Amgueddfa Brydeinig yn heb orfod talu ffi mynediad er mwyn mwynhau eu casgliadau parhaol.
- Mynd i sioe yn y West End - O sioeau cerdd hirsefydlog i ddramâu a chomedi newydd, mae theatrau canol Llundain yn berffaith ar gyfer treulio eich nosweithiau.
- Cerdded ar hyd afon Tafwys - Mwynhewch olygfeydd gan gynnwys y London Eye, Dau Dŷ Senedd y DU a St Paul’s, neu beth am dreulio rhywfaint o amser yn crwydro ar hyd South Bank.
- Pori drwy ardaloedd siopa Llundain - Mae Oxford Street a Regent Street yn rhoi sylw i’r enwau mawr, ac mae Covent Garden a Carnaby yn cynnig cymysgedd gwahanol o siopau, bwytai a llefydd i gael diod.
- Gweld atyniadau am ddiwrnod cyfan - Mae modd ymweld â Phalas Buckingham, Tower Bridge, San Steffan a llawer o dirnodau mwyaf adnabyddus Llundain i gyd mewn un diwrnod drwy ddefnyddio’r Trenau Tanddaearol, bysiau neu ddigon o gerdded.
I weld arddangosfeydd, digwyddiadau a rhagor o syniadau, ewch i Visit London cyn teithio.
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru
Ffyrdd o arbed arian ar docynnau trên o Abertawe i Lundain
Drwy gynllunio eich taith, gallwch gwell gwerth am eich arian.
- Prynu’n gynnar - Gall prisiau Advance gynnig rhai o’r prisiau gorau pan fyddant ar gael
- Defnyddio Cerdyn Rheilffordd - Gall teithwyr cymwys arbed hyd at draean ar lawer o deithiau
- Teithio ar Gyfnodau Tawelach - Os yw eich cynlluniau’n hyblyg, mae’n bosibl y bydd teithio y tu allan i’r cyfnodau prysuraf yn costio llai
- Dewis Tocynnau Unrhyw Bryd i gael hyblygrwydd - Defnyddiol os nad ydych chi eisiau ymrwymo i drên penodol
- Archebu gyda ni’n uniongyrchol - Does dim ffioedd archebu pan fyddwch chi’n prynu drwy ein gwefan neu’r ap
Gallwch hefyd ddefnyddio ap TrC i weld yr amseroedd a phrynu tocynnau wrth i chi fynd o le i le.
*Mae tocynnau Advance yn gyfyngedig ac yn amodol ar argaeledd, felly mae prynu’n gynharach yn rhoi gwell cyfle i chi sicrhau pris is.
Cwestiynau cyffredin
Oes trenau uniongyrchol o Abertawe i Lundain?
Oes. Mae gwasanaethau uniongyrchol yn rhedeg o Abertawe i orsaf Llundain Paddington. Ar gyfer Llundain Euston, bydd angen i chi barhau ar draws y ddinas ar ôl cyrraedd Paddington.
Faint o amser mae’r trên o Abertawe i Lundain yn ei gymryd?
Mae’r teithiau uniongyrchol cyflymaf o Abertawe i orsaf Llundain Paddington yn cymryd tua 2 awr 50 munud. Caniatewch amser ychwanegol os mai Euston neu ran arall o Lundain yw eich cyrchfan derfynol.
Faint o’r gloch mae’r trên cyntaf o Abertawe i Lundain yn gadael?
Mae’r trenau uniongyrchol cyntaf fel arfer yn gadael Abertawe o tua 05:00 ymlaen. Mae’r union amseroedd gadael yn amrywio yn ôl diwrnod.
Pryd mae’r trên olaf o Abertawe i Lundain?
Mae’r gwasanaeth uniongyrchol olaf i Lundain Paddington fel arfer yn gadael Abertawe gyda’r nos, tua 20:20. Gwiriwch eich dyddiad teithio bob amser cyn cychwyn.
I ba orsaf yn Llundain mae trenau o Abertawe yn cyrraedd?
Mae gwasanaethau uniongyrchol o Abertawe i Lundain yn cyrraedd Llundain Paddington, nid Llundain Euston.
Sut mae mynd o Lundain Paddington i Euston?
O Paddington ymlaen, gallwch barhau tuag at Euston gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi. Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer y rhan hon o’ch taith, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Dewch o hyd i'ch Caer Dewch i ddarganfod Find your Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-