Cysylltwch â'n tîm Rheilffyrdd
Beth alla i ei wneud ar-lein?
Gallwch chi wneud y pethau hyn ar-lein. Mae fel arfer yn gyflymach ac yn arbed galwad ffôn i chi.
Cynllunio ar-lein
Cysylltwch ar gyfryngau cymdeithasol
Gallwn helpu gydag unrhyw beth o ddod o hyd i'r llwybr gorau i chi, rhoi gwybod i chi sut y gallai tarfu effeithio
ar eich taith, cefnogaeth i newid eich tocynnau neu hawlio iawndal.
Fel arfer byddwn yn ateb o fewn 10 munud ac rydym yma i'ch helpu saith diwrnod yr wythnos. Gweler ein
hamseroedd gwasanaeth isod.
Sgwrsio ar Messenger
Dydd Llun i Dydd Gwener: 07:00 - 20:00
Dydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 08:00 - 20:00
Sgwrsio ar WhatsApp
Dydd Llun i Dydd Gwener: 07:00 - 20:00
Dydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 08:00 - 20:00
Angen tîm gwahanol?
Cymorth teithio cerdyn rhatach Help bws
Rhowch alwad i ni
Gallwch ein ffonio 08:00 - 20:00 Dydd Llun i Dydd Sul.
Os yw’n well gennych siarad â ni yn Gymraeg ffoniwch 03333 211 202 a dewiswch opsiwn 1.
Codir tâl am alwadau i'n rhif ar gyfradd leol o ffôn BT.
Ymddiheuriadau, nid yw ein ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd.
Os am anfon cwyn, ymholiad neu adborth cadarnhaol, anfonwch e-bost atom: customer.relations@tfwrail.wales.
Mae angen cynnwys y wybodaeth ganlynol i’n helpu ni ymateb cyn gynted â phosibl:
- Dyddiad eich taith.
- Yr amser roedd eich trên yn fod i gychwyn.
- Yr orsaf roeddech chi’n teithio ohoni a'r orsaf roeddech chi’n teithio iddi
- Os oedd eich trên yn hwyr, pa mor hwyr oeddech chi’n cyrraedd yr orsaf roeddech chi’n teithio iddi?
- Rhowch gopi o'r tocynnau trên ar gyfer y daith. Os nad yw'r tocynnau gennych chi mwyach, gallwn dderbyn cadarnhad o’ch archeb.
- Dywedwch wrthym sut hoffech i ni dalu unrhyw iawndal sy’n ddyledus i chi. Gallwn gynnig iawndal ar ffurf talebau teithio National Rail, trosglwyddiad banc (BACS). Os byddwn yn cynnig iawndal fel arwydd o ewyllys da, byddwn yn gwneud hynny ar ffurf talebau teithio National Rail fel arfer.