Os ydych chi’n gefnogwr brwd o bêl-droed neu rygbi, does dim byd gwell na bod yno yn gwylio’r gêm. Os ydych chi’n mynd i gêm gartref neu gêm oddi cartref, gall teithio ar drên fod yn un o’r ffyrdd cyflymaf a hawsaf o gyrraedd yno.
Dyma awgrymiadau a chyngor ar deithio i weld gemau pêl-droed a rygbi. Dewch o hyd i’ch trên heddiw gyda chynllunydd teithiau TrC.
Awgrymiadau a chyngor ar gyfer teithio ar ddiwrnod gêm
Mae’n gallu bod yn brysur iawn wrth deithio ar ddiwrnod gêm. Ond os ydych chi wedi paratoi, gall y trên fod yn ffordd gyflym a hawdd o gyrraedd yno.
Dilynwch yr awgrymiadau isod i gael teithio’n ddidrafferth:
- Edrychwch ar ein diweddariadau byw cyn teithio. Defnyddiwch yr adnodd diweddariadau byw i weld yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio cyn i chi gychwyn.
- Prynwch ymlaen llaw i gael y tocynnau mwyaf fforddiadwy. Prynwch docyn Advance hyd at 12 wythnos cyn teithio.
- Defnyddiwch gerdyn Rheilffordd. Gallwch arbed hyd at draean gyda cherdyn Rheilffordd.
- Ewch yno’n gynnar. Ewch i’r orsaf 20 munud cyn i’ch trên gyrraedd er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o amser i gyrraedd y platfform cywir.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi estyn eich tocynnau yn barod. Os oes gennych chi docyn ar eich ffôn neu docyn papur, gwnewch yn siŵr eu bod wrth law yn gyfleus i rywun eu gweld.
- Teithiwch heb lawer o fagiau pan fo hynny’n bosibl. Ceisiwch beidio â chario llawer o fagiau fel nad yw’n amharu gormod.
- Cynlluniwch sut byddwch chi’n cyrraedd y stadiwm. Cerdded, bws, neu dacsi. Gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun sy’n addas i chi.
- Rhowch amser i chi’ch hun gyrraedd ar gyfer y daith yn ôl. Peidiwch ag archebu’r trên cyntaf yn ôl. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi amser i fynd yn ôl i’r orsaf.
I gael unrhyw help a chyngor wrth deithio, siaradwch â’n tîm. Byddwn yn fwy na pharod i helpu.
Lleoliadau chwaraeon a stadia yng Nghymru
Mae Cymru’n gartref i leoliadau chwaraeon gyda’r gorau. Dyma rai o’r stadia a’r lleoliadau mwyaf poblogaidd ledled y wlad.
Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Caerdydd
Tîm: Dinas Caerdydd a thîm cenedlaethol Cymru
Yr orsaf agosaf: Parc Ninian
Mae’r stadiwm yn gartref i glwb pêl-droed Dinas Caerdydd, a dyma un o’r rhai mwyaf yng Nghymru. Mae’n ardal Lecwydd ac mae’n gallu dal hyd at 33,280 o bobl.
Stadiwm Swansea.com, Abertawe
Tîm: Dinas Abertawe, a hen leoliad clwb rygbi’r Gweilch
Yr orsaf agosaf: Abertawe
Gyda lle i 21,000 o bobl eistedd, cafodd Stadiwm Swansea.com ei adeiladu gyda Pharc Manwerthu Morfa yn 2005 ar gyfer gemau cenedlaethol a rhyngwladol.
Maes Rygbi a Chriced Sain Helen, Abertawe
Tîm: Clwb Rygbi’r Gweilch a Chlwb Rygbi Abertawe
Yr orsaf agosaf: Abertawe
Ym Mrynmill, Abertawe, mae Sain Helen yn gae chwaraeon ar gyfer clybiau rygbi, criced a phêl-droed. Yn 2025, cyhoeddwyd y byddai’r Gweilch yn dychwelyd i Sain Helen, gan gymryd lle Clwb Criced Abertawe, a oedd wedi’i leoli yno ers 1875.
Y Cae Ras, Wrecsam
Tîm: Wrecsam
Yr orsaf agosaf: Wrecsam Cyffredinol
Y Cae Ras yw’r stadiwm fwyaf yng ngogledd Cymru, ac mae’n gartref i Glwb Pêl-droed Wrecsam. Mae’n dal 12,600 o bobl ond mae stand y Kop wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd fel bod mwy o le.
Cae Ras Bangor Is-coed, Bangor Is-coed
Tîm: Rasio ceffylau
Yr orsaf agosaf: Wrecsam Cyffredinol
Mae Cae Rasio Bangor Is-coed yn drac rasio ceffylau gwrthglocwedd yng nghefn gwlad gogledd Cymru ger Wrecsam, ar gyfer rasio ceffylau pedigri.
Gerddi Sophia, Caerdydd
Tîm: Criced Morgannwg
Yr orsaf agosaf: Caerdydd Canolog
Yn gartref i Glwb Criced Sir Forgannwg ers 1967, mae Gerddi Sophia yng nghanol Caerdydd. Mae’n faes criced o’r radd flaenaf ac yn ofod ar gyfer digwyddiadau gyda lle i 16,000 o bobl.
Prynwch eich tocynnau trên heddiw.