Mae Cymru’n gartref i rai o’r casgliadau botaneg mwyaf anhygoel yn y byd, sy’n amrywio o gromenni gwydr dyfodolaidd i gymoedd Fictoraidd cudd. Gorau oll, does dim angen car arnoch i’w cyrraedd. Drwy ddefnyddio’n rhwydwaith, gallwch gyfnewid sedd y gyrrwr am sedd wrth y ffenest gan gyrraedd yr hafanau gwyrdd hyn yn llawn egni ac yn barod am ddiwrnod ymysg y gwyrddni.
Sicrhewch eich bod yn talu’r pris gorau a phrynwch eich tocynnau trên yma.
Gerddi Botaneg Cymru, Sir Gaerfyrddin
Yn brydferth drwy gydol y flwyddyn, dyma em y gerddi botaneg yng Nghymru. Yng nghalon y safle maint 568 erw hon ceir Y Tŷ Gwydr Mawr, sef y tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd, ac mae’n gartref i dirwedd Fediteranaidd sydd â chwm chwe metr o ddyfnder.
Yn yr ardd hanesyddol â dwy wal o’i hamgylch, byddwch hefyd yn dod o hyd i’r Tŷ Trofannol sy’n llawn goed palmwydd, pinafalau a chasgliad syfrdanol o degeirianau amheuthun. Am newid mewn cyflymder, gwyliwch eryrod, hebogiaid a barcutiaid mawreddog yn esgyn i awyr Sir Gaerfyrddin mewn arddangosfeydd hedfan dyddiol yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain.
Sut i gyrraedd: Ewch ar y trên o orsaf drenau Caerfyrddin. O’r man hwnnw, ewch ar fws 279 yn uniongyrchol i’r Ardd (ddydd Mawrth, Mercher, Iau a Sadwrn).
**Dangoswch eich tocyn trên neu fws TrC dilys wrth y fynedfa am 50% oddi ar bris mynediad.
Gardd Bodnant, Conwy
Wedi’i chreu dros 150 blynedd yn ôl, mae Gardd Bodnant yn llawn caeau glas eang, gerddi hardd a choetiroedd gwyrddlas. Wedi’i lleoli uwchben yr Afon Conwy gyda brig Eryri yn y cefndir, mae Gardd Bodnant yn feistr mewn drama.
Un o’r uchafbwyntiau yw’r Pum Teras Steil Eidalaidd. Mae’r lefelau mawreddog hyn wedi’u hadeiladu o garreg sy’n cynnwys pyllau lili, borderi ffurfiol, a’r felin, ‘Pin Mill’ enwog, sy’n adeilad o’r 1730au a symudwyd yn ofalus fricsen wrth fricsen o Swydd Gaerloyw.
Sut i gyrraedd: Ewch ar Lein Cwm Conwy i orsaf drenau Tal-y-Cafn. Cerddwch 1.5milltir (30 munud) ar hyd prydferthwch Afon Conwy hyd at y brif fynedfa. Fel arall, teithiwch ar fws Rhif 25 yn uniongyrchol o orsaf drenau Cyffordd Llandudno neu Conwy i fynedfa Bodnant.
Aberglasne, Sir Gaerfyrddin
Wedi’i lleoli yng nghalon prydferthwch Cwm Tywi, mae Gerddi Aberglasne wedi ysbrydoli creadigrwydd beirdd am dros 500 o flynyddoedd. Ar draws 10 erw o diroedd o’r radd flaenaf, gallwch gamu yn ôl i’r gorffennol drwy hen erddi ffurfiol gyda chlwysty o garreg, pyllau tawel a bwâu mawreddog.
Wedi ichi archwilio’r hanes, crwydrwch drwy baradwys lwyr i’r rheini sydd wrth eu boddau a phlanhigion lle bod rhywogaethau amheuthun ac egsotig o ledled y byd yn dod a’r diriogaeth hanesyddol hon yn fyw.
Sut i gyrraedd: Ydych chi’n teithio yn y trên? Cymrwch linell Calon Cymru i orsaf drenau Llandeilo. Ydych chi’n teithio ar y bws? O Landeilo (Heol Newydd), ewch ar y gwasanaeth 280 i Broad Oak (mae’r daith yn cymryd chwe munud yn unig). I’r rheini sy’n teimlo’n llawn antur, ceir taith gerdded brydferth hyd 3.5 milltir o orsaf drenau Llandeilo drwy wlad eang Sir Gaerfyrddin.
Teithiwch yn glyfar gan weld mwy
Mae defnyddio’n rhwydwaith i gyrraedd y gerddi botaneg hyn yn dda i’r blaned ac yn ffordd hawdd o ymlacio a mwynhau’r golygfeydd.
Cynlluniwch ymlaen llaw: Gwiriwch yr amserau trên diweddaraf a’r gwasanaethau bws sy’n cysylltu gan ddefnyddio’n cynllunydd teithiau trên cyn teithio.
Prynwch yn uniongyrchol: Cofiwch brynu eich tocynnau trên gyda ni am y prisiau gorau heb ffioedd bwcio.