Bristol Bears Big Day Out
Boed chi’n cefnogi y Bearns neu’r Harlequins, ar y dudalen hon, mae’r prif wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud teithio i’r gem yn esmwyth ar ddiwrnod y gêm.
Fixtures
| Gêm | CG | Dyddiad | Lleoliad |
|---|---|---|---|
| Bristol Bears v Harlequins | Chwiban gyntaf - merched - 12.30 Chwiban gyntaf - dynion - 15:30 | Dydd Sadwrn 28 March 2026 | Stadiwm Principality, Caerdydd |
HYSBYSIAD PWYSIG I GWSMERIAID
I'R RHAI SY'N TEITHIO I GAERDYDD, Y CYMOEDD A BRO MORGANNWG AR ÔL Y GÊM EWCH I HEOL Y FRENHINES CAERDYDD, NID CAERDYDD CANOLOG.
Byddwn yn treialu dull rheoli torfeydd newydd ar ôl gêm 'Big Days Out' y Bristol Bears sydd ar ddod, gyda'r nod o wella'r profiad i gefnogwyr ar ddiwrnod y gêm a pharatoi ar gyfer gwaith mawr yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Bydd ciwio yn dechrau o 17:00 yn y ddwy orsaf.
Bydd cymorth hygyrchedd yn parhau i fod ar gael yng ngorsaf Caerdydd Canolog i deithwyr y brif linell a theithwyr y Cymoedd.
Edrychwch ar y gwymplen isod i weld a ddylech chi fod yn mynd i Heol y Frenhines Caerdydd ar ôl y gêm.
Cliciwch yma i wirio am eich gorsaf
- Aber
- Abercynon
- Aberdâr
- Bargod
- Y Barri
- Dociau'r Barri
- Ynys y Barri
- Llwynbedw
- Brithdir
- Tregatwg
- Caerffili
- Cathays
- Cogan
- Coryton
- Cwmbach
- Danescourt
- Dinas Powys
- Dinas Rhondda
- Dingle Road
- Eastbrook
- Eneu’r-glyn a Pharc Churchill
- Y Tyllgoed
- Fernhill
- Gilfach Fargoed
- Grangetown
- Lefel Uchel y Mynydd Bychan
- Lefel Isel y Mynydd Bychan
- Hengoed
- Llys-faen a’r Ddraenen
- Llanbradach
- Llandaf
- Llanisien
- Llanilltud Fawr
- Llwynypia
- Merthyr Tudful
- Ynysowen
- Aberpennar
- Parc Ninian
- Penarth
- Pengam
- Penrhiwceiber
- Pentre-Bach
- Pontlotyn
- Pontypridd
- Porth
- Mynwent y Crynwyr
- Radur
- Rhiwbeina
- Rhymni
- Ffynnon Taf
- Tir- phil
- Ton Pentre
- Tonypandy
- Trefforest
- Ystâd Trefforest
- Trehafod
- Treherbert
- Treorci
- Troed-y-rhiw
- Tŷ Glas
- Parc Waun-Gron
- Yr Eglwys Newydd
- Ystrad Mynach
- Ystrad Rhondda
Os ydych chi'n mynd i unrhyw le arall, bydd angen i chi ymuno â'r system ciwio yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Pam rydyn ni'n gwneud hyn?
Bydd cefn gorsaf Caerdydd Canolog yn cael ei ailddatblygu cyn bo hir fel rhan o'r prosiect gwella gorsaf gwerth £140 miliwn a rhaglen Cardiff Crossrail, sy'n golygu na fydd y gofod a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer ciwio ar ôl y gêm ar gyfer y llwybrau hyn ar gael mwyach.
Pam nawr?
Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle perffaith i ni brofi dull craffach o symud nifer fawr o gefnogwyr allan o'r ddinas. Mae'r newidiadau hyn yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu â'n cwsmeriaid yn fwy effeithiol ar y diwrnod, gyda thimau ar gael yn gwneud yn siŵr bod pawb yn cyrraedd y lle iawn. Byddwn yn parhau i addasu ein cynlluniau yn seiliedig ar yr hyn rydyn ni'n ei ddysgu o'r treial.
Rydym yn cydnabod bod hyn yn newid i deithwyr ac yn gofyn i bob cwsmer barhau i wirio cyn teithio a bod yn barchus i'n staff rheng flaen sydd yno i helpu pawb i gyrraedd adref yn ddiogel.
Sut y bydd o fudd i chi?
Rydym yn deall bod hyn yn newid mawr i chi ac er bod y treial yn golygu taith gerdded hirach i rai cefnogwyr, mae'r symud i Heol y Frenhines yn dod â'i fanteision gan gynnwys:
- Ciwiau pwrpasol ar gyfer pob llinell - byddwn yn gallu rhannu'r ciwiau yn effeithiol i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich llwytho ar y gwasanaeth sydd ei angen arnoch cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwybod y gall rhannu ciwiau gyda llwybrau eraill fod yn rhwystredig ar ddiwrnodau digwyddiadau. Mae gweithredu o Heol y Frenhines yn rhoi mwy o le i ni ar gyfer systemau ciwio, sy'n golygu y gallwn ehangu ein ciwiau o 3 i 9.
- Bydd cwsmeriaid Talu wrth fynd yn gallu manteisio ar gatiau tocynnau Heol y Frenhines ac allan yn eu cyrchfan ddewisol - teithio syml a di-drafferth.
Cyrraedd Caerdydd ar gyfer y gêm?
Bydd ciwiau refeniw ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog felly gwnewch yn siŵr bod eich tocynnau yn barod ar gyfer ymadael yn gyflym! I'r rhai sy'n defnyddio talu wrth i chi fynd, bydd lein pwrpasol lle gallwch tapio allan gyda'n staff refeniw. Gallwch brynu tocyn ar-lein trwy ein ap.
| Ble allwch chi fynd gyda talu wrth fynd? |
Mae system unffordd o amgylch yr orsaf ar waith i gadw pawb yn ddiogel ac yn symud yn llyfn ac yn gyflym. Bydd pob cwsmer yn gadael ar flaen yr orsaf i'r ciwiau refeniw. Newid llwyfannau ar gyfer gwasanaeth cysylltu? Dim problem, rhowch wybod i'n staff a gallant eich cyfeirio'n syth i'r platfform sydd ei angen arnoch.
Ciwio yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar ôl y gêm
Bydd y ciwiau isod yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar y Sgwâr Canolog:
- Bryste Temple Meads
- Parc ordd Bryste
- Llundain Paddington
- Casnewydd
- Henffordd
- Manceinion a Chrewe
- Gogledd Cymru
- Nottingham
- Abertawe, Gorllewin Cymru a Maesteg
Ar gyfer gwasanaethau i Cheltenham Spa a Glynebwy, ewch i faes parcio Glanyrafon (Platfform 0).
Cau meysydd parcio
Maes parcio Glanyrafon ar gau o 20:00 27 Mawrth 2026 tan 04:00 29 Mawrth 2026.
Maes parcio Heol Penarth ar gau o 12 Mawrth 2026 tan 29 Mawrth 2026.
Cau Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau yn unol â chau'r ffyrdd 11:00 i 20:00.
Newidiadau safle tacsi
Bydd safle tacsi Heol Saunders ar gau rhwng 10:45 - 23:59.
Ar ôl y digwyddiad
Prynwch cyn teithioRhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y gêm. | |
Ciw ar ôl y gêmBydd system ciwio yn weithredol yng ngorsaf Ganolog Caerdydd. Bydd nifer y teithwyr yn cael eu cyfyngu ar gyfer teithiau dwyffordd, byddwch yn amyneddgar. | |
Diogelwch y cyhoeddBydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio. | |
| Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio. |
Gwasanaethau olaf ar ôl y cyngerdd
| Cyrchfan | Amser gadael ar yr amserlen |
|---|---|
| Taunton | 19:00 |
| Fareham | 19:30 |
| Nottingham | 20:00 |
| Manceinion Piccadilly | 20:10 |
| Llundain Paddington | 20:22 |
| Westbury | 20:30 |
| Derby | 20:49 |
| Sba Cheltenham | 21:10 |
| Amwythig | 22:15 |
| Coryton | 22:18 |
| Caerfyrddin | 22:27 |
| Merthyr Tudful | 22:30 |
| Rhymni | 22:35 |
| Aberdâr | 22:41 |
| Bryste Temple Meads | 22:47 |
| Treherbert | 23:00 |
| Penarth | 23:08 |
| Caerfilli | 23:11 |
| Tref Glynebwy | 23:14 |
| Gaerloyw | 23:18 |
| Maesteg | 23:22 (Bws) |
| Ystrad Mynach | 23:22 |
| Henffordd | 23:23 |
| Ynys y Barri | 23:30 |
| Pontypridd | 23:43 |
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.