Cyflwyniad

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni'n gwybod bod ambell i daith yn fwy na dim ond mynd o A i B. Bob mis Medi, mae tref glan môr traddodiadol Porthcawl yn cael ei thrawsnewid i baradwys roc a rôl ar gyfer y digwyddiad teyrnged Elvis mwyaf yn y byd.

Y trên yw'r ffordd orau o osgoi'r tor-calon o dagfeydd traffig, tra bod y bws hefyd yn osgoi cyfyngiadau parcio, fel eich bod chi’n gallu canolbwyntio ar gofio eich “Blue Suede Shoes” a mwynhau diwrnod hwyliog.

 

Rhagflas elfis-aidd

Mae'r hyn a ddechreuodd fel digwyddiad lleol i achub Pafiliwn y Grand wedi ffrwydro'n ffenomen ryngwladol, gan ddenu dros 40,000 o ymwelwyr a 150 o artistiaid yn perfformio cannoedd o sioeau i wlad y gân - ac o bosib gwlad cyndeidiau Elvis Presley ei hun o ystyried ei gyfenw Preseli-aidd, a hefyd y ffaith bod yna gapel Elfis Sant yng ngorllewin Cymru!

  • Y sioeau swyddogol: Mae'r pafiliwn eiconig ei hun yn cynnal prif ddigwyddiadau mawreddog yr ŵyl, gan gynnwys perfformiadau teyrnged o'r radd flaenaf a’r Cystadleuaeth Teyrnged i Elvis enwog.
  • Hi-Tide: Fel lleoliad mwyaf yr ŵyl, mae'r Hi-Tide yn cynnwys chwe llwyfan a Phabell Pobl o Bwys, gan gynnig adloniant byw di-stop trwy gydol y penwythnos.
  • Yr ŵyl ymylol: Mae dwsinau o dafarndai a chlybiau ledled Porthcawl yn trefnu eu dynwaredwyr eu hunain, gan greu parti bywiog ledled y dref lle mae llawer o ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim i'w mynychu.
  • Cystadlaethau unigryw: Edrychwch am gystadlaethau ffasiwn thematig a hyd yn oed y wobr "Hound Dog" ar gyfer y ci sydd wedi'i wisgo orau.
  • Ysbryd glan y môr: Rhwng setiau, mwynhewch arddangosfeydd hen geir, marchnadoedd gwyliau sy'n gwerthu memorabilia, a danteithion glan môr clasurol ar hyd y promenâd.

Pryd: Mae digwyddiad teyrnged Elvis mwyaf y byd yn cael ei gynnal yn flynyddol ac yn dechrau o'r trydydd penwythnos ym mis Medi. Cynhelir y dathliad roc a rôl eleni rhwng 23 Medi 2026 a 25 Medi 2026.

Sut i gyrraedd yno: Er nad oes gan Borthcawl ei orsaf ei hun, mae cyrraedd yr ŵyl yn hawdd gyda'n rhwydwaith integredig. Mae ein trenau i orsaf Pen-y-bont ar Ogwr yn bob 30 munud o Gaerdydd Canolog. O Ben-y-bont ar Ogwr, bydd gwasanaethau rheolaidd bws (megis X2) yn eich cludo'n uniongyrchol i Borthcawl mewn tua 20 munud, gan eich gollwng yng nghanol y miri.

 

Teithio'n glyfar a gweld mwy

Cynlluniwch ymlaen llaw: Gwiriwch yr amseroedd trenau diweddaraf a'r gwasanaethau bws cysylltiedig gan ddefnyddio ein cynlluniwr taith cyn i chi deithio.

Archebwch uniongyrchol: Cofiwch brynu cyn i chi deithio gyda ni am y prisiau isaf a heb ffioedd archebu.

 

Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.