Sioe Frenhinol Cymru 2026
Dydd Llun 20 Gorffennaf 2026 - Dydd Iau 23 Gorffennaf 2026
Gyda phedwar diwrnod yn orlawn o gystadlu, atyniadau, arddangosfeydd, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a siopa, mae digon i’w weld a’i wneud yn Sioe Frenhinol Cymru. Edrychwch ar y rhaglen ddyddiol o ddigwyddiadau a manylion y prif atyniadau yma: Sioe Frenhinol Cymru
Os ydych yn mynd i'r sioe ar y trên gallwch brynu eich tocyn ar gyfer y Sioe Frenhinol am £35 (Oedolyn) £11 (Plant) neu yn un o'n gorsafoedd â chriw os mai'ch lleoliad olaf yw orsaf Builth Road.
Bydd tocynnau disgownt ar werth gan Rheolwr y trên a swyddfeydd tocynnau ar linell Calon Cymru o ddydd Llun 01 Mehefin 2026.
Pan fyddwch yn Llanelwedd ar gyfer y sioe, beth am archwilio'r ardal ymhellach? Pethau i'w gwneud yng Nghanolbarth Cymru
Gweithgareddau
Byddwn unwaith eto'n partneru â Network Rail i ddod â nifer o weithgareddau diogelwch gwahanol ar ochr y rheilffordd i'n stondin gan gynnwys y clustffonau VR.
Bydd Côr Meibion Llanfair-ym-Muallt yn ymuno â ni ar y stondin ddydd Llun.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys:
- Amser stori gyda Teleri
- Dosbarthiadau gwneud bathodynnau negeseuon diogelwch
- Drama/perfformiadau negeseuon diogelwch rheilffordd dyddiol gan Bollo
Cyrraedd y sioe
Teithio ar drên
Daliwch drên i orsaf Builth Road, ychydig dros filltir i ffwrdd o faes y sioe.
Bydd bws gwennol RHAD AC AM DDIM yn eich cludo i faes y sioe. Bydd y bysys gwennol yn dychwelyd i’r orsaf drenau, gan adael trwy fynedfa peiriannau maes y sioe, 30 munud cyn i bob trên adael.
Os ydych chi o dan 16 oed ac yn teithio ar y trên ar linell Calon Cymru i'r sioe, peidiwch ag anghofio casglu eich taflen weithgareddau am ddim gan Rheolwr y trên. Gall bws, beic neu drên fynd â chi ar antur anhygoel! Beth am eu lliwio a dod â’r llun gwych i stondin Trafnidiaeth Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru - cewch gyfle i ennill gwobr.
Bydd trên uniongyrchol yn rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Builth Road yn ystod y sioe. Noder: mae’r gwasanaeth hwn wedi’i drefnu ond yn destun newid. Cofiwch wirio cyn teithio.
Teithio ar fws
Daliwch y T4 o Ferthyr Tudful i Lanfair-ym-Muallt/Y Drenewydd i Lanfair-ym-Muallt a chyrraeddwch o fewn pellter cerdded byr o faes y sioe. T4 - Y Drenewydd - Merthyr Tudful
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch defnyddio’r rhwydwaith fysiau i deithio i’r sioe, ewch i TrawsCymru
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.