Gemau Rhyngwladol yr Hydref 2026
Ydych chi’n mynd i'r rygbi yr hydref hwn?
Ym mis Tachwedd eleni, bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn cynnal gemau rygbi rhyngwladol dros dri phenwythnos yn olynol fel rhan o Gemau Rhyngwladol yr Hydref 2026. Pwy bynnag rydych chi'n eu cefnogi, rydym ni yma i'ch cludo i'r gêm ac yn ôl adref, yn rhwydd ac yn ddiogel.
Beth sydd ymlaen?
| Gêm | CG | Dyddiad | Lleoliad |
|---|---|---|---|
| Cymru v Japan | 16:40 | Dydd Sadwrn 07 Tachwedd | Stadiwm Principality, Caerdydd |
| Cymru v Seland Newydd | 14:10 | Dydd Sadwrn 14 Tachwedd | Stadiwm Principality, Caerdydd |
| Cymru v Awstralia | 20:10 | Dydd Sadwrn 21 Tachwedd | Stadiwm Principality, Caerdydd |
Disgwylir i wasanaethau trenau fod yn brysur; gwiriwch cyn i chi deithio a gadewch ddigon o amser ar gyfer eich teithiau.
HYSBYSIAD PWYSIG I GWSMERIAID
I'R RHAI SY'N TEITHIO I GAERDYDD, Y CYMOEDD A BRO MORGANNWG AR ÔL Y DIGWYDDIAD, EWCH I GAERDYDD HEOL Y FRENHINES, NID CAERDYDD CANOLOG.
NODYN - MAE GWASANAETHAU GLYNEBWY A MAESTEG YN GADAEL O GAERDYDD CANOLOG
Bydd cymorth hygyrchedd yn parhau i fod ar gael yng ngorsaf Caerdydd Canolog i bob teithiwr.
Edrychwch ar y gwymplen isod i weld a ddylech chi fod yn mynd i Heol y Frenhines Caerdydd ar ôl y digwyddiad.
Cliciwch yma i wirio am eich gorsaf
- Aber
- Abercynon
- Aberdâr
- Bargod
- Y Barri
- Dociau'r Barri
- Ynys y Barri
- Llwynbedw
- Brithdir
- Tregatwg
- Caerffili
- Cathays
- Cogan
- Coryton
- Cwm-bach
- Danescourt
- Dinas Powys
- Dinas Rhondda
- Dingle Road
- Eastbrook
- Eneu’r-glyn a Pharc Churchill
- Y Tyllgoed
- Fernhill
- Gilfach Fargoed
- Grangetown
- Lefel Uchel y Mynydd Bychan
- Lefel Isel y Mynydd Bychan
- Hengoed
- Llys-faen a’r Ddraenen
- Llanbradach
- Llandaf
- Llanisien
- Llanilltud Fawr
- Llwynypia
- Merthyr Tudful
- Ynysowen
- Aberpennar
- Parc Ninian
- Penarth
- Pengam
- Penrhiwceiber
- Pentre-bach
- Pontlotyn
- Pontypridd
- Porth
- Mynwent y Crynwyr
- Radur
- Rhiwbeina
- Rhymni
- Ffynnon Taf
- Tir- phil
- Ton Pentre
- Tonypandy
- Trefforest
- Ystâd Trefforest
- Trehafod
- Treherbert
- Treorci
- Troed-y-rhiw
- Tŷ Glas
- Parc Waun-gron
- Yr Eglwys Newydd
- Ystrad Mynach
- Ystrad Rhondda
Os ydych chi'n mynd i unrhyw le arall, bydd angen i chi ymuno â'r system ciwio yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Pam rydyn ni'n gwneud hyn?
Bydd cefn gorsaf Caerdydd Canolog yn cael ei ailddatblygu cyn bo hir fel rhan o brosiect gwella’r orsaf gwerth £140 miliwn a rhaglen Cledrau Croesi Caerdydd, sy'n golygu na fydd y gofod a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer ciwio ar ôl y digwyddiad ar gyfer y llwybrau hyn ar gael mwyach.
Pam nawr?
Mae'r newidiadau hyn yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu â'n cwsmeriaid yn fwy effeithiol ar y diwrnod, gyda thimau ar gael yn gwneud yn siŵr bod pawb yn cyrraedd y lle iawn. Byddwn yn parhau i addasu ein cynlluniau yn seiliedig ar yr hyn rydyn ni'n ei ddysgu o'r treial.
Rydym yn cydnabod bod hyn yn newid i deithwyr ac yn gofyn i bob cwsmer barhau i wirio cyn teithio a bod yn barchus i'n staff rheng flaen sydd yno i helpu pawb i gyrraedd adref yn ddiogel.
Sut y bydd o fudd i chi?
Rydym yn deall bod hyn yn newid mawr i chi ac er bod y treial yn golygu taith gerdded hirach i rai, mae symud i Heol y Frenhines yn dod â'i fanteision, gan gynnwys:
- Ciwiau pwrpasol ar gyfer pob llinell - byddwn yn gallu rhannu'r ciwiau yn effeithiol i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich llwytho ar y gwasanaeth sydd ei angen arnoch cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwybod y gall rhannu ciwiau gyda llwybrau eraill fod yn rhwystredig ar ddiwrnodau digwyddiadau. Mae gweithredu o Heol y Frenhines yn rhoi mwy o le i ni ar gyfer systemau ciwio, sy'n golygu y gallwn ehangu ein ciwiau o 3 i 9.
- Bydd cwsmeriaid talu wrth fynd yn gallu tapio i mewn wrth y gatiau tocynnau yng ngorsaf Caerdydd Heol y Frenhines a thapio allan yn eu cyrchfan ddewisol - teithio syml a didrafferth.
Cyrraedd Caerdydd ar gyfer y digwyddiad?
Bydd ciwiau refeniw ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog felly gwnewch yn siŵr bod eich tocynnau yn barod ar gyfer gadael yn gyflym! I'r rhai sy'n defnyddio talu wrth fynd, bydd ciwiau pwrpasol lle gallwch dapio allan gyda'n staff refeniw. Gallwch brynu tocyn ar-lein trwy ein ap.
| Ble allwch chi fynd gyda talu wrth fynd? |
Mae system unffordd o amgylch yr orsaf ar waith i gadw pawb yn ddiogel a sicrhau bod pawb yn gallu symud yn esmwyth ac yn gyflym. Bydd pob cwsmer yn gadael ar flaen yr orsaf i'r ciwiau refeniw. Newid platfformau ar gyfer gwasanaeth cysylltu? Dim problem, rhowch wybod i'n staff a gallant eich cyfeirio'n syth i'r platfform sydd ei angen arnoch.
Cau meysydd parcio
Mae meysydd parcio Heol Penarth a Glanyrafon bellach ar gau yn barhaol fel rhan o'r gwaith trawsnewid sy'n digwydd yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Gall cwsmeriaid ddefnyddio'r maes parcio aml-lawr sydd wedi'i leoli yng nghefn gorsaf Caerdydd Canolog.
Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau yn unol â’r ffyrdd a fydd ar gau.
Dydd Sadwrn 7 Tachwedd
12:30 - 21:00 yw amser cau Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd.
Dydd Sadwrn 14 Tachwedd
10:00 - 18:15 yw amser cau Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd.
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd
16.00 yw amser cau Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd.
Ein gwasanaeth trên
Mae ein timau wedi gweithio'n galed i sicrhau gwasanaethau ychwanegol i helpu cefnogwyr i gyrraedd y gêm ac yn ôl ohoni.
Mae dros 90 o welliannau i wasanaethau wedi'u rhoi ar waith ar gyfer y tair gêm - o addasu amserlenni trenau i gyd-fynd yn well ag amseroedd dechrau a gorffen y gemau, i ychwanegu cerbydau lle bo modd a sicrhau gwasanaethau ychwanegol ar lwybrau allweddol.
Rydym wedi ymrwymo i wneud teithio ar ddiwrnod y gêm mor syml â phosibl! Mae'r holl wasanaethau bellach yn ymddangos ar gynllunwyr teithiau, felly ewch i'n ap neu ein gwefan i archebu eich tocynnau!
Newidiadau i'r safle tacsis
Bydd safle tacsis Heol Saunders yn cau yn unol â’r ffyrdd a fydd ar gau.
Dydd Sadwrn 7 Tachwedd
12:15 i 00:00 yw amser cau y safle tacsis.
Dydd Sadwrn 14 Tachwedd
09:45 i 00:00 yw amser cau y safle tacsis.
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd
15:15 i 00:00 yw amser cau y safle tacsis.
Ar ôl y gêm
|
| Prynwch cyn teithioRhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y gêm. |
|
| Diogelwch y cyhoeddBydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio. |
|
| Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio. |
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.