Mae Cymru’n wych i’r rheini sydd wrth eu bodd gydag anifeiliaid. Gallwch ddod o hyd i bopeth yma, o sŵau ar ben mynyddoedd gyda golygfeydd anhygoel o’r môr i fforestydd glaw trofannol dan do sydd yng nghanol ein dinasoedd. P’un a ydych yn dymuno gweld llewod a rheinos egsotig neu’n dymuno agosáu at fywyd môr Cymru, mae yna antur wyllt ichi ym mhob cwr o’r wlad.
Dylai’r hwyl o gyrraedd y mannau gwych hyn fod cystal â’r diwrnod ei hun. Wrth ddewis y trên neu’r bws, rydych yn ein helpu ni i greu dyfodol gwyrddach i Gymru gan osgoi straen traffig a pharcio ar yr un pryd. Mae’n ffordd gadarnhaol o deithio er lles eich arian a’ch llesiant.
Paciwch eich bagiau a’ch tocynnau ac archwiliwch y mannau gorau ar gyfer bywyd gwyllt yng Nghymru.
Ein hoff fannau ar gyfer bywyd gwyllt
1. Welsh Mountain Zoo, Bae Colwyn
- Lleoliad: Bae Colwyn, Gogledd Cymru
- Gorsaf agosaf: Gorsaf reilffordd Bae Colwyn
Fe’i hadnabyddir fel Sŵ Mynydd Cymru, ac mae hyn yn wir drysor y gogledd. Lleolir ar safle maint 37 erw uwchben yr arfordir ac mae ganddo rhai o’r golygfeydd gorau yn y wlad gan edrych allan ar hyd môr a mynyddoedd Eryri. Gallwch gwrdd â chreaduriaid aruthrol o ledled y byd, gan gynnwys llewpardiaid, pandas coch a theigrod Sumatra.
Mae yna bob amser rhywbeth yn digwydd yma i’ch cadw chi’n brysur. Gallwch wylio arddangosfeydd dyddiol gyda llewod môr California neu adar ysglyfaethus am 12:00 a 15:00. Am rywbeth gwirioneddol unigryw, peidiwch â cholli tŷ’r pili-palod, Papilio Forest, sy’n gartref i fyd bywiog pili-palod trofannol.
- Awgrym da: Ewch i gynefinoedd yr anifeiliaid ar yr amserau a restrwyd am sgyrsiau dyddiol gyda cheidwadwyr am rywogaethau. Mae’n ffordd wych o ddysgu ffeithiau syfrdanol am lewpardiaid eira, suricatiaid a phengwiaid.
- Cyrraedd yno: Mae ein trenau’n rhedeg yn rheolaidd ar hyd llinell Arfordir Gogledd Cymru i Fae Colwyn o Gaergybi, Caer a Manceinion. O’r orsaf, cymrwch dacsi neu fws i fyny’r bryn hyd at gatiau’r sw.
2. Folly Farm Adventure Park and Zoo, Begeli
- Lleoliad: Cilgeti, Sir Benfro
- Gorsaf agosaf: Gorsaf reilffordd Cilgeti
Mae fferm Folly Farm gymaint yn fwy na fferm yn unig. Mae’n sw sydd wedi ennill gwobrau gyda bron 100 o rywogaethau gwahanol. Mae’n gartref i’r unig jiraffod yng Nghymru ac mae’r llwybr cerdded ‘Giraffe Heights’ yn eich galluogi i edrych arnynt wyneb yn wyneb. Cewch weld llewod, sebras a rheinoseros du’r Dwyrain sydd mewn perygl o ddifodiant - mae Fferm Folly yn un o’r saith unig sw sy’n gofalu amdanynt.
Does dim angen becso os yw’r tywydd yn troi. Mae’r parc yn gartref i ffair hynafol dan do mwyaf Ewrop, sy’n cynnwys 18 o reidiau clasur fel ceir bumper, Golden Gallopers ac olwyn Ferris enfawr. Mae yna hefyd ardaloedd chwarae dan do enfawr, sy’n ei gwneud hi’n ddewis perffaith ar gyfer teuluoedd boed glaw neu hindda.
- Awgrym da: Am brofiad bythgofiadwy, archebwch le i fynd y tu ôl i’r llenni i gwrdd â’r anifeiliaid a bwydo sloth neu bengwin hyd yn oed.
- Cyrraedd yno: Ewch ar y trên i orsaf drenau Cilgeti. O’r pwynt hwnnw, mae’n daith 1.5 milltir ar fws neu mewn tacsi.
3. Anglesey Sea Zoo, Brynsiencyn
- Lleoliad: Ynys Môn
- Gorsaf agosaf: Gorsaf reilffordd Llanfairpwll
Os ydych chi’n chwilfrydig am yr hyn sy’n byw o dan y moroedd Cymreig, mae’n rhaid ymweld â’r acwariwm hwn. Mae gan Anglesey Sea Zoo dros 40 o danciau sy’n arddangos y goreuon ymysg bywyd gwyllt morol Prydain, gan gynnwys octopysau, cimychiaid, môr-geffylau a siarcod hyd yn oed.
Cewch weld cadwraeth ar waith yn eu meithrinfa morfeirch a Deorfa Cimychiaid Cymru. Mae’r hwyl yn parhau tu allan gyda’r maes chwarae “Pirate’s Playground’ a’r cychod ‘Gator Swamp boats’. Mae’r holl safle yn hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a gall bawb fwynhau’r hwyl a sbri felly.
- Awgrym da: Ewch mewn amser ar gyfer y sgyrsiau a bwydo dyddiol gan y Biolegwyr er mwyn gweld bywyd morol yn agos a dysgu am yr ymchwil a gynhelir i achub ein moroedd.
- Cyrraedd yno: Teithiwch i orsaf drenau Llanfairpwll a defnyddiwch wasanaeth bws lleol neu dacsi er mwyn cyrraedd yr acwariwm mewn 15 munud.
4. Plantasia Tropical Zoo, Abertawe
- Lleoliad: Parc Tawe, Canol Ddinas Abertawe
- Gorsaf agosaf: Gorsaf reilffordd Abertawe
Camwch drwy goeden enfawr i mewn i fforest glaw trofannol yng nghalon Abertawe. Mae Plantasia yn sw dan do bywiog lle’r gall bobl o bob oedran sy’n frwd am natur archwilio planhigion ac anifeiliaid egsotig yn yr un fan a’r lle.
Byddwch yn cwrdd â chrocodeilod, swricathod, mwncïod a llewpardiaid. Mae dyfodiadau newydd fel Iris y Boa Enfys a nythfa o chwilod haul yn ychwanegu hyd yn oed mwy o fywyd at y jwngl. Mae’n brofiad rhyngweithiol rhagorol lle y gallwch wthio botymau, troi olwynion a gofyn cwestiynau am fioamrywiaeth. Mae hefyd dan do ac felly’n ddewis gwych ar ddiwrnod glawog.
- Awgrym da: Rhowch gynnig ar y gêm, “Jungle Escape” os ydych yn ymweld gyda phobl ifanc yn eu harddegau - mae’n her hwyl a chymdeithasol sy’n ychwanegu bach o ddirgel wrth grwydro drwy’r fforest glaw.
- Cyrraedd yno: Mae’r sw yn daith fer ar droed o orsaf drenau Abertawe sy’n ei gwneud hi’n hynod o hawdd i’w gyrraedd ar y trên.
5. Manor Wildlife Park, Dinbych-y-pysgod
- Lleoliad: St Florence, yn agos at Ddinbych-y-pysgod
- Gorsaf agosaf: Gorsaf reilffordd Dinbych-y-pysgod
Mae’r parc, Manor WiIdlife Park, yn enwog am ei enw fel unig saffari Cymru. Mae ei arddangosfeydd arloesol yn eich galluogi chi i ddod wyneb yn wyneb â sawl un o’i breswylwyr. Gallwch fwydo walabi, rhannu mainc gyda lemur neu gwrdd â chwningod enfawr a defaid Cameroon. Mae gan y parc ffocws cryf ar gadwraeth a llesiant, gan roi mwy o le i’r anifeiliaid symud o gwmpas.
Mwynhewch baned neu pizza wedi’i wneud â llaw, lle y cewch weld llif byw o adar y môr Ynys Sgomer.
- Awgrym da: Cadwch lygaid allan am y profiadau “Mini Keeper” a “Junior Keeper” os oes gennych blant sydd wrth eu boddau ag anifeiliaid - mae’n ffordd ymarferol iddynt ddysgu am ofalu am fywyd gwyllt.
- Cyrraedd yno: Ewch ar y tren i orsaf drenau Dinbych y Pysgod. Mae’r parc tua tri milltir i ffwrdd a gellir cyrraedd yno’n hawdd mewn tacsi.
Cynlluniwch eich antur wyllt heddiw
Y ffordd orau o gynllunio’ch antur i weld yr anifeiliaid anhygoel hyn yw drwy ddefnyddio’n cynllunydd teithiau trên. Rydym yn argymell gwirio manylion eich llwybr cyn ichi adael. Prynwch eich tocynnau’n gynnar ar ein gwefan neu ap i ddod o hyd i’r tocynnau rhataf heb ffioedd archebu.
Lawrlwythwch ap Trafnidiaeth Cymru i wirio diweddariadau byw a chadw’ch tocynnau ar eich ffôn.
Cwestiynau cyffredin
Alla i gael disgownt am daith teulu i’r sw?
Cewch, mae teithiau teulu’n fwy fforddiadwy gyda ni. Gall ddau blentyn dan 16 oed deithio am ddim gyda phob oedolyn sydd â thocyn trên Teulu.
Ydy’r atyniadau hyn yn hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn?
Mae gan nifer o’r lleoliadau hyn, fel Plantasia ac Angelsey Sea Zoo, gyfleusterau hygyrch rhagorol. Os oes angen cymorth arnoch wrth deithio ar y trên, gallwch archebu cymorth arbennig ymlaen llaw. Byddwn ni’n hapus i’ch helpu.
Dylwn i brynu fy nhocynnau yn y sw neu ar-lein?
Mae’r rhan fwyaf o’r parciau’n argymell archebu ar-lein ymlaen llaw. Yn aml, mae’n eich helpu chi i arbed arian gan sicrhau eich bod yn cael mynediad atynt ar ddiwrnodau prysur fel gwyliau banc.
Sut ydw i’n mynd o’r orsaf drenau i’r parc bywyd gwyllt?
Mae’r rhan fwyaf o’r mannau hyn yn daith fer ar fws neu mewn tacsi o’r orsaf TrC agosaf. Galwch wirio llwybrau bws lleol gan ddefnyddio’n cynllunydd teithiau amlddull i wirio’r ffordd orau o orffen eich taith.