Mae Cymru wedi dod yn arweinydd ar lefel fyd-eang yn y byd bwyd. Mae’r ‘Michelin Guide 2026’ yn rhestru saith bwyty sydd â sêr Michelin gan gynnwys y bwyty enwog, Ynyshir, sef yr unig fwyty yn y genedl â dwy seren.
Rydyn ni wedi dethol y tri man gorau y dylai pob person sy’n dwlu ar fwyd ymweld â nhw. Nid yw’r bwytai hyn yn gweini bwyd yn unig, maent yn rhoi profiad bythgofiadwy a fydd yn aros gyda chi am amser hir iawn.
Trwy ddewis teithio ar y trên, gallwch ffocysu ar y blasau a’r cwmni heb fecso am yrru adref. Mae’n ffordd gadarnhaol o deithio sy’n dda i’r blaned ac sy’n berffaith ar gyfer dathliad arbennig, hefyd.
Beth yn gwmws yw seren Michelin?
Y seren Michelin yw’r bathodyn anrhydedd o fewn y byd bwyd. Bydd arolygwyr anhysbys yn ymweld â’r bwyty sawl tro i’w beirniadu’n seiliedig ar feini prawf llym: safon y cynhwysion, meistrolaeth blas a thechneg, personoliaeth y cogydd yn y bwyd, gwerth am arian, a chysondeb.
Mae hyn yn cynrychioli mwy na bwyd da yn unig:
- Un seren Michelin: Coginio o ansawdd uchel
- Dwy seren Michelin: Coginio rhagorol
- Tair seren Michelin: Coginio aruthrol
Ein tri bwyty Michelin gorau
1. Ynyshir, Eglwys Fach
- Lleoliad: Yn agos i Fachynlleth, Canolbarth Cymru
- Gorsaf agosaf: Gorsaf reilffordd Machynlleth
- Statws: Dwy seren Michelin
Mae Ynyshir yn gyrchfan o’r radd flaenaf sydd â dwy seren Michelin ers 2022. Yn rhannol fwyty ac yn rhannol rêf bwyd, mae’r perchennog a chogydd Gareth Ward wedi creu rhywbeth hollol unigryw yma. Lleolir mewn tŷ du ar ymyl Biosffer Dyfi UNESCO ac yma ceir teimlad llawn egni gyda cherddoriaeth fyw a chegin agored lle y gellir gwylio’r tîm wrthi’n gweithio â chywirdeb milwrol.
Beth sy’n ei gwneud hi’n unigryw?
Mae bwydlen blasu 30 cwrs Gareth Ward yn brofiad “fire, fat, and funk” dros 5 awr. Mae e’n cyfuno cynnyrch o’r radd flaenaf, fel cig eidion Wagyu Cymreig wedi’i aeddfedu am 300 diwrnod a thiwna asgell las o Japan gyda’i blas cryf, byd eang. Does dim rheolau, iwnifform, na switsio. Dim ond ymgyrch ddi-baid i greu’r bwyd mwyaf blasus posib.
- Cyrraedd yno: O orsaf drenau Machynlleth, mae’n daith 10 munud mewn tacsi.
2. Gorse, Caerdydd
- Lleoliad: Pontcanna, Caerdydd
- Gorsaf agosaf: Gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog
- Statws: Un seren Michelin
Gwnaeth Gorse greu argraff sylweddol yn 2025 drwy ddod yn fwyty cyntaf Caerdydd i dderbyn seren Michelin. Gyda phrofiad o weithio mewn rhai o fwytai gorau'r DU, mae’r perchennog a chogydd Tom Waters yn dod ag ystod o brofiad i gymuned glos Pontcanna. Gyda chegin agored lle bo’r cogyddion yn eich cyfarch ac yn gweini arnoch yn bersonol, ethos y bwyty yw ‘symlrwydd wedi’i wneud yn dda.’
Beth sy’n ei gwneud hi’n unigryw?
Mae’r bwyty yn llythyr cariad i’r pantri Cymreig. Mae Tom yn gweithio’n agos gyda physgotwyr, ffermwyr ac artisaniaid lleol ar gyfer cynhwysion fel cig oen ‘Gower salt marsh’, gwymon o Gymru, a bwyd môr ffres. Mae ei goginio’n adlewyrchu rheolaeth aruthrol, wrth iddo adael i flasau naturiol y cynhwysion hawlio’r sylw mewn prydau sydd wedi’u paratoi mewn ffordd ysbrydoledig.
- Cyrraedd yno: Gellir cerdded yno’n hawdd neu gymryd bws o orsaf drenau Caerdydd Canolog neu Heol y Frenhines.
3. Home by James Sommerin, Penarth
- Lleoliad: Penarth, yn agos i Gaerdydd
- Gorsaf agosaf: Gorsaf reilffordd Penarth
- Statws: Un seren Michelin
Teulu sydd wrth wraidd Home. Mae’r Cogydd, James Sommerin, yn gweithio yn y gegin agored ochr yn ochr â’i ferched Georgia, Angharad ac Elin, ac mae ei wraig, Louise, yn arwain y tîm gweini. Mae’r profiad yn dechrau wrth y drws ffrynt, lle, wedi ichi ganu cloch, y byddwch yn cael eich croesawu i mewn i ystafell dywyll theatraidd gyda byrddau steil cabare.
Beth sy’n ei gwneud hi’n unigryw?
Mae’r fwydlen wyth cwrs “sypreis” yn newid bob pum wythnos ac mae’n dibynnu ar y cynnyrch Cymreig gorau. Mae’n bosib y byddant wedi creu rhywbeth arloesol megis cerigach y gellir eu bwyta neu eu ravioli enwog sydd â hylif pys a fydd yn ffrwydro yn y geg. Mae’n brofiad cynnes a phersonol sy’n creu’r teimlad o ymweld â’r Teulu Sommerin yn eu hystafell fwyta gartref.
- Cyrraedd yno: Mae’r bwyty yng nghalon y dre glanmor, sy’n pum munud ar droed o orsaf drenau Penarth.
Cynlluniwch eich taith gastronomegol heddiw
Mae dod o hyd i’r bwytai o’r radd flaenaf hyn yn hawdd gyda’n cynllunydd teithiau trên. Rydyn ni’n argymell gwirio diweddariadau byw cyn ichi adael y tŷ. Prynwch eich tocynnau’n gynnar ar ein gwefan neu ap i ddod o hyd i’r prisiau gorau heb ffioedd archebu.
Lawrlwythwch ap TrC i wirio diweddariadau byw a storio’ch tocynnau’n ddiogel ar eich ffôn.
Cwestiynau cyffredin
Pa mor hir ydy bwydlen blasu Michelin fel arfer yn cymryd?
Gall sawl profiad mewn bwyty seren Michelin gymryd pedair i bum awr. Mae’n noson llawn adloniant felly sicrhewch eich bod gennych ddigon o amser.
Oes angen imi wisgo i fyny am y bwytai hyn?
Mae’n amrywio. Y peth gorau i’w wneud yw gwirio ar wefan y bwyty am eu cod gwisg benodol.
Beth os oes gen i ofynion deietegol?
Gall y rhan fwyaf o fwytai Michelin, gan gynnwys Home, wasanaethu anghenion deiet penodol os ydych yn rhoi gwybod iddynt ymhell ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae gan rai lleoliadau fel Ynyshir polisi ‘dim switsio’ oherwydd natur cymhleth eu bwydlen 30 cwrs, felly gwiriwch ymlaen llaw.
Pa mor gynnar ddylwn i archebu bord?
Rydyn ni’n argymell archebu o leiaf dau i dri mis ymlaen llaw ar gyfer y mannau gorau hyn. Ar gyfer Ynyshir, mae’n rhaid archebu bord dau fid ymlaen llaw ar yr hwyraf ac mae’n gwerthu allan yn gyflym.