Gwyliau bwyd y cynhaeaf yng Nghymru
Mae Cymru yn tyfu ac yn cynhyrchu bwyd anhygoel, fel cig oen morfa heli, Tatws Cynnar Sir Benfro, caws Perl Wen a bara lawr. Yn ystod yr hydref, bydd llawer o’r bwydydd hyn yn dod i wyliau a marchnadoedd.
Prynwch eich tocynnau trên yn gynnar i gael y prisiau gorau a chynllunio eich taith cyn dechrau.
Dyma rai o’n hoff ddigwyddiadau, y mae modd eu cyrraedd ar drenau TrC.
1. Gŵyl Fwyd y Fenni
Mae Gŵyl Fwyd y Fenni yn un o’r digwyddiadau bwyd enwocaf yn y DU, gan ddenu cogyddion, cynhyrchwyr ac ysgrifenwyr bwyd o bob cwr o Brydain a thu hwnt i’r dref farchnad fach ar odre Bannau Brycheiniog.
Cynhelir yr ŵyl bob mis Medi, ac mae’n llenwi tir y castell, neuadd y farchnad, ysgubor ddegwm a’r strydoedd cyfagos gydag arddangosfeydd coginio, sesiynau blasu, sgyrsiau a bwyd stryd. Daw cynhyrchwyr o bob cwr o Gymru a’r Gororau. Mae’r ansawdd yn ardderchog.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf y Fenni ar reilffordd y Gororau. Dim ond tua 45 munud mae trenau o Gaerdydd yn ei gymryd. Mae’r orsaf o fewn pellter cerdded byr i safle’r ŵyl.
2. Sîn bwyd stryd a marchnadoedd Caerdydd
Mae’n werth archwilio marchnadoedd Caerdydd yn yr hydref. Mae marchnad Caerdydd ar Heol Eglwys Fair yn un o’r marchnadoedd hynaf yng Nghymru. Ar fore Sul, mae Marchnad Fwyd Glan-yr-Afon yn denu rhai o’r cynhyrchwyr gorau o bob cwr o Fro Morgannwg a thu hwnt. Yn ystod tymor yr hydref, ceir cynnyrch tymhorol Cymreig fel madarch gwyllt, sgwash, helgig a ffrwythau'r berllan.
Sut i gyrraedd yno: Mae’n daith gerdded fer i’r marchnadoedd o orsaf Caerdydd Canolog.
3. Bwyd a diod Llandeilo
Tref farchnad fach, olygus yn Nyffryn Tywi yw Llandeilo, ac mae’n adnabyddus am y bwyd. Mae gan y dref ddelis, cigyddion, becwsys a bwytai annibynnol anhygoel sy’n adlewyrchu ansawdd y ffermio yn yr ardal wledig gyfagos. Mae sawl cynhyrchydd yn yr ardal yn cynnal digwyddiadau fferm agored a swperau cynaeafu yn ystod tymor yr hydref. Cadwch lygad ar restrau lleol ar gyfer digwyddiadau yn y dref ac o’i chwmpas bob blwyddyn.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Llandeilo ar reilffordd Calon Cymru o Abertawe, gyda'r daith yn cymryd tua 40 munud. Mae’n un o’r rheilffyrdd gwledig mwyaf prydferth ym Mhrydain. Mae lliwiau’r hydref ar hyd Dyffryn Tywi yn gwneud y daith yn werth chweil ynddi’i hun.
4. Gŵyl Fwyd Llwydlo
Ym mis Medi, ychydig dros y ffin yn Swydd Amwythig, mae Gŵyl Fwyd Llwydlo yn un o’r digwyddiadau bwyd gorau ym Mhrydain. Mae’r dref farchnad ganoloesol yn llawn cynhyrchwyr o bob rhan o’r rhanbarth, gan gynnwys llawer o Ganolbarth a Gogledd Cymru. Mae tir y castell yn un o’r lleoliadau mwyaf atmosfferig ar gyfer unrhyw ddigwyddiad bwyd yn unrhyw le.
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Llwydlo ar reilffordd y Gororau, gyda gwasanaethau TrC o Gaerdydd yn cymryd tua dwy awr a theithiau o Amwythig yn cymryd tua 30 munud.
5. Cynnyrch hydrefol Sir Benfro
Mae Sir Benfro yn fwyaf adnabyddus am ei thatws cynnar a chynnyrch yr haf, ond daw’r hydref â’i wobrau ei hun. Crancod a chimychiaid lleol, madarch gwyllt o’r coed derw o amgylch Arberth a Bryniau Preseli, a helgig o ystadau’r sir. Mae nifer o siopau fferm a chynhyrchwyr lleol yn cynnal digwyddiadau tymhorol a diwrnodau agored cynaeafu ym mis Hydref. Mae marchnad dan do Dinbych-y-pysgod yn fan cychwyn da ar gyfer dod o hyd i gynnyrch lleol. Mae’r dref yn hardd yn yr hydref (ac yn dawelach hefyd).
Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Dinbych-y-pysgod ar reilffordd Doc Penfro o Abertawe. Mae’r daith o Gaerdydd yn cymryd tua dwy awr.