Mae Cymru’n fan perffaith ar gyfer taith diwrnod llawn hwyl a sbri gyda’ch hoff bobl. Yma yng Nghymru, mae gennym ni’r cyfan oll o reid rolio sy’n gwneud i’r galon curo a gwifrenni sip o’r radd flaenaf i ffeiriau traddodiadol hen ffasiwn a pharciau antur ecogyfeillgar. P’un a ydych yn chwilio am wefr neu’n dymuno diwrnod o hwyl gyda’r plant, mae yna rywbeth i bawb.

Rydyn ni’n dymuno’ch helpu chi i deithio mewn ffyrdd sy’n dda i’r blaned ac sy’n dda i fywyd real.

Mae dewis y trên neu’r bws ar gyfer eich diwrnod allan yn ffordd glyfar o osgoi’r traffig a’r straen o ddod o hyd i le parcio. Mae’n ffordd gadarnhaol o deithio sy’n galluogi’r hwyl i ddechrau unwaith ichi adael y tŷ.

 

Ein hoff barciau thema ac antur

1. Heatherton World of Activities, Dinbych-y-pysgod

  • Lleoliad: St Florence, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
  • Gorsaf agosaf: Dinbych-y-pysgod
  • Atyniad gorau: The Adrenaline Zone
  • Oedran: Pob oedran (o fabanod yn y ‘Play Zone’ i oedolion yn yr ‘Adrenaline Zone’)
  • Pris: Mynediad am ddim; mae pris pas "Talu wrth Chwarae" yn dechrau o tua £21.45 (am 6 chredyd)

Mae Heatherton yn atyniad unigryw, sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n gweithredu ar sail, “talu wrth chwarae”. Mae hyn yn meddwl eich bod chi’n talu am y gweithgareddau yr ydych yn dymuno eu gwneud yn unig. Mae wedi’i rannu i mewn i bedwar parth llawn cyffro: “Family Fun Zone”, “Adrenaline Zone”, “Play Zone”, a’r “Golf Zone”. P’un a ydych yn gwibio o gwmpas trac go-cart 500m, yn mynd i’r afael â’r rhaffau uchel ar y llwybr ‘Tree Tops Trail’, neu’n rhoi cynnig ar saethu clai laser, mae yna rywbeth yma i bawb. Gyda chwrs cystadlu i gŵn hefyd, mae yna groeso cynnes iddyn nhw hefyd!

  • Cyrraedd yno: Mae’r parc tua thair milltir o orsaf drenau Dinbych-y-pysgod sy’n un awr ar droed. Gallwch hefyd ddal tacsi o’r orsaf neu ddefnyddio’r gwasanaeth bysys fflecsi a ellir archebu ymlaen llaw er mwyn eich cludo chi’n union i fynedfa Heatherton.

 

2. Pleasure Park, Ynys y Barri

  • Lleoliad: Ynys Y Bari, De Cymru
  • Gorsaf agosaf: Ynys Y Bari
  • Atyniad gorau: The Aerospace
  • Oedran: Teuluoedd a phlant o bob oedran
  • Pris: Mynediad am ddim i’r parc. Talwch am bob reid gan ddefnyddio tocynnau

Am ddiwrnod ar lan y môr clasur Cymreig, mae Ynys y Barri ymysg y goreuon. Mae’r ‘Pleasure Park’ yn barc adloniant hanesyddol sydd ger y traeth ac sy’n enwog am ei ffair. Am y mwyafrif helaeth ohonom, mae’n daith atgofus sydd o hyd â digonedd o wefrau cyfoes. Mae’r parc yn union cyferbyn â’r orsaf, sy’n ei gwneud hi’n un o’r diwrnodau allan hawsaf ar ein rhwydwaith.

  • Cyrraedd yno: Rydyn ni’n rhedeg gwasanaethau rheolaidd o orsaf drenau Caerdydd Canolog, sy’n cymryd tua 30 munud i gyrraedd yr ynys.

 

3. GreenWood Family Park, Y Felinheli

  • Lleoliad: Y Felinheli, Gogledd Cymru
  • Gorsaf agosaf: Bangor
  • Atyniad gorau: Green Dragon Rollercoaster
  • Oedran: Plant oedran ysgol gynradd a theuluoedd
  • Pris: Tocynnau oedolion o tua £20 (yn dibynnu ar y tymor)

Mae GreenWood yn barc antur unigryw gyda chymwysterau gwyrdd sy’n ein gwneud ni’n hynod o falch. Mae’n gartref i’r unig rollercoaster wedi’i bweru gan bobl y byd ac unig reid ddŵr solar y DU. Mae’n ffordd wych i blant ddysgu am gynaliadwyedd a chael hwyl ar yr un pryd. Lleolir y parc mewn 27 erw o goedir wrth odre Eryri.

  • Cyrraedd yno: Ewch ar y trên o orsaf drenau Bangor. O’r man hwnnw, gallwch neidio ar fws lleol tuag at Gaernarfon sy’n daith fer at fynedfa’r parc.

 

4. Zip World Llechwedd, Blaenau Ffestiniog

  • Lleoliad: Blaenau Ffestiniog
  • Gorsaf agosaf: Blaenau Ffestiniog
  • Atyniad gorau: Titan 2
  • Oedran: 7 oed a mwy (cyfyngiadau taldra a phwysau’n berthnasol)
  • Pris: O £13 y person

Os ydych yn dymuno gwefr ychydig yn wahanol, mae Zip World yn enwog am eu hanturiaethau o’r radd flaenaf. Yn yr Ogofau Llechi, gallwch roi cynnig at “Bounce Below,” sy’n antur rhwydi tanddaearol enfawr mewn ogof sy’n ddwywaith maint Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Mae’n amgylchedd agored a chynhwysol i’r rheini sy’n chwilio am her unigryw.

 

5. Folly Farm Adventure Park and Zoo, Begeli

  • Lleoliad: Cilgeti, Sir Benfro
  • Gorsaf agosaf: Cilgeti
  • Atyniad gorau: Ffair hynafol
  • Oedran: Babanod a theuluoedd ifanc
  • Pris: Tocynnau oedolion o tua £25

Mae fferm Folly Farm yn cynnig pedwar atyniad mawr gyda’r cyfan oll mewn un man, gan gynnwys sw o’r radd flaenaf a hen ffair dan do enfawr. Gallwch fwynhau’r carwselau clasur, “Golden Gallopers” neu roi cynnig ar y dodgems. Mae’n ddewis gwych am hwyl boed glaw neu hindda gan fod llawer ohono wedi’i gysgodi.

  • Cyrraedd yno: Ewch ar y trên i orsaf drenau Cilgeti. O’r man hwnnw, mae’n daith 1.5 milltir mewn tacsi neu drên i fynedfa’r parc.

 

Cynlluniwch eich taith wefreiddiol heddiw

Mae’r cynllunydd teithiau trên yn ffordd hawdd o ddod o hyd i’r ffordd orau o deithiau i’r parciau hyn. Rydyn ni’n argymell gwirio diweddariadau byw cyn ichi adael y tŷ. Prynwch eich tocynnau’n gynnar ar ein gwefan neu ap i ddod o hyd i’r prisiau gorau heb ffioedd archebu. Nid ydym yn codi pris am archebu tocynnau.

Lawrlwythwch ap TrC i wirio diweddariadau byw a storio’ch tocynnau’n ddiogel ar eich ffôn.

 

Cwestiynau cyffredin

A oes loceri ar gyfer fy magiau yn y parciau hyn ?

Mae’r rhan fwyaf o barciau mawr yn darparu loceri am ffi fechan. Mae’n syniad da i deithio heb ormod o fagiau wrth ddefnyddio’r trên er mwyn gwneud eich taith yn fwy esmwyth.

Alla i gael gostyngiad grŵp os ydw i’n teithio fel grŵp mawr o ffrindiau?

Gelli. Os ydych yn teithio mewn grŵp o dri neu fwy, gallwch arbed tua un traean oddi ar bris eich tocyn gyda’n tocynnau grŵp. Cofiwch fod yn rhaid ichi gyd deithio a’ch gilydd er mwyn i’r gostyngiad fod yn ddilys.

Ydy’r parciau hyn ar agor drwy’r flwyddyn?

Mae nifer o barciau thema Cymru fel ‘Pleasure Park’ Ynys  y Barri yn dymhorol ac mae’n bosib felly eu bod ar agor yn ystod tymor yr haf neu wyliau ysgol yn unig. Gwiriwch ar wefan swyddogol y parc am eu hamserau agor diweddaraf cyn ichi archebu’ch tocynnau.

Sut ydw i’n cyrraedd Zip World heb gar?

Mae gan safleoedd Zip World gwahanol gysylltiadau gwahanol. Mae Ogofau Llechi Zip World yn agos at Flaenau Ffestiniog sy’n ei gwneud hi’n hawdd ei chyrraedd ar drên. Am safleoedd gwahanol, gallwch fynd ar fws neu dacsi p’r orsaf TrC agosaf. Defnyddiwch ein cynllunydd teithiau trên i weld yr holl opsiynau.