Ein pum taith gerdded orau yn yr hydref yng Nghymru

Mae’r hydref yn adeg berffaith o’r flwyddyn i fwynhau mynd am dro yng Nghymru. Mae tyrfaoedd yr haf wedi mynd, mae’r golau’n troi’n euraidd ac mae lliwiau’r bryniau a’r dyffrynnoedd yn syfrdanol. Gallwch fynd ar drên TrC i gyrraedd man cychwyn y pum taith gerdded yma. Mae pob un yn ennill ei lle ar y rhestr.

Cynlluniwch eich taith cyn cychwyn a gwirio’r tywydd yn gyntaf bob amser.

1. Pen-y-fâl, y Fenni

Mae Pen-y-fâl yn codi i 596 metr uwchben tref farchnad y Fenni ac mae’n un o’r ‘dringfeydd byr’ mwyaf gwerth chweil ym Mannau Brycheiniog i gyd.

Mae’r llwybr o’r maes parcio ym Mynydd Llanwenarth tua 3.5 milltir – tua dwy awr ar gyflymder cyfforddus – gyda golygfeydd dramatig ar draws Dyffryn Wysg a’r Mynydd Du. Mae’r rhain ar eu gorau ar fore ffres ym mis Hydref pan fydd y dyffryn wedi’i beintio’n lliwiau’r hydref.

Mae’r Fenni ei hun yn lle hyfryd i grwydro cyn neu ar ôl y daith gerdded, gyda marchnad wych, caffis annibynnol ac olion trawiadol Castell y Fenni.

Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf y Fenni ar reilffordd y Gororau o Gaerdydd i Fanceinion. Dim ond tua 45 munud mae trenau o Gaerdydd yn ei gymryd.

2. Coedwig Gwydir, Llanrwst

Mae Coedwig Gwydir yn amgylchynu tref hardd Dyffryn Conwy yn Llanrwst ac yn gorchuddio llethrau isaf y mynyddoedd ar y naill ochr a’r llall i’r afon. Yn yr hydref, mae’r gymysgedd o dderw, ffawydd a llarwydd yn troi’r goedwig yn glytwaith o liwiau ambr, aur a choch. Mae’r llwybrau sydd wedi’u marcio yn amrywio o deithiau cerdded hamddenol ar lan yr afon i lwybrau hirach sy’n dringo i rostir agored uwchben y coedlin.

Mae Llanrwst yn gartref i Tu Hwnt i’r Bont, y tŷ te bwthyn carreg eiconig o’r 15fed ganrif ar y bont dros Afon Conwy. Dyma un o’r adeiladau sydd â’r mwyaf o luniau wedi’u tynnu ohono yng Nghymru ac mae’n arbennig o hardd pan fydd y coed cyfagos yn troi.

Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Llanrwst ar reilffordd Dyffryn Conwy. Mae trenau o Gyffordd Llandudno yn cymryd tua 30 munud.

3. Cwm Nedd a Rhaeadr Aberdulais

Mae rhan isaf Cwm Nedd yn ysblennydd yn yr hydref, ac mae’r rhaeadr yn Aberdulais yn gyrchfan wych unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae coetir y ceunant uwchben y rhaeadr yn drawiadol iawn ym mis Hydref, pan fydd y coed ffawydd uwchben y dŵr garw yn troi’n gopr ac yn aur. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rheoli’r rhaeadr ac mae’n werth talu’r ffi mynediad.

O Gastell-nedd, mae Camlesi Tennant a Chastell-nedd hefyd yn cynnig teithiau cerdded hawdd a gwastad drwy goetiroedd a chefn gwlad sy’n dod yn fyw yn ystod yr hydref.

Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Castell-nedd ar y brif reilffordd o Gaerdydd, gyda'r daith yn cymryd tua 35 munud.

4. Coedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin

Mae Coedwig Brechfa yn un o’r corneli yng Nghymru lle nad oes cymaint o bobl yn ymweld â hi, sy’n ei gwneud yn fwy gwerth chweil fyth pan fyddwch yn gwneud yr ymdrech i gyrraedd yno. Mae llwybrau Coedwigaeth Cymru yn arwain drwy goetir derw hynafol a choedwig fasnachol, gan ddilyn nentydd a chroesi tir agored gyda golygfeydd hir ar draws Dyffryn Cothi. Mae’r goedwig yn arbennig o hardd ganol neu ddiwedd mis Hydref pan fydd y coed llydanddail brodorol ar eu hanterth.

Sut i gyrraedd yno: Yr orsaf Trafnidiaeth Cymru agosaf yw Caerfyrddin, lle mae gwasanaethau bws lleol yn mynd i gyfeiriad pentref Brechfa. Mae Caerfyrddin oddeutu awr a chwarter o Gaerdydd Canolog, gyda gwasanaethau uniongyrchol rheolaidd.

5. Crib Mynydd Conwy, Conwy

Ar gyfer taith gerdded fer ond gwefreiddiol gyda golygfeydd a fydd yn aros yn y cof, mae’n anodd curo cylchdaith Mynydd Conwy.

Mae’r llwybr yn dechrau yn nhref Conwy ei hun, ac yn dringo’n serth at y grib uwchben y dref. Yna mae’n ei dilyn i’r gorllewin at y fryngaer hynafol ym Mhen y Gaer, gyda golygfeydd panoramig ar draws aber afon Conwy, mynyddoedd Eryri i’r de a’r môr i’r gogledd.

Mae’r cylch cyfan yn cymryd tua thair awr ac yn gorffen yn ôl yng Nghonwy, ac mae mwynhau powlen o gawl yn un o gaffis y dref yn ffordd ddelfrydol o ddod â’r diwrnod i ben.

Sut i gyrraedd yno: Mae gorsaf Conwy ar Brif Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, gyda threnau o Gyffordd Llandudno yn cymryd tua phum munud, a thua awr o Gaer.