Ein canllaw ar gyfer y llwyfannau a’r sioeau gorau ar draws y wlad.

Mae gan Gymru hanes cyfoethog o adrodd straeon sydd wedi bodoli ers canrifoedd. P’un a ydych yn chwilio am sioe gerdd yn y West End, drama gyffrous newydd, neu berfformiad yn y Gymraeg, mae yna sedd yma ichi.

Rydyn ni wedi creu rhestr o theatrau yng Nghymru sy’n hawdd eu cyrraedd ar y trên.

 

Prif theatrau yng Nghymru

Os ydych chi’n chwilio am gynyrchiadau enwog a chyfleusterau o’r radd flaenaf, dyma rai o’r theatrau mwyaf eiconig yng Nghymru:

1. Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

Yn un o’r theatrau gorau yn y byd, mae’r lleoliad prydferth hwn gyda’i do gopr yn drysor i Fae Caerdydd. Mae’n cynnal pob dim o Opera Cenedlaethol Cymru, i sioeau enfawr Broadway a’r West End, fel Wicked a Les Misérables. Mae’r adeilad ei hun yn gelf waith, sy’n cynnwys arysgrifau gan y bardd Cymreig, Gwyneth Lewis, sy’n goleuo’n brydferth gyda’r nos.

Sut i gyrraedd: Mae’n daith fer ar droed o orsaf drenau Bae Caerdydd. Gallwch gyrraedd y Bae drwy ddal trên o orsaf drenau Caerdydd Heol y Frenhines.

2. Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

Dyma theatr gynhyrchu fwyaf Cymru sy’n cynnal sioeau ac sydd hefyd yn creu straeon rhyfeddol yn union ar y safle yn eu gweithdai a’u hystafelloedd ymarfer. Lleolir ar fryn yn edrych dros dref Yr Wyddgrug, mae’n cynnig rhaglen amrywiol, o ddramâu cyfoes cyffrous i’w bantomeim roc-a-rôl enwog, sy’n digwydd bob blwyddyn.

Sut i gyrraedd: Gallwch gyrraedd y theatr drwy gysylltiad bws byr o orsaf drenau’r Fflint neu Bwcle. Os ydych yn cyrraedd o ymhellach i ffwrdd, mae gan y gorsafoedd hyn wasanaethau rheolaidd o Gaer a Chaergybi.

3. Theatr y Grand, Abertawe

Mae’r lleoliad prydferth, hanesyddol hwn wedi bod yng nghalon sin celfyddydau’r ddinas ers 1897. Mae’n cynnig cymysgedd rhagorol o hiraeth ac adloniant cyfoes, o sioeau comedi stand-yp a cherddoriaeth fyw i ddramâu clasur. Mae’r ‘Arts Wing’ hefyd yn fan ardderchog ar gyfer perfformiadau bach, personol ac arddangosfeydd lleol.

Sut i gyrraedd: Gellir ei chyrraedd o orsaf drenau Abertawe yn hawdd ar droed. Dilynwch yr arwyddion drwy ganol y ddinas a lleolir tua deng munud ar droed o’r platfform.

4. Venue Cymru, Llandudno

Wedi’i lleoli ar bromenâd eiconig Llandudno, mae’r theatr a’r arena fawr hwn yn gyrchfan adloniant gwych i ogledd Cymru. Dyma le i fynd am brif berfformiadau ar daith, sioeau cerdd sydd â chyllid mawr, a hyd yn oed cystadlaethau snwcer proffesiynol. Gyda môr yr Iwerddon yn y cefndir, mae’n un o’r mannau mwyaf prydferth yn y DU i weld sioe.

Sut i gyrraedd: Mae’n daith gerdded hamddenol, pleserus o orsaf drenau Llandudno. Ewch tuag at y môr a mwynhewch yr awyr iach wrth ichi gerdded ar hyd y promenâd tuag at y theatr.

 

Lleoliadau hanesyddol a chymunedol

Weithiau mae’r profiadau mwyaf hudol yn digwydd yn y mannau llai, sy’n fwy personol. Dyma restr o theatrau yng Nghymru sy’n cynnig rhywbeth sydd bach yn wahanol:

  • Theatr y Sherman, Caerdydd: Wedi’i lleoli yng nghalon y ddinas, mae’r Sherman yn ffocysu ar fagu talent newydd a chynhyrchu gwaith sy’n eich annog chi i feddwl drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Theatr Torch, Aberdaugleddau: Yn ganolfan gelfyddydau fywiog yn Sir Benfro sy’n cynhyrchu ei sioeau ei hun ac sy’n dangos y ffilmiau diweddaraf. Mae’n daith gerdded fer o orsaf drenau Aberdaugleddau.
  • Theatr Savoy, Trefynwy: Yn sefyll ar safle’r theatr hynaf yng Nghymru I weithredu, mae’r lleoliad hwn yn llawn cymeriad a hanes.
  • Theatr Newydd, Caerdydd: Wedi’i lleoli yng nghanol y ddinas, mae’r lleoliad rhestredig gradd 2 hwn wedi bod yn fan poblogaidd ar gyfer sioeau cerdd, ballet, drama, comedi, a phantomeim ers dros 100 o flynyddoedd.

 

Theatr yng Nghymru ar y trên

Rydyn ni am ichi brofi theatr yng Nghymru yn y ffordd hawsaf bosib. Drwy ddewis y trên, gallwch ddechrau’ch noson yn gynnar ac osgoi’r straen o barcio yng nghanol y ddinas.

Cynlluniwch eich taith

 

Cwestiynau cyffredin
A oes unrhyw theatrau cyfrwng y Gymraeg yng Nghymru?

Oes, mae cael theatrau sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan hanfodol o’n diwylliant. Mae sawl lleoliad, fel Theatr y Sherman a Theatr Clwyd, yn cynhyrchu gwaith yn y Gymraeg. Mae Theatr Genedlaethol Cymru hefyd yn creu cynyrchiadau dwyieithog sy’n teithio o gwmpas yr holl wlad.

Pa un yw’r theatr fwyaf yng Nghymru?

Canolfan y Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd yw’n lleoliad mwyaf a mwyaf enwog. Ei brif adeilad, sef Theatr Donald Gordon, yw’r ail lwyfan fwyaf yn Ewrop.

Alla i gael gostyngiad ar gyfer teithio i’r theatr?

Er nad ydym yn cynnig tocynnau theatr penodol, gallwch arbed arian ar eich taith drwy archebu ymlaen llaw neu drwy ddefnyddio cerdyn rheilffordd. Os ydych chi’n teithio mewn grŵp o 3 i 9 person, mae’n bosib y byddwch yn elwa o’n Tocynnau Diwrnod i Grwpiau Bach.

Ydy theatrau yng Nghymru yn hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn?

Mae gan y rhan fwyaf o theatrau cyfoes sydd wedi’u hadnewyddu yng Nghymru, fel Theatr Torch a Chanolfan Mileniwm Cymru, gyfleusterau hygyrchedd gwych. Mae’r rhain yn cynnwys mannau ar gyfer cadeiriau olwyn, lifftiau, a systemau clyw isgoch/ Rydyn ni’n argymell gwirio gwefan y lleoliad cyn ichi archebu er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â’ch anghenion penodol.

Ble alla i weld pantomeim yng Nghymru?

Mae’r pantomeim yn draddodiad enfawr yma! Mae’r rhan fwyaf o theatrau mawr, gan gynnwys Theatr Newydd yng Nghaerdydd, Theatr y Grand, Abertawe, a Theatr Clwyd, yn cynnal pantomeimiau rhyfeddol bob Nadolig. Sicrhewch eich bod yn archebu tocynnau’n gynnar gan eu bod nhw’n boblogaidd iawn.