P’un ai byw’n lleol neu ond yn ymweld fyddwch chi, mae ymweliad â Siôn Corn - neu Santa i rai - yn hollol angenrheidiol i fynd i ysbryd y Nadolig. Diolch byth, mae digon o lefydd i gwrdd â’r dyn ei hun cyn Dydd Nadolig i gael blas ar ychydig o hyd a lledrith yr ŵyl.

Dysgwch fwy am rai o’n hoff lefydd i ymweld â Siôn Corn yng Nghymru. Cofiwch fod ar y ‘rhestr plant da’ a theithio’n amgylcheddol gyfeillgar drwy adael y car gartre’. Prynwch docynnau trên  i deithio’r mis Rhagfyr hwn.

 

Siôn Corn yn y Gogledd

Dyma rai o’r llefydd gorau i fynd i weld Siôn Corn yng Ngogledd Cymru:

  • Caban y Carw - Am ymweliad hollol hudolus â Siôn Corn, ewch i Gaban y Carw yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Mae yno oleuadau Nadolig, ceirw ac ogof Siôn Corn. Am drenau, mae gorsaf Bwcle ond rai milltiroedd i ffwrdd
  • Ogof Dŵr Zip World - dewch i weld Siôn Corn a’i goblynnod ar fynydd Rhigos Zip World i greu bôbyls, anrheg gan Siôn Corn a mwy. Yr orsaf agosaf yw Aberdâr, ychydig filltiroedd i ffwrdd
  • Parc Fferm Manorafon - dewch i gael gwybod ydych chi’n ar y rhestr dda neu ddrwg yn ogof Siôn Corn ac i gwrdd â Siôn a’r coblynnod, addurno bisgedi sunsur, a mwy. Wedi’i leoli o fewn waliau Castell Gwrych, ychydig dros filltir o orsaf Abergele

 

Siôn Corn yn y De

Dyma rai o’r llefydd gorau i fynd i weld Siôn Corn yn Ne Cymru:

  • Castell Caerdydd - galwch mewn i Gastell hanesyddol Caerdydd i weld addurniadau hyfryd a Siôn Corn a dweud beth hoffech chi ei gael y Nadolig hwn. Cymrwch y trên i Gaerdydd Canolog neu Gaerdydd Heol y Frenhines, yna chwarter awr o gerdded
  • Fferm Antur Cantref - Galwch mewn i’r ystafell anrhegion i weld y coblynnod a’r dyn ei hun a rhai anifeiliaid - mynd ar fws fyddai orau
  • Rheilffordd Fynydd Aberhonddu - Daliwch Drên Pegwn y Gogledd i weld Siôn Corn ar Reilffordd Fynydd Aberhonddu. Yr orsaf agosaf yw Merthyr Tudful am daith rwydd

Cynlluniwch eich siwrne i weld Siôn Corn yng Nghymru heddiw a phrynu tocynnau’n uniongyrchol i osgoi unrhyw ffi weinyddol.