Mae mynd ar y trên o Amwythig i Gwmbrân yn ffordd brydferth a syml o deithio ar draws Gororau Cymru. P'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith, yn ymweld â ffrindiau a theulu neu'n archwilio Cymru, mae ein trenau'n cynnig taith esmwyth a chyfforddus.
Mae ein gwasanaethau o Amwythig i Gwmbrân yn cynnwys seddi eang, Wi-Fi am ddim ar y trên a mynediad heb risiau mewn gorsafoedd allweddol. Gyda thua 30 o wasanaethau bob dydd a phrisiau gwerth rhagorol am arian, nid yw teithio i Gwmbrân erioed wedi bod yn haws.
Prynwch eich tocynnau trên ar-lein gan ddefnyddio ein cynllunydd teithiau neu ap i sicrhau'r prisiau gorau heb unrhyw ffioedd archebu.
Manylion allweddol: Trenau o Amwythig i Gwmbrân
- Hyd y daith: Tua 1 awr 36 munud (1 awr 27 munud yw’r trên cyflymaf)
- Oes trenau uniongyrchol ar gael? Oes
- Trên cyntaf: 05:14 | Trên olaf: 23:20
- Amlder: Tua 30 trên y dydd (2 3 gwasanaeth yr awr)
- Prif arosfannau: Casnewydd, Y Fenni, Henffordd, Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd
- Gorsaf darddiad: Amwythig
- Gorsaf gyrchfan: Cwmbrân
- Cyfleusterau: Seddi eang, Wi-Fi am ddim ar y trên
- Arbedion ar docynnau: Prynwch docynnau Advance, defnyddiwch gerdyn rheilffordd neu teithiwch y tu allan i oriau brig er mwyn cael y gwerth gorau am eich arian.
Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â threnau o Amwythig i Gwmbrân
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Amwythig i Gwmbrân?
Mae'r daith yn cymryd tua 1 awr a 36 munud ar gyfartaledd, gyda'r trenau cyflymaf yn gwneud y daith mewn tua 1 awr a 27 munud.
Oes trenau uniongyrchol o Amwythig i Gwmbrân?
Oes, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau'n rhai uniongyrchol - does dim angen newid trên. Mae trenau uniongyrchol yn rhedeg yn aml drwy gydol y dydd.
Pa mor aml mae trenau o Amwythig i Gwmbrân?
Mae tua 30 o wasanaethau'n rhedeg bob dydd, tua phob 20 munud yn ystod cyfnodau prysur.
Pryd mae'r trên cyntaf o Amwythig i Gwmbrân?
Mae'r gwasanaeth cyntaf yn gadael tua 05:14 o Amwythig.
Pryd mae'r trên olaf o Amwythig i Gwmbrân?
Mae'r trên olaf yn gadael tua 23:20.
Beth yw'r amser gorau i deithio o Amwythig i Gwmbrân ar y trên?
Os ydych chi'n hyblyg, ceisiwch deithio y tu allan i oriau brig (ar ôl 09:30 neu cyn 16:00) i fanteisio ar gerbydau tawelach a phrisiau rhatach o bosib, y tu allan i oriau brig. Gall prynu tocynnau Advance ar benwythnosau hefyd gynnig gwerth rhagorol am eich arian. Gall ein cynllunydd teithiau eich helpu i ddod o hyd i'r daith ddelfrydol.
Pam teithio ar y trên o Amwythig i Gwmbrân?
Mae Cwmbrân yn cynnig cyfuniad o siopau modern, mannau gwyrdd ac atyniadau sy'n addas i’r teulu cyfan, sy’n berffaith ar gyfer diwrnod allan hamddenol neu’r ddihangfa ddelfrydol am benwythnos.
Dyma ychydig o bethau i'w gwneud pan fyddwch yn cyrraedd:
- Canolfan Siopa Cwmbrân - Un o'r canolfannau siopa dan do mwyaf yng Nghymru, gyda dros 170 o siopau, caffis a bwytai i'w harchwilio.
- Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange - Mwynhewch gelfyddydau, crefftau ac arddangosfeydd cyfoes yn yr ardal gymunedol groesawgar hon ger canol y dref.
- Llyn Cychod Cwmbrân - Man gwych i deuluoedd, gyda chychod pedlo, parc chwarae a digon o le i gael picnic.
- Fferm gymunedol Greenmeadow - Dewch i gwrdd â'r anifeiliaid, ewch ar daith dractor neu mwynhewch brofiadau ymarferol ar y fferm weithredol hon sy'n berffaith ar gyfer teuluoedd.
- Coedwig Gymunedol Blaen Bran - Yn ddelfrydol ar gyfer cerddwyr a phobl sy'n dwlu ar natur, mae'r coetir heddychlon hwn yn cynnig llwybrau hardd a golygfeydd prydferth o'r ardal gyfagos.
Angen mwy o syniadau? Ewch i’n canllaw cyrchfannau De Cymru i archwilio beth sydd gerllaw.
Amseroedd trenau Amwythig i Gwmbrân
Mae trenau o Amwythig i Gwmbrân yn rhedeg yn aml drwy gydol y dydd. Defnyddiwch ein cynllunydd teithiau neu ap i wirio amseroedd gadael byw ac archebu’r tocynnau gwerth gorau cyn eich taith.
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu eich tocynnau trên o Amwythig i Gwmbrân
Arbedwch arian a theithiwch mewn ffordd sy'n addas i chi gyda'r opsiynau canlynol:
- Tocynnau Advance*: Prynwch docynnau’n gynnar i fachu’r prisiau gorau. Dim ond nifer cyfyngedig o’r tocynnau hyn sydd ar gael a gallant werthu allan yn gyflym.
- Cardiau Rheilffordd: Manteisiwch ar ostyngiadau Cardiau Rheilffordd i arbed hyd at draean ar eich taith nesaf
- Tocynnau Unrhyw Bryd: Dyma ein tocynnau mwyaf hyblyg, sy’n caniatáu ichi deithio unrhyw adeg o'r dydd, unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle hawdd ei gyrchu.
*Tocynnau Advance sy’n cynnig ein prisiau gorau a gellir defnyddio disgowntiau Cardiau Rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance oherwydd dim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael a dim ond hyd at 18:00 cyn y diwrnod y byddwch yn teithio y maent ar werth. Byddem yn argymell eich bod yn prynu tocynnau’n gynnar i osgoi cael eich siomi.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-